Celf yn 'therapi' i gyn hyfforddwr pêl-droed oedd mewn galar

Glyn Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Glyn wrth ei ei fwrdd yn y gegin ble mae'n mwynhau arlunio

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Dyw fy mywyd i mwyach ddim yn wyn ac yn ansicr, mae 'na fwy o liw ynddo nag oedd tair blynedd yn ôl."

Dyna eiriau Glyn Griffiths o Garmel ger Treffynnon.

Mae llais Glyn i'w glywed yn aml fel panelydd ar raglen Ar y Marc ar BBC Radio Cymru ar foreau Sadwrn ers sawl blwyddyn bellach.

Roedd yn gôl-geidwad yn ei ddyddiau chwarae ac mae wedi rheoli timau mawr yn y gogledd fel Porthmadog a Threffynnon yn Uwch Gynghrair Cymru.

Ond, ers iddo ymddeol a cholli ei wraig, Ann, mae ei gariad tuag at arlunio wedi tyfu ac mae'n mwynhau treulio amser yn paentio ac yn ei drin fel math o therapi.

Yn ei gartref gwelwch chi dystiolaeth o waith y cyn athro ac arolygydd Estyn, ac mae Glyn yn cyfuno ei gariad tuag at bêl-droed gyda'i gariad tuag at gelf.

Cae RasFfynhonnell y llun, Glyn Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Un o ddarluniau Glyn; yr olygfa o eisteddle'r Cae Ras yn Wrecsam

Dywedodd Glyn wrth Manon Steffan Ros a oedd yn ei holi ar gyfer ei rhaglen, Llwyfan ar BBC Radio Cymru.

"Yn wreiddiol mae teulu fy nhad i gyd yn arlunwyr ond dwi heb fod yn un cyson dros y blynyddoedd.

"Yn weddol ddiweddar pan aeth Ann fy ngwraig yn wael a wedyn ymadael, 'nes i ddechre dangos diddordeb yng ngwaith Mackenzie Thorpe, arlunydd o Middlesbrough.

"Ma gynno fo gyfres o lunia' The Game of Life, a'r Game of Life ydi pêl-droed, a mae'n dangos gwahanol agweddau o bêl-droed a sut mae'n effeithio ar bobl.

"Mae un llun yn benodol ganddo, Boy and Ball. Llun plentyn mewn hwdi ydi o yn cicio pêl i ran gwyn o bapur; 'dach chi ddim yn siŵr iawn lle mae'r bêl yn mynd.

"Mae'r darn tu cefn iddo fo wedi cael ei liwio, sef bywyd, a beth sydd o'ch blaen chi yn fywyd newydd.

"'Da chi ddim yn siŵr iawn. Mi ddaeth hi'n gyfnod arna i pan golles i Ann ac roedd 'na gyfnod newydd o fy mlaen i.

"Yn sgil hynny mae pêl-droed wedi bod yn gymorth mawr i mi i afael yn yr hyn sy'n gyfarwydd a rhywsut neu gilydd mae'r ddau wedi dod at ei gilydd," meddai.

Statue of LibertyFfynhonnell y llun, Glyn Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Glyn amser yn hyfforddi yn America; dyma ei lun o'r Statue of Liberty yn Efrog Newydd

Mae 'na dair blynedd ers i Glyn golli ei wraig, Ann, ac mae'n credu fod troi at gelf wedi bod yn therapi iddo.

"Pan o'n i'n dod dros y galar, o'n i'n gallu mynd allan at gyfeillion oedd yn fy helpu i ac ro'n i'n gallu dechrau mynd i wylio pêl-droed eto, i Everton, Manchester City, Treffynnon, Fflint neu bwy bynnag, ac oedd hynny yn iawn.

"Ond yr hyn o'n i'n gael fwy anodd i'w wneud oedd paentio adra. O'n i'n paentio yn yr ystafell ar ben fy hun, codi a mynd at Ann a gofyn iddi beth oedd hi'n feddwl o'r peth yma a dangos syniadau iddi hi. Unwaith oedd hi wedi mynd, roedd 'na ddistawrwydd llethol rownd y tŷ, do'n i ddim mewn cae pêl-droed efo 60,000 o bobl.

"Drwy gefnogaeth cyfeillion oedd yn gofyn i mi wneud lluniau iddyn nhw, a gan amlaf tirlun oedden nhw eisiau, tirlun o rywle yr oedden nhw yn ei hoffi.

"Wrth neud y lluniau i rywun arall, roedd o yn fy ysgogi i roi fy mhen i lawr ac i gario 'mlaen a dwi'n ddiolchgar iawn o bob un ohonyn nhw.

"Dyw fy mywyd i mwyach ddim yn wyn ac yn ansicr, mae 'na fwy o liw ynddo nag oedd tair blynedd yn ôl," meddai.

Castell FflintFfynhonnell y llun, Glyn Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Glyn a'i waith o Gastell y Fflint

O Borthmadog mae Glyn yn wreiddiol ac mae'n ystyried hen gyfaill ysgol sydd bellach yn arlunydd enwog ei hun yn ysbrydoliaeth iddo, sef Rob Piercy.

Mae Glyn yn defnyddio acrylics a pastel y rhan fwyaf i baentio.

O ran dewis ei luniau, yn aml mae'n mynd am dro ac yn tynnu lluniau o olygfa benodol ar ei ffôn gyda'r bwriad o baentio'r olygfa.

Hyd yn oed os yw mewn gêm bêl-droed yn eistedd yn y dorf, mae weithiau'n sylwi ar gyfleoedd i dynnu lluniau a'u harlunio nhw ar ôl cyrraedd adref.

Mae hefyd yn cyfaddef ei fod yn paentio beth sy'n gyfarwydd ac yn gyfforddus iddo.

"Dwi ddim yn trio portreadau. Dwi ddim yn gyfforddus yn gwneud lluniau o wynebau pobl nag anifeiliaid, wrach y dylwn i drïo, ond ar hyn o bryd dwi'n aros yn fy comfort zone ond dwi pob tro yn agored i her newydd.

"Os fysa chi'n gofyn i mi pan o'n i'n hyfforddi pêl-droed yn Uwch Gynghrair Cymru os o'n i'n arlunio cymaint ag ydw i rŵan mi faswn i wedi dweud na.

"Ond dwi hefyd yn credu fod angen i rywun newid fel maen nhw'n mynd yn eu blaen a datblygu rhyw amgylchiadau yn hytrach nag eistedd ar y soffa yn gwneud dim byd a meddwl be' ddylech chi neud nesa gyda'ch bywyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig