Lluniau: Llewyrch yr Arth yn goleuo Cymru nos Lun

Goleuadau'r GogleddFfynhonnell y llun, Gail/BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Bae Trearddur, Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Llewyrch yr Arth - yr aurora borealis - gynnig gwledd o ddelweddau ar draws Cymru nos Lun.

Mae'r golygfeydd i'w gweld oherwydd cyfuniad o'r golau gogleddol arferol a gweithgaredd anghyffredin ar wyneb yr haul - stormydd solar.

Nos Lun roedd posib gweld y golau coch, piws, melyn a gwyrdd ar draws Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhannau o Loegr.

Mae sawl enw gwahanol am yr aurora borealis yn Gymraeg - Gwawl y Gogledd, Goleuadau'r Gogledd, Ffagl yr Arth a Llewyrch yr Arth.

Fel mae'r lluniau yma yn dangos, roedd y lliwiau trawiadol i'w gweld ledled Cymru.

Goleuadau'r GogleddFfynhonnell y llun, Helen Ann
Disgrifiad o’r llun,

Dyffryn Conwy

Goleuadau'r GogleddFfynhonnell y llun, morseyboy/BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Llanina, Ceredigion

Goleuadau'r GogleddFfynhonnell y llun, Helen/BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Yr awyr uwchben Arberth, Sir Benfro

Goleuadau'r GogleddFfynhonnell y llun, Cardi Snaps/BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Ceinewydd, Ceredigion

Goleuadau'r GogleddFfynhonnell y llun, Meinir Lloyd Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Penmachno, Sir Conwy

Goleuadau'r GogleddFfynhonnell y llun, Charls/BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Goleuadau'r Gogledd ger goleudy Talacre, Sir Fflint

Goleuada'r Gogledd uwchben BethesdaFfynhonnell y llun, Gareth Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bethesda, Gwynedd

Goleuadau'r GogleddFfynhonnell y llun, Meinir Lloyd Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Penmachno

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig