Y gantores sy'n perfformio gyda'i llais a'i dwylo... yr un pryd

- Cyhoeddwyd
Mewn perfformiad diweddar o'r Messiah gan Handel yn Y Bala, cafodd y gynulleidfa ddehongliad arbennig ac unigryw o un o'r symudiadau.
Wrth i un o unadwyr y noson, Samantha Lewis, ganu'r darn He Shall Feed His Flock, roedd hi hefyd yn arwyddo gyda'i dwylo gan ddefnyddio Iaith Arwyddo Prydain (British Sign Language).
Ac mae'r gantores o Gobowen, y pentref bach dros y ffin, yn angerddol am godi ymwybyddiaeth am anhygyrchedd y byd tuag at bobl fyddar, a beth mae modd ei wneud er mwyn bod yn fwy cynhwysol.
Disgyn mewn cariad a dysgu BSL
Cyfarfod ei gŵr, Sam, a ddechreuodd siwrne Samantha gyda iaith arwyddo, a hynny bedair blynedd yn ôl. Mae Sam yn fyddar, ac ers dod i'w adnabod, mae Samantha wedi sylweddoli pa mor anhygyrch yw'r byd i bobl fyddar, meddai.
"Mae'r byd mor anghyfeillgar tuag at bobl â nam ar eu clyw, ac mae'n gallu bod mor isolating iddyn nhw.
"Mae o oherwydd ein bod ni heb ein haddysgu o gwbl. O'n i'n meddwl fod yna ddim llawer o bobl byddar, ond mae 'na 18 miliwn yn y DU sy'n fyddar neu wedi colli eu clyw. Mae 'na o leiaf 12 o bobl byddar yn byw yn ein tref fach ni!
"I ddechrau, ro'n i a Sam yn cyfathrebu drwy ysgrifennu neu decstio, ond 'nes i ddysgu BSL yn raddol, drwy help fy ngŵr a gwersi ar-lein."
Mae Samantha bellach yn gwbl rhugl mewn iaith arwyddo, ac yn ei ddefnyddio'n rheolaidd i gyfathrebu a'i gŵr.

Sam a Samantha - efallai fod Sam yn wyneb cyfarwydd i wylwyr y gyfres Bake Off: The Professionals - fo oedd cystadleuydd byddar cyntaf y gyfres, a cyrhaeddodd y rownd gyn-derfynol yn 2019
'Honni' bod yn hygyrch
O'i phrofiadau â'i gŵr, mae Samantha'n gweld fod bwlch mawr yn hygyrchedd beth sydd yn cael ei gynnig i gynulleidfa fyddar o fewn y celfyddydau.
"Dim ond un amser o'r wythnos allwn ni fynd i'r sinema i weld ffilm sydd ag isdeitlau, a hynny ar nos Lun; does 'na ddim dewis o ffilm, a doedden ni ddim yn gallu mynd yno ar nos Sant Ffolant eleni, oedd ar ddydd Sadwrn.
"A'r un peth â sioeau'r West End; mae o wrth ei fodd â'r theatr, achos ei fod mor weledol, ond mae prinder sioeau sy'n cael eu harwyddo neu ag isdeitlau. Maen nhw'n honni eu bod yn hygyrch achos fod ganddyn nhw system lŵp, ond mae o'n ddwys-fyddar (profoundly deaf) - dydy o ddim yn clywed dim byd - felly dydy o methu defnyddio rheiny.
"Dwi'n gweld mwy o bobl yn arwyddo i gantorion y dyddiau yma, ond o'n i dal yn teimlo'i fod o'n colli llawer o'r emosiwn, gan ei fod yn ddau berson gwahanol wrthi.
"Gallan nhw gyfieithu beth maen nhw'n ei glywed, ond efallai eu bod nhw ddim wir yn deall gwir ystyr y darn neu'n deall y cymeriad."
A hithau'n gantores broffesiynol, sy'n canu mewn cyngherddau ac operâu ledled Prydain a thu hwnt, sylweddolodd fod modd cynnig agwedd ychwanegol i'w pherfformiadau, sef arwyddo ei chaneuon tra'i bod yn canu.
Perfformio mewn dwy iaith
Pan gafodd y syniad fod hyn yn bosib, aeth ati i baratoi cân mewn Saesneg a iaith arwyddo, a hynny heb ofyn i'w gŵr am help.
Cymerodd hyn dipyn o waith ac ymdrech, eglurodd. I ddechrau, roedd yr iaith yn newydd i Samantha, ac roedd hi dal yn dysgu. Ond hefyd oherwydd gan fod strwythur iaith arwyddo mor wahanol i Saesneg, gydag ond tua hanner y geiriau mewn brawddeg Saesneg yn cael ei arwyddo.
"A do'n i ddim ond yn ei wneud yn llythrennol," eglurodd, "ond hefyd yr ystyr llenyddol tu ôl i'r geiriau.
"O'n i'n nerfus iawn pan 'nes i ei berfformio i Sam, ond roedd o'n emosiynol iawn ac wedi deall popeth. Mae'n dod o le dyfnach rhywsut, ac hefyd yn caniatáu i mi symud efo'r gerddoriaeth; mae cerddoriaeth a iaith arwyddo yn plethu i mewn i'w gilydd yn dda."
GWYLIWCH: Tired gan Vaughan Williams oedd y gân gyntaf i Samantha ei throsi i iaith arwyddo, a hynny ar gyfer ei gŵr, Sam
Mae paratoi cân newydd yn cymryd dipyn o amser, eglurai. I ddechrau, rhaid dysgu'r gân fel ag y mae hi ar y copi, gan sicrhau ei bod yn gwbl hyderus gyda hi.
Yna mae Samantha'n symud ymlaen at gyfieithu'r geiriau a'r ystyr i mewn i iaith arwyddo, yna dod yn gyfforddus gyda'r arwyddion, fel fod popeth yn dod fel ail natur iddi. Wedyn, rhaid rhoi'r ddwy iaith at ei gilydd...
"Dwi'n canu un iaith ond yn arwyddo iaith arall ar yr un pryd! Mae angen cael y muscle memory i weithio, gynta' efo'r canu, ac wedyn efo'r iaith arwyddo, achos alli di ddim bod yn meddwl am un yn fwy na'r llall.
"Weithiau dwi'n cael beth dwi'n ei alw yn 'buffering moment' pan mae cân yn newydd, pan dwi'n gor-feddwl beth sy'n dod nesa'!"
Ymateb emosiynol y gynulleidfa
Bellach, mae Samantha yn cynnig ychydig o ganeuon dwyieithog ym mhob perfformiad mae hi'n ei wneud, ac yn cael ymateb gwych gan ei chynulleidfaoedd.
"Y tro cyntaf i mi wneud perfformiad fel hyn yn gyhoeddus oedd cystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, gyda fy mhartner deuawd, Elizabeth Haughan.
"Ar ôl i ni berfformio, daeth tri pherson ata i – dau oedd yn colli eu clyw ac un efo wyrion oedd yn fyddar, ac roedden nhw'n emosiynol achos eu bod nhw wedi deall popeth, ac hefyd oherwydd fod 'na berson oedd yn trio llenwi'r blwch enfawr 'ma sy'n bodoli.
"Ym mis Ionawr eleni, 'nes i fy natganiad awr cyntaf yn gyfangwbl gydag iaith arwyddo. Ro'n i mor flinedig ar ei ôl o. Ond roedd pobl wir wedi cael eu heffeithio ganddo.
"Mae'n ychwanegu dimensiwn arall i'r perfformiad, ac mae'n ei wneud yn fwy cynhwysol."
Heriol ond gwerthfawr
Bwriad Samantha nawr yw i barhau i ddysgu a pherfformio mwy o ganeuon yn ddwyieithog ac ehangu ei chynulleidfa; mae cynlluniau i fynd draw i UDA a China i berfformio flwyddyn nesaf, meddai.
Mae bod yn gantores yn heriol yn ei hun, ac mae Samantha yn ychwanegu at ei llwyth gwaith drwy ychwanegu elfen arall at ei pherfformiadau. Ond mae'r holl waith i gyd werth o, meddai, os yw'n helpu i addysgu eraill, codi ymwybyddiaeth, a bod yn fwy cynhwysol.
"Hyd y gwn i, does 'na neb arall yn gwneud hyn. Ac ydy, mae'n anodd ac yn flinedig, ac mae'n rhaid i ti wir ganolbwyntio.
"Ond mae'n bosib a dwi wir yn teimlo ei fod o werth yr ymdrech."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2020

