'Gwireddu breuddwyd plentyn' ar ôl ennill yn Crufts

Bethan JonesFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Jones o Benisarwaun ger Llanrug wedi ennill yn Crufts

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Wynedd wedi gwireddu breuddwyd bywyd ar ôl ennill gwobr fawreddog yn sioe gŵn Crufts.

Daeth Bethan Jones o Benisarwaun ger Caernarfon i'r brig gyda'i chi Bernese mynydd o'r enw Tremyrwyddfa Black Lace.

Fe gipiodd nhw'r gwobrau 'Open bitch' - ac yna Over all Crufts Best of Breed.

Dywedodd Bethan ar raglen y Post Prynhawn ar Radio Cymru: "Dwi 'di byw fy mreuddwyd... a dwi wedi mwynhau'r broses."

Mae Bethan yn magu cŵn ers iddi fod yn blentyn bach ac mae Lacey - sef enw byr i'r ci buddugol â llinach deuluol sy'n mynd yn ôl i'r Swistir.

"Mae llinell gwaed Lacey yn mynd yn ôl i'r Swistir, pan wnaethon nhw ddod â nhw i mewn o'r Swistir yn gyntaf.

"Dwi reit ffodus, mi oedd ei hen hen hen Nain hi - ges i dicad yn Crufts efo hi, felly mae hon yn bumed genhedlaeth o hynny.

"Ro'n i'n meddwl i fi fy hun, mae hi'n neis eich bo chi wedi magu rhywbeth eich hun a bo chi'n mynd a fo drwodd ac yn dangos o'ch hun ac yn ennill.

"Mae hynny yn rhywbeth neis iawn i gael ac i gofio," meddai.

Bethan a Tremyrwyddfa Black LaceFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bethan a Tremyrwyddfa Black Lace gyda'i gwobrau yn Crufts

Wrth sôn am hanes y brîd Bernese roedd Bethan yn sôn am "ffigwr solat" Lacey a'i bod hi'n debycach i siâp gwreiddiol y cŵn yn Y Swistir.

"Dwi'n ffodus, mae ganddi hi siâp ac asgwrn da. Mae 'na lot ohonyn nhw reit eiddil, mae'n well gen i rywbeth trymach.

"Yn wreiddiol roedden nhw fod i dynnu troliau yn Y Swistir o'r ffermydd - dyna pam oedden nhw'n cael eu magu.

"Wedyn 'da chi eisiau ci sy'n gallu gweithio a symud, a rhywbeth solid," meddai.

Roedd y profiad i Bethan yn un arbennig gan ei bod hi wedi bod yn breuddwydio am gystadlu ac ennill yn Crufts ers iddi fod yn ferch ifanc.

"Pan o'n i'n blentyn, ges i'r ci i'r cyntaf. O'n i'n licio chwarae fo'r ci, licio chwarae hefo ceffyl, ond y ci mewn ffordd gymrodd fy nghalon i.

"Dwi'n cofio adeg hynny y baswn i'n licio gwneud hyn. Pan 'nes i briodi a chael y plant, adeg hynny 'nes i ddechrau dangos o ddifri ac ro'n i eisiau gallu qualifio ci i fynd i Crufts.

"Nesi 'rioed feddwl yn fy myw y baswn i wedi qualifio am fy sioe gyntaf a mod i wedi mynd ymlaen i gael tri ticad yn Crufts.

"Y Bernese gyntaf oedd gen i, Elsa, roedd hi wedi ennill y Bernese gorau ym Mhrydain ac roedd hi wedi cael mwy na neb arall.

"Dwi wedi byw fy mreuddwyd - yr hogan fach 'na o Frynrefail, mae ei breuddwyd hi wedi dod yn wir, a dwi wedi mwynhau'r broses.

"Ella neith o fyth ddigwydd i mi eto a dwi'n mynd yn rhy hen i redeg rownd y ring, ond dwi wedi bod ac mae hynna'n mynd i fod yn beth braf i gofio."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig