Aleighcia Scott: 'Dwi eisiau dathlu menywod Cymru'

 Aleighcia yn perfformio yn y Swisdir Ffynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Aleighcia yn perfformio yn y Swisdir

GanAngharad Rhys
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r gantores reggae a'r cyflwynydd Aleighcia Scott yn dweud fod ganddi 'dân yn ei bol' am ddathlu menywod Cymru a'u llwyddiant.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2026 mae'r gantores yn arwain ffilm newydd, 'Adref yw hi - She is home', dolen allanol.

Bu'n siarad gyda Cymru Fyw am pham fod perthyn a chydraddoldeb mor bwysig iddi.

Meddai: "Mae'n bwysig i ni ddathlu Cymru a beth sy'n digwydd yng Nghymru – mae merched yng Nghymru yn kicking ass ar y funud ym mhêl droed, celf a jest Cymru dros y byd i fod yn onest.

"Mae mor inspiring i fi achos dwi'n gweld beth sy'n digwydd nawr a dwi jest yn teimlo fel dwi moyn gwneud mwy a dwi moyn neud lot mwy am Gymru hefyd."

Cafodd y ffilm fer, mewn cydweithrediad â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Merched yn Gwneud Miwsig, ei dangos am y tro cyntaf yng ngêm ragbrofol Cwpan y Byd Merched Cymru yn erbyn Montenegro ar ddydd Sadwrn, Mawrth 7 gyda Aleighcia, sy'n ffan mawr o dîm merched Cymru, yno i gefnogi.

Meddai cyn y gêm: "Dwi'n mynd i'r gêm Dydd Sadwrn a dwi'n mynd i scream gymaint a phosib.

"Dwi'n credu fydd lot o pobol ifanc yn mynd i weld y gêm a dwi'n gobeithio fod y tîm yn mynd i ysbrydoli pobol ifanc i wneud mwy gyda bywyd."

Aleighcia yn perfformio o flaen cefnogwyr pêl-droed CymruFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Aleighcia yn perfformio o flaen cefnogwyr pêl-droed Cymru

Hunaniaeth

Mae'r ffilm Adref yw hi hefyd yn sôn am hunaniaeth merched yng Nghymru, pwnc sy'n agos iawn at galon Aleighcia: "Mae mor bwysig i fi i siarad am ferched a menywod achos dwi'n teimlo fel dwi'n ferch Gymreig ac mae'n bwysig i weld pobol yn championio hwn a pobol yn gweld merched fel fi yn y space.

"Dwi'n gobeithio mae hwnna'n gallu ysbrydoli mwy o bobl i jest bod fel maen nhw am fod ac i fod eisiau gweld newid hefyd.

"Dwi'n caru bod yn Gymreig a dwi'n caru dod o Gymru a dwi'n caru Cymru. Dwi'n meddwl fod diwylliant Cymreig mor anhygoel.

"Ti'n mynd rownd y byd ac mae pobl yn caru Cymru ac yn siarad am sut mae Cymru'n enwog am gerddoriaeth, bwyd, chymuned a jest pa mor garedig yw pobl Cymru.

"Felly mae bod yn ran o hynny yn anhygoel. Wrth gwrs dwi'n perthyn i fwy nag un diwylliant felly dwi'n cael gweld hynny hefyd."

Mae Aleighcia'n dod o Gaerdydd ac wedi dysgu Cymraeg. Mae hi'n sôn am bwysigrwydd cynhwysiant ond yn dweud fod dal lle i wella: "Mae pobl yn dweud yn aml fod hi'n neis i weld pobl fel fi yn y gofodau yma, ond dwi'n sicr yn teimlo fod angen mwy o bobl fel fi i gael eu gweld.

"Dyna ran o'r rheswm pam dwi'n gwneud beth dwi'n gwneud, fel fod pobl ifanc yn gallu gweld bod nhw'n gallu bod fel y pobl maen nhw'n gweld.

""I fi mae'n bwysig mod i yn y llefydd yma, ac mae'n bwysig mod i'n siarad am y pethau dwi'n gwneud achos fel arall dwi'n teimlo fydden nhw ddim yn cael eu trafod."

Y Llais

Mae Aleighcia'n wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd S4C fel un o feirniaid Y Llais, sy'n dychwelyd am gyfres newydd ar nos Sul 8 Mawrth, dolen allanol: "Dwi'n gobeithio fod Y Llais yn blatfform arall i Gymru a dwi'n gobeithio fydd e'n gwthio Cymru yn y byd gan fod pethau anhygoel yn digwydd yng Nghymru.

"Mae mor wych i fod yn ran o sioe mor fawr a dwi'n gobeithio fydd pobl yn mwynhau gweld y pobl dawnus iawn sy' ar y gyfres eleni.

"Mae'n anhygoel."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.