AI, yr amgylchedd a'r Gymraeg - ond a gafodd bobl ifanc atebion?

Josh, Maya, Erin ac Efan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Josh, Maya, Erin ac Efan ymhlith y disgyblion o Ysgol Plasmawr gafodd gyfle i glywed gan wleidyddion cyn iddyn nhw bleidleisio yn etholiadau'r Senedd am y tro cyntaf eleni

  • Cyhoeddwyd

Os ydy pobl ifanc yn cael eu cyhuddo gan rai o beidio bod â diddordeb yn y byd o'u cwmpas, roedd un neuadd o ddisgyblion yr wythnos hon yn benderfynol o brofi'r gwrthwyneb.

O annibyniaeth i ddigartrefedd, adeiladau ysgol i swyddi AI, nid yn unig oedd y pynciau'n rhai amrywiol - ond roedd gwleidyddion go iawn yno i'w hateb.

Cafodd disgyblion o Ysgol Plasmawr ac Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd gyfle i holi cynrychiolwyr o'r prif bleidiau, wrth iddyn nhw baratoi i bleidleisio am y tro cyntaf.

Ond a wnaeth y gwleidyddion argraff arnyn nhw - ac yn bwysicach, a gawson nhw atebion i'w cwestiynau?

'Yw AI am gymryd ein swyddi?'

Gyda Chymru bellach wedi gostwng yr oedran pleidleisio i 16, mae'n golygu y bydd nifer o ddisgyblion ysgol hŷn yn gymwys i bleidleisio mewn etholiad Senedd am y tro cyntaf eleni.

Roedd yr hystings ddydd Iau felly - wedi ei drefnu a'i redeg gan y disgyblion - yn gyfle i holi am sawl peth cyn y bleidlais ym mis Mai.

"Roedd e'n neis clywed nhw'n siarad am bynciau llosg, pynciau sy'n addas i ni," meddai Erin, 17.

Roedd y panel gerbron y disgyblion hyd yn oed yn cynnwys cyn-brif weinidog Cymru, Mark Drakeford, oedd yno ar ran y blaid Lafur.

Yno hefyd oedd Cefin Campbell AS ar ran Plaid Cymru, y Ceidwadwr James Hambling, a Tessa Marshall o'r Blaid Werdd.

Roedd cynrychiolydd o'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi methu â mynychu oherwydd salwch, tra bod Reform UK heb ymateb i wahoddiad.

Cefin Campbell, Tessa Marshall, Mark Drakeford a James Hambling
Disgrifiad o’r llun,

Y pedwar gwleidydd wynebodd gwestiynau'r disgyblion - (chwith i dde) Cefin Campbell, Tessa Marshall, Mark Drakeford a James Hambling

Un pwnc o ddiddordeb i lawer o'r bobl ifanc oedd deallusrwydd artiffisial, neu AI, a'r bygythiad posib i swyddi'r dyfodol.

Pwysleisiodd Ms Marshall effaith niweidiol canolfannau data ar yr amgylchedd, tra bod Mr Campbell wedi beirniadu camddefnydd o AI ar blatfformau cymdeithasol fel X.

Rhybuddiodd Mr Drakeford nad oedd hi'n "synhwyrol" gweld AI fel rhywbeth drwg yn unig, tra bod Mr Hambling yn awyddus i danlinellu y byddai swyddi'r dyfodol yn mynd i bobl "sy'n deall sut i ddefnyddio AI".

"Fi'n credu oedd lot yn ateb cwestiwn am fygythiad AI yn gyffredinol, ond falle ddim sut fyddai'r effaith ar swyddi ni yn y dyfodol," meddai Maya, 18.

'Wedi helpu fi benderfynu'

Ymhlith y pynciau eraill gafodd eu codi gan y disgyblion roedd annibyniaeth i Gymru, safon isadeiledd ysgolion, a'r argyfwng hinsawdd.

Roedd taclo tlodi, digartrefedd yng Nghaerdydd, a chyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg hefyd ymhlith y cwestiynau gafodd eu rhoi i'r panel.

Gyda'r disgyblion wedi gosod rheolau llym ar ba mor hir roedd y gwleidyddion yn cael siarad, roedd ganddyn nhw hefyd gloch wrth law er mwyn dangos ei bod hi'n amser symud i'r cyfrannydd nesaf.

"Roedd e'n ddiddorol gweld rhai yn ateb cwestiynau yn fwy uniongyrchol, ac yn gwrando fwy, ddim yn osgoi pynciau," meddai Erin.

"Falle ar y dechrau o'n nhw jyst yn trio plesio ni fel pobl ifanc, ond yn araf roedden ni'n dod i 'nabod beth oedden nhw'n sefyll amdano fwy."

panel y gwleidyddion - Cefin Campbell, James Hambling, Mark Drakeford a Tessa Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan y disgyblion oedd yn goruchwylio'r drafodaeth gloch i'w chanu, er mwyn sicrhau bod y gwleidyddion yn cadw at reolau amser

Roedd Josh, 18, yn siomedig nad oedd cynrychiolaeth wedi mynychu o blaid Reform, gan ei fod yn teimlo y byddai'r gynulleidfa wedyn wedi gallu gofyn "cwestiynau ychydig yn wahanol".

Er hynny, roedd yn teimlo fod ei gyd-ddisgyblion wedi cael budd o siarad gyda gwleidyddion go iawn - gyda sawl un yn aros i sgwrsio'n unigol ar ddiwedd y sesiwn.

"Mae hwn wedi gwneud fi'n fwy cyfforddus bod gwleidyddion yn gwybod beth mae pobl ifanc eisiau ac angen," meddai.

"Ond mae dal cymaint o amser i fynd, mae'n anodd gwybod pwy fydda i'n pleidleisio drosto a beth sydd am ddigwydd dros y misoedd nesaf."

disgyblion Ysgol Plasmawr ac Ysgol Bro Edern
Disgrifiad o’r llun,

Bydd etholiad y Senedd ym mis Mai yn gyfle cyntaf i lawer o ddisgyblion chweched dosbarth fwrw pleidlais, gan mai 16 yw'r oedran pleidleisio yng Nghymru

Dywedodd Macsen, 17, ei fod wedi bod yn awyddus i glywed mwy gan Lafur a'r Blaid Werdd, pleidiau nad oedd yn gwybod cymaint amdanynt gynt.

"Llawer o'r amser ar y cyfryngau cymdeithasol rydw i'n gweld pethau am Reform UK a Phlaid Cymru, ond dyna'r unig beth sy'n cael ei wthio i bobl ifanc," meddai.

Fe wnaeth sawl un o'r panelwyr annog y bobl ifanc i ddefnyddio eu pleidlais ym mis Mai - ac yn ôl Macsen, roedd yr hystings wedi tanio ei awydd i wneud union hynny.

"Dwi'n edrych ymlaen achos fi'n gallu rhoi fy marn i mas yna, pleidleisio ar gyfer beth yn union sy'n ffitio i fi," meddai.

"Mae heddiw wedi helpu fi i benderfynu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.