'Dylen i fod yn farw, yn y carchar, neu'n ddigartref, ond roedd athrawes yn angor'

Sam Gardner
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sam Gardner ei symud rhwng 15 cartref maeth gwahanol yn ystod ei blentyndod

  • Cyhoeddwyd

"Yn ystadegol, dylen i fod yn farw, yn y carchar, neu'n ddigartref."

Mae Sam Gardner yn cydnabod fod yr ansefydlogrwydd o gael 15 cartref maeth pan oedd rhwng tair a 17 oed yn "her fawr".

Nid oedd yn teimlo "gartref" unrhyw le, cafodd ei esgeuluso a'i adael yn llwglyd ar adegau fel plentyn, a phan adawodd y system ofal yn 18 oed, roedd ei ddyfodol yn ansicr.

Ond mae'n dweud y bu ambell "angor" wnaeth ei helpu i baratoi i fod yn oedolyn, ac mae'r BBC wedi ei helpu i aduno gydag un ohonyn nhw - cyn-athrawes a "welodd heibio" i'r ffaith ei fod yn blentyn mewn gofal maeth.

"Fe wnaeth hi i fi deimlo fel 'mod i'n perthyn," meddai Sam, oedd wedi'i ysbrydoli gymaint iddo benderfynu mynd ymlaen i gael gyrfa ym myd addysg ei hun.

Sam yn blentynFfynhonnell y llun, Sam Gardner
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sam yn y system ofal yn dair oed, ac aeth i sawl ysgol wahanol

Mae Sam yn disgrifio'r teimlad o fod wedi'i ddiystyru fel plentyn. Roedd yn llwglyd ar adegau, a dywedodd nad oedd wedi teimlo "gartref" tan iddo gwrdd â'i ofalwyr maeth olaf pan roedd yn 17 oed.

Er iddo gael dechrau heriol i'w fywyd, fe lwyddodd Sam i fynd yn ei flaen i fod yn athro cynradd, wedi'i ysbrydoli gan athrawes mae'n dweud oedd wedi credu ynddo fel disgybl.

"Doedd hi ddim yn athrawes berffaith, ond fe welodd heibio'r label o blentyn mewn gofal, ac roedd hi'n mynnu na ddylen i edrych ar y label yna chwaith," meddai Sam.

Cyn ymuno â dosbarth Christine Meek ag yntau'n wyth oed, dywedodd Sam fod yr ysgol yn "le heriol" a'i fod ddwy flynedd ar ei hôl hi yn academaidd o'i gymharu â'i gyd-ddisgyblion.

Aduniad Sam a Christine Meek
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sam a Christine Meek aduniad 25 mlynedd wedi iddyn nhw rannu ystafell ddosbarth

Mae BBC Cymru wedi llwyddo i aduno Sam a Ms Meek yn Ysgol Gynradd Gatholig St Michael's ym Mhontypridd, ble bu Sam yn ddisgybl yn ei dosbarth 25 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Sam wrth ei gyn-athrawes ei bod wedi "newid fy mywyd", ac na fyddai wedi cyrraedd ble mae nawr hebddi.

Dywedodd Ms Meek y dylai Sam "fod yn falch o'r hyn rwyt ti wedi gwneud, oherwydd ti sydd wedi gwneud e".

Ychwanegodd: "Doeddwn i ddim yn gwybod lot am gefndir Sam, ac mewn rhai ffyrdd fi'n credu bod hynny wedi helpu - roedd y disgwyliadau yr un peth i bawb yn y dosbarth."

Dywedodd Sam y bu hi'n brofiad emosiynol bod yn ôl yn ei hen ysgol a chael cwrdd unwaith eto â Ms Meek.

"Roedd cymaint o newid trwy fy mhlentyndod, ond fe wnaeth yr ysgol yma roi rhywbeth cadarn i fi gadw ato."

Christine Meek
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Christine Meek y dylai Sam fod yn eithriadol o falch o'r hyn y mae wedi'i gyflawni

Mae arolwg a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU wedi canfod bod pobl ifanc sy'n gadael gofal yn Lloegr yn marw ar gyfradd llawer uwch na phobl yr un oedran sydd heb fod mewn gofal.

Yn ôl un o awduron yr adroddiad, mae'r marwolaethau yn "drychineb cenedlaethol".

Yn ôl ffigyrau diweddaraf y llywodraeth, yr amcangyfrif yw bod 7,000 o blant mewn gofal maeth yng Nghymru, a 54,000 yn Lloegr.

Mae Sam yn dweud y dylai'r arolwg fod yn ddeffroad i'r rheiny sy'n gyfrifol am y system ofal, gan eu bod nhw "i fod fel rhiant i chi".

"Pa fath o riant sy'n gadael i hynny ddigwydd i'w plentyn? Mae angen i ni ddeffro.

"Y rhan anoddaf o fod mewn gofal maeth yw'r newid - symud o gartref i gartref, yn aml gyda'ch stwff mewn bagiau du.

"Mae'n arwydd eich bod chi'n wahanol, eich bod chi ddim yn perthyn, bod dim gwerth i chi."

Alistair Cope
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Alistair Cope o Maethu Cymru, mae hi mor bwysig cael unigolion sy'n cefnogi ac ysbrydoli plant mewn gofal

Ym mis Mai fe wnaeth corff Maethu Cymru lansio cynllun peilot mewn 37 o ysgolion yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Gobaith y bartneriaeth yw cysylltu gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yn uniongyrchol ag ysgolion.

Dywedodd pennaeth Maethu Cymru, Alistair Cope: "'Dy'n ni'n siarad lot am y pŵer y gall un oedolyn gofalgar gael ar fywyd plentyn, a gall hynny fod yn athro neu'n aelod staff o fewn ysgol.

"Mae hi mor bwysig bod gennym ni bobl fel yna yn ymwneud â'n plant i'w cefnogi a'u hysbrydoli.

"Mae hi wedi bod mor wych gweld Sam yn rhannu pwysigrwydd hynny - mae'n unigolyn arbennig."

Mae'r cynllun peilot hefyd â'r nod o wella'r gefnogaeth sy'n cael ei gynnig i blant mewn gofal, fel bod modd iddyn nhw ffynnu mewn addysg.

'Cydnabod difrifoldeb y canfyddiadau'

Fe adawodd Sam fyd addysg y llynedd i weithio fel siaradwr cyhoeddus a hyfforddwr, gan ddefnyddio ei brofiadau personol.

Dywedodd ei fod yn teimlo mai ei rôl yw "siarad a rhoi llais i blant mewn ystafelloedd ble dydyn nhw ddim wastad yn gallu siarad dros eu hunain".

"Dim beirniadu gofalwyr maeth yw e, ond galw mas y system ar beth maen nhw wedi gwneud o'i le a sut mae hynny wedi cael effaith arna i a fy mywyd - dangos effaith y peth.

"Mae plant mewn gofal yn profi ansefydlogrwydd ar lefel wahanol, ac mae hynny'n aml yn cael ei gamddeall, felly y gorau allwn ni ddeall, y gefnogaeth orau allwn ni roi iddyn nhw."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod difrifoldeb y canfyddiadau yma a'r pryderon sy'n cael eu codi" gan bobl sydd wedi bod mewn gofal.

"Mae cefnogaeth barhaus ar gyfer y rheiny sy'n gadael gofal yn allweddol, yn enwedig wrth iddyn nhw droi'n oedolion," meddai llefarydd.

Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.