Ymddiheuro wedi i nifer wynebu oedi wrth deithio o Iwerddon

Dywedodd Stena Line fod "problem dechnegol gyda'r llong yng Nghaergybi"
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Stena Line wedi ymddiheuro i deithwyr - yn eu plith cefnogwyr rygbi - wedi i nifer gael trafferth dychwelyd o Iwerddon ddydd Sul.
Fe wnaeth cwmnïau Stena Line ac Irish Ferries ganslo eu teithiau.
Fore Llun dywedodd cwmni Stena bod yna broblem dechnegol gyda'r Stena Adventurer ond bod y Stena Estrid yn teithio fel arfer.
Fe ychwanegon nhw bod eu tîm yn cysylltu â chwsmeriaid yn gyson er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf a chynnig dewisiadau teithio eraill.
Y cyngor i deithwyr ydy i wirio cyn teithio.
Dywedodd Irish Ferries nad oedd yr Ulysses yn gallu angori yng Nghaergybi ddydd Sul oherwydd rhesymau eithriadol. Roedd hi i fod i angori am 11:00.

Roedd yn rhaid i griwiau ddargyfeirio i Benbedw (Birkenhead) yn sgil y broblem yng Nghaergybi

Roedd nifer o bobl yn dal bysiau o Benbedw am tua 20:00 nos Sul

Roedd ciw hir am fwyd ar un o'r llongau
Fe wnaeth yr oedi amharu ar nifer fawr o deithwyr.
Dywedodd un o'r teithwyr, Jac Jolly, iddynt dderbyn neges destun am tua 13:00 ddydd Sul yn "dweud bod 'na mynd i fod tua awr o delay ar y cwch, achos bod 'na ryw helynt wedi digwydd yn y porthladd yng Nghaergybi".
"Wedyn gafon ni text arall tua awr wedyn pan o'n i ar y bws ar y ffordd i'r porthladd yn dweud bod dal helynt a bydden nhw'n rhoi gwybod i ni pan fydd mwy o wybodaeth.
"Yn yr awr ddiwetha' ni wedi cael cadarnhad bod y cwch wedi canslo.
"Fi'n stuck yn Nulyn heb unrhyw le i aros a sai'n siŵr beth i 'neud a fi'n really stressed."

Dywedodd Glain Tudur (trydydd o'r dde yn y cefn): "Dim clem pryd fyddwn ni'n cyrraedd y lan ond da' ni yn ei weld o fewn tafliad carrag!"
Yn ôl Glain Tudur, sy'n aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, fe wnaethant adael yr hostel am 05:00 o'r gloch fore Sul.
"Roedd y llong yn mynd am 07:30. Nathon ni gyrraedd arfordir Caergybi am 11:00, ond ma' hi bron yn 17:00 rŵan a da' ni dal yma a da' ni'n gwybod dim.
"Dim clem pryd fyddwn ni'n cyrraedd y lan, ond da' ni yn ei weld o fewn tafliad carrag!"

"Ni wedi bod ar y fferi ers ben bore ma'," medd Efa Angharad (yn y crys gwyrdd)
Dywedodd Efa Angharad, sydd o Gwm Gwendraeth, fod y criw wedi mynd "mas i Ddulyn i weld Cymru yn chwarae a gathon ni joio'r penwythnos".
"Ond, ni wedi bod ar y fferi ers ben bore ma'.
"Ni wedi methu doco yng Nghaergybi so ni newydd ffeindio mas bod rhaid i ni fynd i Birkenhead, sy' bach o boen. Ma' nhw'n trefnu bysys i ni wedyn n'ôl i Gaergybi."

Roedd criw'r Gym Gym yn fod i gyrraedd yn ôl yng Nghymru yn y bore, ond doedden nhw yn dal heb gyrraedd y lan am 17:00
Yn ôl Swyn Prysor fe wnaeth criw'r Gymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd "adael yr hotel bore 'ma am 05:00. Da' ni bellach 'di bod yn teithio am dros 12 awr".
Dywedodd Elen Mai ei bod yn fod i gyrraedd Ynys Môn am 11:00, "ond ma' hi nawr yn 17:00".
"Ma' pawb yn iawn so far - ni gyd yn yr un cwch! Ond ni wedi cael bach o obaith, ni fod dod off y cwch ma' mewn rhyw ddwy awr felly gawn ni weld!
"Ma' gyda ni ddarlithoedd fory, felly ma' fe am fod yn siwrne pell n'ôl i Gaerdydd.
"Ma rhai hefo exams felly fi'n gwybod bod 'na lot o panic rownd y lle, ond fi'n credu byddwn ni gyd yn iawn."

Y Cynghorydd Bob Llewelyn Jones, Ward Parc a'r Mynydd yng Nghaergybi
Nid dyma'r tro cyntaf i Borthladd Caergybi gael problemau, fel esbonia'r cynghorydd Bob Llewelyn Jones.
Dywedodd: "Ma' hwn yn bryder mawr i bawb sy'n byw yng Nghaergybi a deud y gwir, am y rheswm mae'n digwydd mor aml 'wan.
"Mae'n rhaid gwneud rhywbeth rŵan... neu bydd pobl yn dewis mynd rhywle arall.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf mae pethau wedi mynd o waeth i waeth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.