Adolygu tystiolaeth fforensig llofruddiaethau Russell

Bu farw Lin a Megan Russell ychydig fisoedd wedi iddyn nhw symud o Ddyffryn Nantlle i Gaint
- Cyhoeddwyd
Mae euogfarnau Michael Stone am lofruddiaethau Lin Russell a'i merch Megan, yng Nghaint yng Ngorffennaf 1996, yn parhau i gael eu hadolygu.
Mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CAAT) sy'n ymchwilio i achosion posib o gamweinyddu cyfiawnder wedi cadarnhau eu bod yn adolygu cais gan dîm cyfreithiol Stone.
Dywedodd ei fargyfreithiwr Mark McDonald ei fod wedi comisiynu arbenigwr fforensig i adolygu'r dystiolaeth a arweiniodd at euogfarn Stone.
Mae datblygiadau mewn gwyddoniaeth fforensig yn golygu bod profion bellach yn "llawer mwy soffistigedig" nag ar adeg yr ymchwiliad gwreiddiol.

Cafwyd Michael Stone yn euog o ddau gyhuddiad o lofruddiaeth ac un cyhuddiad o geisio llofruddio
Roedd Lin Russell yn cerdded adref o'r ysgol gyda'i phlant ar hyd lôn wledig yn Chillenden, ar ôl symud i fyw yno o Ddyffryn Nantlle, pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Bu farw Ms Russell, 45, a'i merch chwech oed, Megan, ond fe oroesodd Josie Russell, a oedd yn naw oed ar y pryd.
Mae Stone wedi mynnu'n gyson ei fod yn ddieuog, er i ddau reithgor - yn 1998 ac yn 2001 - benderfynu i'r gwrthwyneb.
Ym mis Gorffennaf, dyfarnodd Comisiwn CAAT nad oedd "unrhyw bosibilrwydd gwirioneddol" y byddai'r Llys Apêl yn diddymu ei euogfarnau ond yna ym mis Hydref 2025 cadarnhaodd eu bod nhw'n adolygu'r euogfarnau unwaith eto.
Ym mis Hydref, dywedodd y CAAT mewn datganiad "nad oedd adolygiadau blaenorol wedi canfod unrhyw dystiolaeth na dadl gredadwy y byddai'r euogfarnau'n cael eu diddymu, nid yw'r casgliadau hyn wedi'u heffeithio gan yr adolygiad newydd".
Dywedodd llefarydd ar ran y CAAT wedi'r adolygiad diweddaraf: "Rydym yn archwilio'r holl bosibiliadau y mae'r cais yn eu codi i benderfynu a allai camweinyddu cyfiawnder fod wedi digwydd yn achos Mr Stone.
"Ein prawf ar gyfer cyfeirio achos yw bod posibilrwydd gwirioneddol y byddai'r Llys Apêl yn gwrthdroi yr euogfarn - prawf na chafodd ei fodloni yn unrhyw un o'r ceisiadau cynharach."
Dywedodd y byddai'n "amhriodol i ni drafod yr achos neu wneud unrhyw sylwadau pellach tra bod y cais yn cael ei adolygu".

Llun o Shaun, Lin, Megan a Josie Russell mewn bwyty yn 1996 a gafodd ei rannu gan Heddlu Caint
Comisiynodd bargyfreithiwr Stone, Mark McDonald, adroddiad gan yr arbenigwr fforensig Angela Gallop, sydd wedi archwilio'r dystiolaeth wreiddiol a arweiniodd at euogfarn Stone.
Dywedodd McDonald wrth y BBC mai'r "strategaeth fforensig" oedd y tro cyntaf i archwiliad llawn o bob dim gael ei gynnal i sefydlu a ellid dod o hyd i unrhyw ddeunydd fforensig.
Dywedodd fod datblygiadau mewn gwyddoniaeth fforensig yn golygu bod profion bellach yn "llawer mwy soffistigedig" nag ar adeg yr ymchwiliad gwreiddiol, ac yn gallu adnabod deunydd newydd.
"Dyma un o'r elfennau sy'n fy argyhoeddi bod Michael Stone yn ddieuog," meddai.
"Nid yw person euog yn dweud 'daliwch ati i brofi, profwch hyn, profwch hynny'."

Lin Russell gyda chŵn y teulu
Dywedodd McDonald nad oedd unrhyw DNA yn perthyn i Stone wedi'i ganfod ar eitemau allweddol - eitemau y byddai disgwyl deunydd fforensig gan yr ymosodwr arnynt fel arfer, meddai.
Roedd hyn yn cynnwys llinyn esgidiau a ddefnyddiwyd adeg y lofruddiaeth ac i glymu'r dioddefwyr - gallai fod yn destun profion mwy soffistigedig, meddai.
Disgrifiodd y dystiolaeth a ddefnyddiwyd yn yr achos fel un "o natur wan ac annibynadwy" a dywedodd na ddylai erioed fod wedi cael ei chyflwyno gerbron rheithgor.
Symudodd Shaun a Josie Russell yn ôl i Wynedd o Gaint ar ôl yr ymosodiad ac mae Josie, sy'n artist, wedi dychwelyd i'r cartref lle cafodd ei magu yn Nyffryn Nantlle ers hynny.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2023
