Carcharu dyn am oes am lofruddio ei wraig 'oherwydd ei bod eisiau ysgariad'

Alireza AskariFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Askari yn treulio o leiaf 26 mlynedd dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai cynnwys y stori hon beri gofid

Mae dyn wedi cael dedfryd oes yn y carchar am lofruddio ei wraig a chladdu ei chorff o dan bridd a phlanhigion yng ngardd ei gartref.

Cafodd Paria Veisi, 37, o ardal Cathays yng Nghaerdydd, ei lladd ar 12 Ebrill 2025 a chafodd ei chorff ei ddarganfod yn ardal Pen-y-lan wythnos yn ddiweddarach ar 19 Ebrill.

Fe wnaeth Alireza Askari, 42, o Ben-y-lan, bledio'n euog i lofruddio ei wraig, er bod y ddau wedi gwahanu, drwy ei thrywanu sawl gwaith, mewn gwrandawiad ym mis Ionawr.

Bydd Askari yn treulio o leiaf 26 mlynedd dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau.

Paria VeisiFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Paria Veisi, 37, ei chanfod yn farw mewn eiddo yn ardal Pen-y-lan yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2025

Dywedodd y barnwr Mrs Ustus Stacey wrth Askari fod yr achos yn un o "lofruddiaeth mewn gwaed oer".

"Fe wnaethoch chi lofruddio eich gwraig drwy gynllun oedd wedi'i baratoi o leiaf fis ynghynt," meddai.

"Fe wnaethoch chi ddenu Paria i mewn i'r tŷ lle gwnaethoch chi ei thrywanu bedair gwaith. Ni chafodd hi unrhyw gyfle i amddiffyn ei hun.

"Gwnaethoch chi bopeth yn eich gallu i guddio'r llofruddiaeth, dinistrio tystiolaeth a rhwystro ymchwiliad heddlu De Cymru."

Ychwanegodd bod Askari wedi lladd ei wraig "oherwydd ei bod hi eisiau ysgariad" a'i fod wedi gwneud hynny "heb unrhyw edifeirwch".

Maryam DelavaryFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Maryam Delavary, a wnaeth helpu i lanhau'r lleoliad wedi'r llofruddiaeth, ei dedfrydu i bum mlynedd a chwe mis am wyrdroi cwrs cyfiawnder

Dywedodd y barnwr nad oedd hi'n derbyn bod iechyd meddwl Askari wedi cyfrannu at y lofruddiaeth a'i fod wedi "ceisio chwarae'r cerdyn anabledd yn sinigaidd".

Cafodd modryb Askari, Maryam Delavary, a wnaeth helpu i lanhau'r lleoliad wedi'r lofruddiaeth, ei dedfrydu i bum mlynedd a chwe mis am wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Dywedodd y barnwr "roeddech chi law yn llaw gydag ef" ac "roeddech chi ynddo gyda'ch gilydd ac wedi cynnig cymorth parod".

Ychwanegodd fod y dystiolaeth yn erbyn y ddau yn "llethol".

Dywedodd pe na bai'r heddlu wedi gweithredu mor gyflym fod "posibilrwydd gwirioneddol y gallai corff Paria fod wedi cael ei ddinistrio neu ei halogi" fel na ellid ei adnabod.

'Mam, merch, chwaer a ffrind annwyl'

Dywedodd chwaer Ms Veisi, Heliya Veysi: "Ni fydd y dyfarniad fyth yn dod â Paria yn ôl atom, ac ni all wella'r poen dwfn a pharhaol o'i cholli. Ond mae'n gam pwysig tuag at gyfiawnder ac atebolrwydd.

"Nid dioddefwr yn unig oedd Paria, roedd hi'n fam, merch, chwaer a ffrind annwyl, a oedd yn garedig, yn llawn bywyd ac yn cael ei charu'n fawr.

"Bydd yr atgofion amdani yn aros yn ein calonnau am byth ac mae'r boen o'i cholli yn glwyf na fydd amser fyth yn ei wella'n llwyr."

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell fod teulu Ms Veisi wedi dangos "dewrder anhygoel" drwy gydol yr achos.

"Maen nhw wedi cael eu hamddifadu o lawer o flynyddoedd hapus gyda Paria, ac mae ein meddyliau'n parhau i fod gyda nhw," meddai.

"Mae wedi dod yn amlwg drwy gydol yr ymchwiliad bod Paria yn ddynes annwyl iawn, yn boblogaidd gyda phawb oedd yn ei hadnabod gan gynnwys rhai o'i chwsmeriaid yn y lle trin gwallt. Bydd colled mawr ar ei hôl."

Ychwanegodd: "Bydd Alireza Askari a Maryam Delavary yn treulio amser hir yn y carchar am eu troseddau. Er na all teulu a ffrindiau Paria ei chael hi'n ôl fyth, rwy'n gobeithio y byddan nhw'n cael rywfaint o gysur o wybod bod cyfiawnder wedi'i wneud."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig