Y cyn dditectif sydd wedi sgwennu 14 nofel trosedd

- Cyhoeddwyd
Yn 1998, ar ôl dros tri degawd yn gwasanaethu gyda Heddlu Gogledd Cymru, fe roddodd John Alwyn Griffiths ei fathodyn i lawr am y tro olaf.
Ond, doedd ganddo ddim bwriad o ymddeol, yn hytrach, yn gwbl ddibrofiad, aeth ati i ysgrifennu nofel yn adrodd hanes y Ditectif Jeff Evans yn Dan yr Wyneb.
Bellach mae John yn un o brif awduron ffuglen dditectif Gymraeg, wedi cyhoeddi 14 o nofelau a'r un ddiweddara, Dan Ormes allan yn y siopau ers cyn y Nadolig.
Beth felly ysgogodd y cyn-blismon i fynd ati i ysgrifennu, a faint o'i brofiadau personol yn gweithio i'r heddlu sydd wedi'i amlygu ei hunain yn ei nofelau?
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru Fyw, fe soniodd John am ei yrfa a'r ysfa i fynd ati i ysgrifennu.
Ymuno â'r heddlu
Fe ymunodd John â'r heddlu fel cadet yn 1966, gan weithio'n raddol drwy sawl adran yng ngogledd Cymru; Pwllheli, Llangefni, Caergybi a Chonwy. Cafodd ei ddyrchafu'n raddol hyd nes iddo ddod yn Bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru, cyn ymddeol yn 1998.
Mae'r profiad hwnnw'n amlygu ei hun yn ei nofelau, nid trwy adrodd hanesion uniongyrchol, ond trwy ddealltwriaeth drylwyr o brosesau'r heddlu, ymholiadau cymhleth ac ymddygiad troseddwyr.
Mae hyd yn oed tref Glan Morfa sy'n sail i'w nofelau i gyd yn rhyw "gymysgedd o'r holl drefi dwi wedi gweithio ynddyn nhw, a hefyd y bobl dwi wedi dod ar eu traws yn y trefi hynny," meddai.
"Dwi byth yn defnyddio achosion go iawn. Ond mae gen i'r fantais o wybod yn union sut mae ymchwiliad mawr yn gweithio."
Er bod ei gyfres yn ffuglen, mae'r prif gymeriad, y Ditectif Jeff Evans, yn adlewyrchu dylanwad sawl cydweithiwr go iawn. "Mae yna hanner dwsin o bobl ynddo fo," meddai John, "a rhan ohono fi fy hun hefyd."
Fe'i hysbrydolwyd gan bobl y bu'n gweithio'n agos â nhw. Mae Evans yn ddyn teuluol, weithiau'n ddyn dan bwysau, ac yn aml yn cael ei wthio rhwng y gyfraith a'i gydwybod - darlun sy'n teimlo'n realistig oherwydd ei fod wedi'i seilio ar brofiadau personol yr awdur.

Dyma ble fydd John yn treulio chwe awr pob dydd yn ysgrifennu
Un peth mae John yn ei wneud yn ogystal ag ysgrifennu am ei brofiadau ei hun yw ceisio chwilio am blot sy'n gyfredol i'r hyn sy'n digwydd allan yn y byd go iawn.
Yn Dan Ormes, mae John yn troi ei olwg at ddau bwnc sy'n dal sylw cymdeithas gyfoes: trais yn y cartref a defnydd o vapes anghyfreithlon ymhlith pobl ifanc.
Wrth ysgrifennu am gamdriniaeth ddomestig, mae John yn defnyddio ei gefndir ond hefyd yn gwneud ymchwil fanwl gyda sefydliadau fel Cymorth i Ferched Cymru ac asiantaeth Gorwel, er mwyn sicrhau sensitifrwydd a chywirdeb.
"Ro'n i'n teimlo'n gryf y dylid codi'r llen ar y troseddau hyn," meddai.
Un pwnc arall sy'n codi'i ben yn y nofel yw'r defnydd o fêps ymysg pobl ifanc. Yn y nofel mae mab Jeff Evans yn cael ei ddal i mewn i fyd fêps sy'n cynnwys sylweddau anghyfreithlon.
Mae John yn cyfaddef ei fod yn defnyddio'r newyddion yn gyson fel man cychwyn i blotiau newydd. "Mae'r peryglon sy'n dod o'r hyn sy' ynddyn nhw - wel, does neb yn hollol siŵr," meddai wrth sôn am y fêps.

John a'i wraig Glen gyda un o'i nofelau
Mae llwyddiant John yn syndod iddo ei hun. "Fyswn i byth wedi meddwl y byddwn i yn y sefyllfa yma," meddai wrth chwerthin. Ond mae'n cydnabod bod y gefnogaeth gan ddarllenwyr a'r galw cynyddol yn ei yrru ymlaen i greu mwy.
Mae pob un o nofelau John wedi'i eu galw yn Dan... rhywbeth ac mae'n bwriadu parhau gyda'r gyfres yn yr un modd.
Pam felly y teitl gyda'r gair Dan? Mae'n esbonio'n syml: "Y teitl cyntaf oedd Dan y Wyneb a hwnnw osododd y patrwm, ac mae'r posibiliadau'n ddiderfyn wedi hynny.
"Fel arfer dwi ddim yn meddwl na chadarnhau'r teitl nes i mi orffen ysgrifennu y nofel, dyna'r dasg ddiwethaf i mi ydi penderfynu ar y teitl."
Unwaith y bydd John wedi gorffen un nofel, mae'n symud ymlaen bron yn syth at y nesaf.
"Erbyn tua mis Awst fel arfer dwi'n meddwl am y plot ac unrhyw themau," meddai.
"Wedyn byddai'n sgwennu drwy'r gaeaf a cheisio cael y nofel yn barod erbyn tua diwedd mis Mawrth, fyddai'n trïo sgwennu am rhyw chwe awr bob dydd a chael y penwythnosau i ffwrdd," meddai.
Ond, er iddo fwriadu parhau i ysgrifennu a pheidio stopio ar nofel rhif 14, mae'n cyfaddef fod meddwl am blotiau newydd yn mynd yn anoddach.
"Mae hi yn mynd yn anoddach ond mae'r awch dal yno, ond do'n i byth yn meddwl y baswn i yn y sefyllfa yma ar ôl ymddeol, ond cyhyd fod y gofyn yno am fwy o nofelau yna dwi am gario mlaen.
"Dwi'n ddiolchgar iawn i gwasg Carreg Gwalch am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd. Doedd gen i bron dim profiad o sgwennu creadigol ar ôl gadael yr heddlu, dim ond sgwennu'n ffeithiol am achosion gwahanol, ond mae cael cyd-weithio dros y blynyddoedd gyda'r wasg wedi bod yn brofiad braf," meddai.
Cadarnhad felly y bod hir oes i gymeriad Jeff Evans a mwy o straeon ditectif gan un oedd mor brofiadol am ddal lladron yn ystod ei yrfa.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.