Dyn yn cyfaddef trywanu ei wraig i farwolaeth a'i gadael mewn gardd

Paria VeisiFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Paria Veisi, 37, ei chanfod yn farw mewn eiddo yn ardal Pen-y-lan yng Nghaerdydd ym mis Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 42 oed wedi cyfaddef trywanu ei wraig sawl gwaith a gadael ei chorff yng ngardd ei gartref.

Cafodd Paria Veisi, 37, o ardal Cathays yng Nghaerdydd, ei gweld ddiwethaf ar 12 Ebrill 2025.

Fe gafodd ei chorff ei ddarganfod mewn gardd yn ardal Pen-y-lan wythnos yn ddiweddarach ar 19 Ebrill.

Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, plediodd ei gŵr, er bod y ddau wedi gwahanu, yn euog i lofruddiaeth.

Alireza AskariFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alireza Askari wedi cyfaddef llofruddiaeth ei wraig

Fe wnaeth Alireza Askari, 42, o Ben-y-lan, gyfaddef lladd Ms Veisi rhwng 11 a 16 Ebrill 2025.

Clywodd y llys ei fod eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiad o atal claddu corff marw yn gyfreithlon a gyda pharch.

Bydd Askari yn cael ei ddedfrydu ar 13 Chwefror.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.