Gwaith atgyweirio Pont y Borth i barhau tan y gwanwyn 2027

Pont y BorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Disgwyl i'r gwaith o atgyweirio Pont y Borth orffen erbyn gwanwyn 2027

  • Cyhoeddwyd

Bydd ail gam gwaith atgyweirio Pont y Borth yn dechrau fis Chwefror eleni, gyda disgwyl i'r gwaith ddod i ben yng ngwanwyn 2027.

Y llynedd roedd yna oedi i'r ail gam oherwydd "materion caffael, gofynion ychwanegol a materion o ran cael trwyddedau angenrheidiol".

Y bwriad bryd hynny oedd gorffen y gwaith atgyweirio erbyn haf 2026, ond bellach mae'r rhaglen wedi'i hailgynllunio er mwyn lleihau'n sylweddol yr angen am reoli traffig ar y bont a "lleihau tarfu ar drigolion, cymudwyr a busnesau".

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai eu nod oedd "parhau i gynnal y strwythur eiconig hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".

Mewn datganiad, dywedodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru fod y gwaith yma yn hanfodol er mwyn sicrhau fod y bont yn "parhau i weithredu'n ddiogel yn y tymor hir".

Ychwanegodd: "Mae gwaith Cam 2 yn cynnwys pecyn cynhwysfawr o waith cynnal a chadw - ond y gwaith mwyaf nodedig yw ailbaentio'r strwythur.

"Yn dilyn cwmni UK Highways A55 Ltd yn ailystyried y rhaglen, ac o ystyried yr asesiadau peirianneg ychwanegol sydd eu hangen ar ôl i broblem godi ynghylch y trawstiau croes critigol y llynedd, mae bellach ddisgwyl i waith Cam 2 ailddechrau ym mis Chwefror, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2027."

Ken Skates ASFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Hoffwn ailadrodd yn blwmp ac yn blaen y rhwystredigaeth a'r siom dwfn a deimlir ynglŷn â'r oedi i'r rhaglen,' medd Ken Skates AS

Er yr oedi gyda chwblhau y gwaith atgyweirio, bydd y cynllun newydd yn sicrhau fod y bont yn parhau i fod ar agor i gerbydau hyd at 7.5 tunnell drwy gydol gwaith Cam 2.

Bydd trefniadau rheoli traffig ar waith am gyfnodau byr hefyd er mwyn cwblhau rhai elfennau allweddol o'r gwaith.

Dywedodd Mr Skates ei fod yn ymwybodol o'r "rhwystredigaeth a'r siom dwfn" sy'n cael eu teimlo yn sgil yr oedi i'r rhaglen.

Ychwanegodd fod partneriaid perthnasol wedi gweithio ar y cyd i ailgynllunio'r rhaglen waith, er mwyn lleihau'n sylweddol yr angen am reoli traffig ar y bont, o'i gymharu â'r cynlluniau cynharach, a thrwy hynny leihau tarfu ar drigolion, cymudwyr a busnesau.

Dathlu'r 200 mlwyddiant

Mae Pont y Borth yn cyrraedd carreg filltir arbennig ddiwedd y mis - bydd hi'n 200 oed ar 30 Ionawr.

Ychwanegodd Mr Skates: "Er ein bod i gyd yn siomedig na ellid cwblhau'r gwaith cyn y garreg filltir arwyddocaol hon, rhaid i ddiogelwch a chadernid strwythurol barhau i fod yn flaenoriaeth bob amser.

Mae trefniadau mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys ar waith pe bai gwyntoedd cryfion neu unrhyw ddigwyddiad arall yn effeithio ar Bont Britannia.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru y byddan nhw yn helpu os bydd unrhyw sefyllfa frys yn effeithio ar Bont Britannia lle y byddai angen defnyddio Pont y Borth i gael mynediad.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth AS Ynys Môn, mae'r oedi pellach yn "annerbyniol".

Dywedodd: "Bydd yr oedi pellach i'r gwaith ar Bont y Borth yn newyddion rhwystredig i bobl lleol.

"Mae'n annerbyniol na fydd y gwaith i drwsio pont a gaeodd yn 2022 yn cael ei gwblhau tan 2027 - ddwy flynedd yn hwyrach na'r addewid gwreiddiol.

"Fodd bynnag, rwy'n croesawu'r ffaith bod ein galwadau i wneud popeth posibl i leihau mesurau rheoli traffig wedi cael eu clywed, ac y bydd yr anghyfleustra i deithwyr yn fwy cyfyngedig ei natur o hyn ymlaen, gydag addewid y bydd rheoli traffig yn cael ei gyfyngu i ychydig ddyddiau ar y tro, yn hytrach nag wythnosau neu fisoedd."

Rhiannon Elis-Williams
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hi'n rhwystredig bo' ni ddim yn gweld pen y daith i'r bont," medd Rhiannon Elis-Williams

Un sy'n rhedeg busnes lleol ac yn byw ar Ynys Môn ydy Rhiannon Elis-Williams, oedd yn dweud nad ydy'r newyddion o "syndod" iddi.

"Di o ddim yn syndod â bod yn onast, achos mae o tua'r trydydd, pedwerydd gwaith i ni gael yr un neges rŵan."

A hithau'n dathlu dwy ganrif ar ddiwedd y mis, dywedodd Ms Elis-Williams ei bod hi'n "rhwystredig bo' ni ddim yn gweld pen y daith i'r bont".

"Dwi bron â deud bo' ni 'chydig bach yn embarrassed," meddai, gan gyfeirio bod y bont ddim yn gwneud yr hyn y mae hi wedi ei gyflawni am 200 mlynedd.

"Ma' pobl leol yn flin erbyn rŵan" ac ychwanegodd ei bod hi'n "biti", gan fod y bont yn denu ymwelwyr yno ac yn enwog.

"Yr ansicrwydd ydy'r peth gwaetha' a'r diffyg cyfathrebu o'r cychwyn."

Jane Walsh
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jane Walsh ei bod yn "poeni am y bont yn mynd ymlaen fel hyn, mae'n teimlo fel ei fod yn mynd ymlaen am byth, fel yna mae'n teimlo"

Hefyd yn rhedeg busnes yn lleol mae Jane Walsh a dywedodd hi bod y datblygiad diweddaraf "lot hirach nag oedden ni'n meddwl".

Mae hi'n gobeithio y gwneith yr awdurdodau "drwsio fo a gadael ryw fath o lonydd ar agor a deud pryd fyddan nhw'n cau yn iawn".

"Dwi'n poeni am y bont yn mynd ymlaen fel hyn, mae'n teimlo fel ei fod yn mynd ymlaen am byth, fel yna mae'n teimlo."

Ychwanegodd Ms Walsh fod angen iddyn nhw egluro pryd fydd diwrnod olaf y gwaith a'r mis penodol: "Y diwrnod ola', o'r mis ola' - mi fyddai hynny'n grêt."

Ei gobaith ydy y bydd "popeth wedi cael ei drwsio a gadael un lôn ar agor i fynd un ffordd i'r llall - unrhyw un! Dwi ddim yn meindio [pa un]".

Pynciau cysylltiedig