Y chwiorydd ifanc sy'n rhedeg tafarn wledig yng Ngheredigion

- Cyhoeddwyd
Ym mis Ebrill 2025 fe ymgymrodd dwy chwaer ifanc o Bontarfynach â rhedeg tafarn wledig yng Ngheredigion. Mae tafarn Halfway Inn ym mhentref Pisgah, sydd rhyw chwarter awr o dref Aberystwyth.
Dwy chwaer yw Beca a Mali James sy'n 23 a 20 mlwydd oed ac wedi ymgymryd â'r her o redeg tafarn yr Halfway Inn ar ôl i gyn-berchnogion y dafarn ofyn a fydden nhw'n hoffi cymryd yr awennau.
"Roedd syniadau 'da ni o be' o'n ni moyn 'neud ond ddim lot o clue, really!" meddai Mali, wrth sôn am y ffaith eu bod nhw wedi neidio i mewn i'r gwaith o redeg y dafarn heb lawer o brofiad gweithio mewn tafarn.
Roedd ganddyn nhw, fodd bynnag, brofiad o redeg caffi. Mae busnes arlwyo yn eu gwaed – eu mam-gu a thad-cu nhw fu'n rhedeg caffi Two Hoots ym Mhotarfynach am dros 30 mlynedd.

"Y plan oedd o'n ni a Mam am gymryd e drosto a'i wneud e fel caffi ein hunain, ond 'naeth e ddim gweithio mas.
"Roedd y ddwy ohonom yn edrych ymlaen yn fawr i'r dyfodol yn Nghaffi Two Hoots a dilyn ôl traed Nana a Tac a oedd wedi rhedeg y caffi ers 34 o flynyddoedd.
"Roedd y ddau wedi rhoi eu bywydau i'r caffi ac wedi adeiladu busnes llewyrchus iawn a oedd yn fangre bwysig, nid dim ond i ymwelwyr ond i'r gymuned leol.
"Yn anffodus nid oedd caffi yn rhan o gynlluniau dyfodol y rheilffordd [Rheilffordd Cwm Rheidiol] ac yn hollol annisgwyl, terfynwyd y contract.
"Roedd yn gyfnod anodd iawn i ni fel teulu ond wrth edrych yn ôl nawr rydym yn ddiolchgar iawn ac yn credu'n gryf bod pethau'n digwydd am reswm!"
Felly ar ôl cyfnod o wneud bwyd i'r "bois rygbi yn Aberystwyth" fel ddaeth y cais gan gyn-berchnogion yr Halfway Inn.

Ffan enwog: Y Welsh Whisperer yn ymweld â'r dafarn
Wrth reswm, roeddent yn gyfarwydd â rhai elfennau o gynnal busnes arlwyo a lletygarwch, ond roedd ambell beth arall gwbl newydd iddynt, fel tynnu peint!
"Ni wedi setlo nawr. Yn ystod y dydd ni'n gweithio fwy fel caffi. Do'n ni ddim moyn colli mas ar y caffi, doedden ni ddim moyn colli Two Hoots fel caffi 'chwaith, felly yn y dydd ni'n galw ein hunain yn Two Hoots at the Halfway," eglurodd Beca.
Maent yn lwcus iawn o'r gymuned sy'n eu cefnogi medden nhw, gyda "locals night" ar nos Wener, a'r dafarn yn llawn am gwpl o oriau ddydd Nadolig gyda'r bobl leol yn picio mewn am lymaid.
"Ni just yn cael laff y diawl 'da nhw," dywedodd Mali, "maen nhw wedi bod yn amazing, chwarae teg."

Mae'r dafarn yn Pisgah tua chwarter awr o Aberystwyth
Ers cymryd yr awennau mae'r merched wedi cynnal bob mathau o bethau gan gynnwys digwyddiadau i godi arian i elusennau. Ddiwedd 2025, roedd te prynhawn 'Unlimited Prosecco' yno, gyda rhai o ddynion ifanc yr ardal yn gweini.
"Fi'n credu mai hwnna oedd highlight y flwyddyn i fi," meddai Beca.
"Dw i'n credu bydd rhaid i ni wneud dau flwyddyn yma achos mae pawb wedi dweud maen nhw am ddod yn ôl!"

Grŵp yn mwynhau'r tê prynhawn â phroseco di-ddiwedd!
Cafodd Bore Coffi ei gynnal yn y dafarn er cof am eu modryb, Peta. Bu farw Peta ym mis Ionawr 2025 o ganser y coluddyn.
Fe gododd y merched a mynychwyr y dafarn £2,000 tuag at gymorth canser y coluddyn.
Cafodd siec ei chyflwyno i nyrs Nerys Thomas ar ran uned colorectal Ysbyty Bronglais.
Mae Beca a Mali yn gobeithio parhau i godi arian at achosion arbennig.

Cyflwyno siec o £2061.90 i uned cancr y coluddyn Ysbyty Bronglais
Ond ar hyn o bryd, mae'r ddwy chwaer yn gobeithio parhau i wneud mwy o'r hyn maen nhw wedi'i wneud fel cynnal nosweithiau Murder Mystery a cwisys i gadw'r bwrlwm i fynd ac adeiladu ar hynny.
Felly wrth edrych tua'r garreg filltir o flwyddyn wrth y llyw, beth mae'r merched yn gobeithio amdano?
"Mae [cymryd y busnes] wedi bod yn tough, ond fel o'n i'n dweud ni wedi dechrau setlo nawr. Felly gobeithio gallwn ni roi bach mwy o touch ni arno fe, a'i wneud o bach fwy fel ein hunain a just joio mas draw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
