Catrin Nye: 'Y profion gwaed sy' wedi newid fy mywyd i'

Catrin Nye
- Cyhoeddwyd
"Mae cemegion o'n cwmpas ni o hyd oherwydd blynyddoedd o ddatblygiad diwydiannol a'r ffordd ry' ni'n byw ein bywydau."
Un person sy' wedi newid ei ffordd o fyw yn 2025 yw'r newyddiadurwraig Catrin Nye o Aberhonddu wedi iddi ddarganfod drwy ei gwaith ar raglen Panorama ar y BBC fod lefel y cemegion tragwyddol (forever chemicals) yn ei gwaed yn uchel.
Arweiniodd ei gwaith ar y rhaglen iddi ailfeddwl ei ffordd o fyw yn gyfan gwbl ar ôl i'w gwaed gael ei fesur am gemegion tragwyddol, neu PFAS, sef llygryddion parhaus sy' ddim yn torri lawr yn hawdd ac sy'n cronni yn yr amgylchedd.
Mae cemegion tragwyddol wedi cael eu defnyddio ers degawdau mewn pob math o bethau o ddillad tywydd gwlyb i lestri coginio, electroneg ac offer meddygol. Maent yn bodoli yn ein cartrefi, yn ein dŵr ac yn ein bwyd.
Mae gwyddonwyr wedi cysylltu nifer fach ohonynt â niwed difrifol fel anffrwythlondeb a chanser.
Fel rhan o'r rhaglen cafodd Catrin brofion gwaed i weld faint o PFAS oedd yn ei gwaed, prawf a gafodd effaith fawr arni fel y dywedodd wrth Cymru Fyw: "Ro'n i wir wedi synnu.
"Ro'n i'n gwybod bod gan bawb PFAS yn eu gwaed ond ro'n i hefyd wedi cael gwybod drwy fy ymchwil mai, yn anffodus, un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gael gwared ar y cemegion PFAS hyn o'ch corff chi yw drwy geni plentyn.
"Felly ro'n i'n meddwl, dw i wedi cael dau o blant yn eithaf diweddar a byddai hynny'n golygu bod fy lefelau'n is.
"Y lefel sy'n cael ei ystyried yn ddiogel yw dau nanogram y mililitr. Ond daeth fy nghanlyniad i nôl yn 9.8 - gymaint yn uwch nag o'n i'n ddisgwyl. Ro'wn i'n wirioneddol synnu.
"Dw i hefyd yn trio bwyta'n eithaf iach ac felly yn fy mhen i o'n i'n meddwl fyddai hynny wedi helpu. Ond yn amlwg y gwir yw bod y cemegion hyn yn y rhan fwyaf o'n bwyd ni felly does dim gwahaniaeth os ydw i'n bwyta'n iach."

Ymateb Catrin ar y rhaglen i chanlyniad y profion gwaed
Newid ffordd o fyw
Yn ôl Dr Sabine Donnai, arbenigwraig mewn gofal iechyd ataliol sy'n ymddangos ar y rhaglen Panorama, mae unrhyw lefel o PFAS uwch na 2ng (nanogram) y mililitr o waed yn cael ei ystyried yn risg iechyd. Nid yw hi erioed wedi cwrdd ag unrhyw un heb rywfaint o PFAS yn eu gwaed.
Felly sut mae Catrin wedi newid ei ffordd o fyw o ganlyniad?
Dywedodd: "Byddwn i'n dweud bod rhai pethau wnes i'n syth fel newid fy mhadelli o rai sy' ddim yn glynu [non-stick] i rai dur / seramig oherwydd bod hynny'n newid hawdd i wneud.
"Mae popeth arall yn cymryd mwy o amser. Dw i'n cael hidlydd dŵr wedi'i roi o dan y sinc yn fy nhŷ oherwydd dwi llawer mwy ymwybodol nawr o ansawdd y dŵr tap dwi'n yfed.
"Un o'r pethau mawr yw dod o hyd i siopau sy'n gwerthu pethau sy'n rhydd o PFAS. Er enghraifft, dw i eisiau ryg newydd yn ystafell wely fy mab. Cyn y rhaglen, mae'n siŵr y fydden i wedi mynd allan a phrynu'r un o'n i'n hoffi fwyaf.
"Nawr dw i'n gwneud yn siŵr 'mod i'n dewis un sy'n rhydd o PFAS.
"Y peth ofnadwy yw mod i ddim yn gwybod o ble mae'r ffynonellau mwyaf o PFAS yn fy mywyd i yn dod.
"Dw i hefyd yn lliwio'n 'ngwallt felly dw i'n trio dod o hyd i ffordd o'i wneud sy'n lanach."

Mae cemegion PFAS mewn canoedd o eitemau ar draws y tŷ
PFAS yn y pridd
Un o'r pethau mwyaf syfrdanol ddysgodd Catrin drwy'r rhaglen oedd am darnau o dir gardd ar osod [allotments] ger ffatri cemegol yn Sir Gaerhirfryn. Roedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi profi nhw am PFAS, fel y mae Catrin yn egluro: "Yn amlwg mae tyfu eich llysiau eich hun yn un o'r pethau mwyaf iach gallwch chi wneud.
"Ond 'naethon nhw ddod o hyd i lefelau uchel o PFAS yn y pridd yno, gan gynnwys cemegyn PFAS sy' wedi ei wahardd.
"Ac yna roedd yn rhaid i'r cyngor lleol ddweud wrth berchnogion y tir y dylen nhw ystyried yn ofalus iawn cyn bwyta eu llysiau eu hunain.
"A dyna le oedd pobl oedd yn trio gwneud rhywbeth hynod iach a naturiol yn darganfod, oherwydd bod ffatri gemegol wedi bod gerllaw ers blynyddoedd, y gallai'r llysiau fod wedi'u heintio'n ddifrifol."
'Un peth arall i boeni amdano'
Mae'r profiad wedi gwneud Catrin yn llawer mwy ymwybodol o docsinau a chemegion yn yr amgylchedd: "Maen nhw o'n cwmpas ni. Maen nhw ar y carped dw i'n eistedd arno nawr.
"Dw i wedi dod gymaint yn fwy ymwybodol ac mae'n dipyn o dristwch mai dim ond un peth arall yw hwn i boeni amdano pan mae cymaint o bethau eraill i boeni am y dyddiau yma.
"Y prif beth o'n i'n teimlo oedd gallwn ni i gyd wneud ein gorau i geisio lleihau'r cemegion hyn yn ein bywydau ac yn ein cyrff ond mae'r pethau hyn bron tu hwnt i ni.
"Mae'n ymwneud â rheoleiddio gan y llywodraeth ac hefyd mae'n ymwneud â diwydiannau'n chwilio am ddewisiadau amgen i'r cemegion hyn.
"Dydy'r cyfrifoldeb ddim i gyd arnom ni."
Cyngor gan Dr Sabine Donnai i leihau'r PFAS yn eich amgylchedd
Cynyddu'r ffibr yn eich deiet drwy fwyta mwy o geirch, haidd, ffa, cnau a hadau.
Adnabod y ffynonellau mwyaf o PFAS yn eich cartref, er enghraifft, newid llestri coginio nad ydynt yn glynu am rai seramig / dur neu haearn, defnyddio hidlydd dŵr a newid i gynhyrchion glanhau eco-gyfeillgar sy'n rhydd o PFAS.
Chwilio am golur a chynnyrch gwallt sy'n rhydd o PFAS ac osgoi cynhwysion sydd â "fluoro" neu "PTFE" yn yr enw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
