Dathlu arwyr cymunedol Cymru

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth
GanLois Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Ym mis Medi 2025, cynhaliwyd seremoni wobrwyo Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth BBC Cymru am y tro cyntaf. Ymgynullodd ddegau o enwebeion ym Mae Caerdydd i weld pwy fyddai'n ennill eu categori nhw. Roedd yn gyfle i gydnabod yr arwyr tawel sy'n gwneud cymaint o waith pwysig yn ein cymunedau ar draws Cymru.

Llynedd daeth dros 700 o enwebiadau i law mewn wyth categori ac mae'r categorïau yn agored eto at gyfer enwebiadau 2026.

Dyma gyfle felly i ni fynd i ail-ymweld â rhai o'r unigolion anhygoel a gawsant eu henwebu yn 2025.

Sion Telor – enillydd y Wobr Anifeiliaid

Ci sy'n gweithio gyda phobl â Parkinson's yw Sion Telor ac mae'n mynychu sesiynau Dance For Parkinson's yn Pontio, Bangor.

Disgrifiad,

Sion Telor

Dywedodd Helen Angharad sy'n gweithio yn y dosbarth Dance For Parkinson's bod cyfraniad Sion yn werthfawr.

"Mae ei gyfraniad o'n wych bob amser, ond yn enwedig pan mae yna bobl newydd. Aeth o'n syth i gyfarch y ddynes newydd heddiw fel bod o'n croesawu hi i'r dosbarth.

"Ac yn ystod yr amser paned weithiau, efallai dydy pobl ddim yn gwybod be' i ddeud wrth y person nesa' atyn nhw ond maen nhw'n dechrau cyfathrebu efo Sion ac yn fuan iawn mae'r sgwrs yn datblygu."

Fferm Ffit gyda Robin Jones

Robin Jones a Heledd Cynwal
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Heledd Cynwal draw i ardal Yr Wyddgrug i weld sut mae pethau'n mynd i Robin Jones ers ennill Gwobr Gwneud Gwahaniaeth

Fe aeth Heledd Cynwal draw i ardal Yr Wyddgrug i fferm Robin Jones, a enillodd y Wobr Actif yn 2025, i weld sut oedd pethau'n mynd iddo ar gyfer rhaglen arbennig Gwneud Gwahaniaeth.

"Ddaru o gychwyn yn syml iawn i fod yn onest efo breuddwyd fach i droi hen sgubor i rhyw fath o gampfa," eglurodd iddi.

O ran ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol, dywedodd:

"Mae 'na wastad gynllun, ond dw i wirioneddol eisiau ei wneud o'n lle bach mwy cyfforddus i bobl. I bobl allu dod yma, hwyrach dim jyst am sesiwn, ond eu bod nhw'n gallu cael eistedd lawr a cael sgwrs. Dwi'n meddwl mae hwnna'n rhywbeth mawr i wneud nesa', faswn i'n dweud."

Mwy am gampfa Robin yma.

Maes G ShowZone yn mynd o nerth i nerth

Maes G Show Zone
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o blant Maes G Show Zone

Ers ennill y wobr am y Grŵp Cymunedol mae Maes G Show Zone ym Mangor wedi mynd o nerth i nerth.

Mae Eirian a Steffi, sydd wrth y llyw, wedi troi eu cartref yn "ShowZone HQ" meddant, ond fod gwneud hynny'n werth pob modfedd dim ond i weld ymateb y plant.

Wrth sôn am ennill y wobr yn 2025, dywedodd Steffi:

"Dwi'n meddwl i'r plant deimlo eu bod nhw'n rhan o rywbeth mwy.

"Da ni'n grŵp o Maesgeirchen. Mae yna lot o negativity yn gallu bod o gwmpas oherwydd council estate ydan ni. Ond i wybod bod nhw'n rhan o rywbeth mawr, a bod rhywun arall wedi gweld y da ynddyn nhw a beth maen nhw'n gallu gwneud, oedd o jyst yn golygu cymaint i bawb.

"I'r plant, y rhieni, y gymuned yn gyfan, mae y support gafon ni drwy'r broses i gyd o'r nomination i ennill – does dim byd fedrwch chi gymharu fo i."

Mwy am Maes G ShowZone yma.

Joseph's Smile yn parhau i godi arian

Katy ac Emma gyda Heledd Cynwal
Disgrifiad o’r llun,

Katy ac Emma, y ddwy chwaer a sefydlodd Joseph's Smile, gyda Heledd Cynwal

Enillodd Joseph's Smile wobr codi arian ar ôl codi dros hanner miliwn i helpu teuluoedd â phlant sy'n wynebu canser.

Fe gollodd Katy ei mab, Joseph, pan oedd o'n dair mlwydd oed i ganser neuroblastoma.

Ar ôl i driniaeth Joseph yn y DU gyda'r GIG fethu bu'n rhaid i'r teulu edrych dros Fôr yr Iwerydd am obaith, ond roedd y driniaeth honno yn Efrog Newydd yn costio £40,000. Dyna oedd dechrau'r elusen pan sefydlon nhw ymgyrch Help Joseph Smash Cancer.

Ar ôl colli Joseph fe benderfynodd y chwiorydd barhau â'r gwaith er mwyn helpu teuluoedd eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.

"Ni wedi helpu cannoedd o deuluoedd dros Brydain," dywedodd Emma, "ac mae'r elusen jyst yn tyfu, yn tyfu, yn tyfu. Dwi jyst yn edrych ymlaen i weld beth sy'n mynd i digwydd yn Joseph's Smile yn y dyfodol."

Darllenwch fwy am waith da Katy ac Emma yma.

Pwy sy'n gwneud gwahaniaeth yn eich ardal chi?

Ydych chi adnabod pobl sy'n gwneud pethau arbennig fel y bobl yn yr erthygl hon? Enwebwch nhw am wobr Gwneud Gwahaniaeth 2026 yma. Mae'r dyddiad cau i enwebu am 5pm 31 Mawrth 2026.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig