Pwy oedd Lleucu Llwyd?

  • Cyhoeddwyd

Ar achlysur dathlu 50 mlynedd o berfformio, mae un o grwpiau gwerin mwyaf cyfarwydd Cymru wedi cyhoeddi albwm newydd yr wythnos hon.

Cafodd Ar Log ei ffurfio yn 1976 ar ôl i Bwyllgor Cymreig Gŵyl Lorient benderfynu rhoi llwyfan i ganu gwerin traddodiadol o Gymru yn yr ŵyl yn Llydaw.

Ers hynny, mae'r grŵp wedi rhyddhau 15 o albymau a senglau, a pherfformio'n gyson ar lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt. Mae Ar Log hefyd yn adnabyddus am eu gwaith yn perfformio a chyfansoddi gyda Dafydd Iwan, gan gynnwys yr anthem eiconig, Yma o Hyd.

Un o ganeuon yr albwm newydd yw Mae Lleucu Wedi Marw, cân a gafodd ei chyfansoddi gan Dewi Pws a Huw Chiswell yn wreiddiol.

Ar LogFfynhonnell y llun, DafyddMR
Disgrifiad o’r llun,

Ar Log yn 2018

Ar raglen Rhys Mwyn yn gynharach yr wythnos hon, rhannodd Dafydd Roberts, un o sylfaenwyr Ar Log, hanes y gân:

"Rydan ni wedi rhannu'r llwyfan droeon gyda Dewi, yn enwedig yn ddiweddar, ac wedi bod yn canu Lleucu Llwyd ers amser maith.

"Roedden ni'n teimlo ein bod ni eisiau rhoi un trac ar yr albwm oedd yn deyrnged i Dewi.

"Mae Lleucu Wedi Marw yn diweddaru hanes Lleucu Llwyd."

Felly, pwy yn union oedd Lleucu Llwyd, enw sydd mor gyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymru?

Poster o Lleucu Llwyd gan Y Lolfa, sy'n cynnwys gwaith T Glynne JonesFfynhonnell y llun, Paul Nicols/Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Poster o Lleucu Llwyd gan Y Lolfa, sy'n cynnwys gwaith T Glynne Jones

Eglurodd Dafydd: "Mae pobl weithiau'n meddwl ei bod hi'n dod o Lucy Gray, sef cerdd gan William Wordsworth. Ond mae cymeriad Lleucu Llwyd yn rhagflaenu Wordsworth o tua 300 mlynedd.

"Cymeriad o Bennal oedd Lleucu Llwyd.

"Roedd hi mewn cariad gyda bardd o'r enw Llywelyn Goch [ap Meurig Hen]. Doedd ei thad ddim yn hoffi'r syniad ei bod hi'n mynd gyda'r bardd hwn, a threfnu i'r bardd hwn gael ei anfon i lawr i dde Cymru. Yna, dywedodd wrth Lleucu ei fod wedi priodi rhywun arall - nad oedd yn wir.

"Fe wnaeth hi farw o dorcalon. Yn ôl y sôn, daeth o'n ôl ar ddiwrnod ei chladdu. Mae cofnod o hyn ym Mhennal."

Ar ôl iddi farw, canodd Llywelyn Goch farwnad iddi, ac mae'n un o gerddi enwocaf llenyddiaeth Gymraeg, sef Marwnad Lleucu Llwyd. Dyma bwt ohoni:

Lleucu dlos, lliw cawod luwch,

Pridd a main, glain galarchwerw,

A gudd ei deurudd, a derw.

Gwae fi drymed y gweryd

A'r pridd ar feistres y pryd!

Y gred gyffredinol yw ei bod hi'n un o'r cerddi dwysaf o'i bath yn y Gymraeg, ond er hynny mae'r amrywiadau ohoni sy'n ymddangos mewn testunnau a chyfrolau yn awgrymu ei bod wedi cael ei mwynhau'n eang dros y canrifoedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig