Newid trefn trafnidiaeth ysgol i greu 'ansicrwydd a straen emosiynol'

Gall addasu dalgylchoedd a chludiant ysgol ar draws Sir Gaerfyrddin gael effaith ar iechyd meddwl a lles plant, yn ôl Rhidian Lloyd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Ceredigion ynghyd â nifer o deuluoedd wedi datgan "pryder difrifol" am gynlluniau Cyngor Sir Caerfyrddin i addasu dalgylchoedd a chludiant ysgol ar draws y sir.
Ymhlith y cynigion, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried dim ond cynnig cludiant am ddim i ddisgyblion ar gyfer ysgolion sydd o fewn eu dalgylch o fis Medi 2027 ymlaen.
Ar hyn o bryd, mae nifer o ddisgyblion sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin yn derbyn cludiant am ddim gan Gyngor Sir Caerfyrddin i fynychu ysgolion uwchradd yng Ngheredigion, gan mai dyna'r ysgolion agosaf at eu cartrefi.
Yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin y bwriad yw sicrhau "darpariaeth addysg fwy cytbwys ar draws y sir".

Yn ôl Rhidian Lloyd, byddai'r newidiadau yn "ffwdanus" ac yn "gostus" i rieni
Ym Mhumsaint mae Rhidian Lloyd, 43, ei wraig, a'u plant Megan,12 , Mollie, 11, a Jac, 3, yn byw.
Er bod y pentref yn Sir Gaerfyrddin, mae'r ysgol uwchradd agosaf i'w cartref dros y ffin yng Ngheredigion, sef Ysgol Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan, sydd ychydig dros 7 milltir i ffwrdd.
O dan gynigion Cyngor Sir Caerfyrddin i addasu dalgylchoedd a chludiant ysgol, yna Ysgol Uwchradd Bro Dinefwr yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin fyddai'n cael ei hystyried fel 'ysgol ddalgylch' y plant - ond mae dros 15 milltir o'u cartref.
"Ar hyn o bryd, bydden nhw tua 20 munud lawr i Lanbed ar y bws," meddai'r tad i dri.
"Tasen nhw'n mynd i Sir Gâr, lawr i Fro Dinefwr, byddech chi siŵr o fod yn siarad tri chwarter awr i awr erbyn bo' nhw'n gwneud y stopiau i bigo plant eraill lan mewn gwahanol ardaloedd...
"Mae e'n amser hir i blentyn ar fws, chi'n siarad awr a hanner yn fwy y dydd. Iechyd meddwl y plentyn, lles y plentyn, sai'n credu byddai dim un rhiant yn moyn bod y plant ar fws am fwy o amser na sydd rhaid o gwbl."

Er yn byw yn Sir Gâr, mae Mollie (chwith), Jac a Megan yn byw yn agos at y ffin i Geredigion
O fis Medi 2027 ymlaen, pe bai'r cynigion yn cael eu cymeradwyo, dim ond i'w hysgolion dalgylch y byddai Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig cludiant am ddim i ddisgyblion.
I Jac, sy'n dair oed, fe fydd hi'n rhai blynyddoedd cyn y bydd yn cyrraedd yr oed uwchradd, ond mi ddaw hynny yn ei dro â sefyllfa fydd yn gur pen i'w rieni.
"So nhw wedi meddwl am yr effeithiau eraill i gyd sydd yn mynd gydag e," meddai Mr Lloyd.
"O'r plant, i'r rhieni, cyflogwyr even, mae e'n mynd ymlaen i hynny lle mae e'n effeithio ar waith y rhiant."

Mae Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo dros 17 milltir o gartref Irwel Jones yn Sir Gâr
Mae gan Irwel Jones, 46, o Gwrt y Cadno, Sir Gaerfyrddin ddwy o ferched, Lili, 12, sydd yn Ysgol Bro Pedr, Llanbed ac Annie, 10, sy'n mynychu Ysgol Carreg Hirfaen yng Nghwmann.
O'u cartref nhw, Ysgol Bro Pedr yn Llanbed yw'r ysgol uwchradd agosaf hefyd sydd tua 12 milltir i ffwrdd, o'i gymharu â dros 17 milltir i Ysgol Bro Dinefwr.
Mae'n poeni na fydd ei ferch ieuengaf yn gallu dilyn yr un trywydd a'i chwaer hŷn.
"Ar ddiwedd y dydd, os yw'r dalgylch wedi newid a bod yr ysgol yn Llanbed yn llawn, mae'r ysgol 'na yn gallu dweud bod dim lle iddi a wedyn bydd rhaid iddi fynd i Fro Dinefwr wedyn.
"Mae'n cymryd y penderfyniad mas o'n dwylo ni bron â bod."

Ychwanegodd: "Fi'n teimlo ein bod ni'n cael hi'n waeth achos bod ni mor wledig, ond mae e'n effeithio o fan hyn yng Nghwmann yr holl ffordd lawr i Gastellnewydd Emlyn.
"Mae 'na nifer o ysgolion lle mae'r disgyblion yn mynd y ddwy ffordd.
"Bydden i just yn gofyn bod y sir yn defnyddio synnwyr cyffredin a dim gwneud i blant drafeili mwy na sydd rhaid just oherwydd bod ffin sirol," meddai.

Mae 184 o blant o Sir Gaerfyrddin yn derbyn eu haddysg yn Ysgol Bro Pedr, Ceredigion ar hyn o bryd
Ar hyn o bryd, mae 184 o ddisgyblion yn teithio o Sir Gâr i Ysgol Bro Pedr yn Llanbed.
Cyngor Sir Caerfyrddin sydd yn trefnu ac yn talu am y contractau cludiant.
Bydd y newidiadau'n effeithio ar Gyngor Sir Ceredigion, ac maen nhw wedi dweud bod ganddyn nhw "bryderon difrifol" ynghylch effaith y newidiadau arfaethedig ar blant, pobl ifanc, eu rhieni, gofalwyr a theuluoedd, ysgolion cyfagos a'r gymuned ehangach.
"Bydd y newidiadau i'r dalgylchoedd yn golygu y bydd nifer fawr o ddisgyblion yn gorfod newid ysgol a theithio ymhellach gan arwain at ansicrwydd, straen emosiynol, ac effaith negyddol ar eu datblygiad cymdeithasol" medden nhw.
Mae teuluoedd "yn dibynnu ar sefydlogrwydd y trefniadau derbyn" er mwyn "cynllunio dyfodol eu plant".
"Mae'n arbennig o bwysig ystyried hyn mewn ardaloedd gwledig, lle gall teithio pellter hir fod yn heriol ac yn gostus i'r teuluoedd."
'Pryder difrifol' am gynlluniau i addasu dalgylchoedd a chludiant ysgol yn Sir Gâr
Mae Georgina Cornock-Evans, 45, sy'n riant ac yn gadeirydd ar lywodraethwyr Ysgol Carreg Hirfaen yng Nghwmann yn credu y bydd y rhan fwyaf o rieni yn penderfynu peidio ag anfon eu plant i'r ysgol ddalgylch yn Llandeilo.
"Fydden i'n meddwl byddan nhw'n parhau i fynd i Ysgol Bro Pedr, os maen nhw'n gallu, falle bydd hwnna yn tynnu mam-gu's a tad-cu's mewn neu talu rhywun i fynd â nhw nôl ac ymlaen i'r ysgol," meddai.
"Mae'n rhaid i ni ystyried, mae gweithgareddau ôl-gwricwlwm i'w gael ar ôl ysgol. Fel plant fi, maen nhw'n gwneud rhywbeth just â bod bob nos a chynrychioli'r ysgol gyda netball, hoci, rygbi.
"Mae hynny'n golygu fi yn mynd lan i'r ysgol, pan mae'r ysgol wedi bennu i gasglu'r plant. Sa'i moyn fod yn y sefyllfa le maen rhaid i fi drafeili i Landeilo bob dydd neu unwaith, dwywaith yr wythnos i ôl y plant ar ôl ysgol."

Mae'n bwysig bod "pob llais yn cael ei glywed" yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin
Mae cyfnod ymgynghori Cyngor Sir Caerfyrddin ar y newidiadau posib newydd ddod i ben, gyda'r awdurdod yn awyddus i gynnig "darpariaeth fwy effeithlon o gludiant ysgol".
Yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin, doedd y dalgylchoedd "heb newid fawr ddim" ers yr adolygiad diwethaf yn 2010.
Mae'n bwysig bod "pob llais yn cael ei glywed" yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin, sy'n dweud y bydd "unrhyw benderfyniadau a gaiff eu gwneud yn rhai gwybodus sy'n ystyried anghenion y gymuned".
Ychwanegodd y cyngor fod y broses ymgynghori "yn gyfle i gael trafodaeth drylwyr ac agored ble gall rhieni, disgyblion a phartïon eraill sydd â diddordeb rannu eu safbwyntiau a'u pryderon".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.