Papurau bro: Sut mae cael y balans yn iawn rhwng digidol a phrint?

- Cyhoeddwyd
Sut mae cael y balans yn iawn rhwng y byd digidol a'r byd print?
Dyna un o'r heriau sy'n wynebu papurau bro ar hyd a lled Cymru wrth iddyn nhw fwrw 'mlaen a'u gwaith bob dydd o adrodd straeon a newyddion lleol.
Mae'r papurau "yn seilwaith diwylliannol sydd yn cysylltu pobl, yn cefnogi'r Gymraeg ac yn adrodd stor茂au nad ydym yn eu gweld mewn cyfryngau cenedlaethol", yn 么l Mentrau Iaith Cymru, sy'n gyfrifol am ddosbarthu grantiau Llywodraeth Cymru i 54 o bapurau bro.
Ond ar hyn o bryd mae'r darlun o ran llwyddiant y papurau yn un cymysg, meddai'r mudiad.
Tra eu bod yn bwysig o ran y bywyd Cymraeg lleol mae heriau yn codi ac mae'r rhain yn debyg iawn ym mhob ardal.
Mewn cynhadledd yn Aberystwyth ddydd Mercher bydd Mentrau Iaith Cymru yn s么n am bwysigrwydd y papurau o ran "cadw'r Gymraeg yn weladwy mewn cymunedau".

"Ma pobl ifanc gyda ni ar y funud sydd 芒 syniadau newydd ac ma angen i ni fel pwyllgor wrando," meddai Megan Jones Roberts
Un o'r prif sialensiau yw'r angen am fwy o wirfoddolwyr gan bobl dan bwysau amser, a her arall yw costau cynhyrchu cynyddol.
Megan Jones Roberts yw cadeirydd papur bro Aberystwyth, Yr Angor, ac mae hi wedi bod yn gneud y gwaith "ers cyn co'", meddai.
Mae hi'n s么n i'r papur gael cyfarfod "eithriadol" ddwy flynedd yn 么l a bod hynny wedi ennyn ymateb arbennig wnaeth arwain at olygyddion newydd yn ymuno 芒 nhw a hefyd pobl oedd yn barod i helpu dosbarthu'r papur bob mis.
Er bod cynnal y papur yn gallu bod yn her mae hi yn dweud fod y gwaith yn bwysig a phleserus.
"Ry' ni yn mynd allan at y bobl," meddai.
"Mae'n mynd yn fwy caled achos bod pawb mor brysur ac efallai ddim wastad yn sylweddoli bod angen stor茂au arno ni. Ond nawr mae gyda ni syniadau newydd."
Dau gefnder 13 oed yn cychwyn papur bro newydd yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn 么l
Dathlu 50 mlynedd o bapur bro Y Gadlas
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
Dathlu 50 mlynedd o'r Dinesydd, y papur bro cyntaf
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023
Ond mae olyniaeth a chynnal brwdfrydedd gwirfoddolwyr yn sialens gyson i'r papurau.
"Mae pobl ifanc gyda ni ar y funud sydd 芒 syniadau newydd ac mae angen i ni fel pwyllgor wrando ar, a derbyn syniadau fel bod y papur yn ymddangos bob mis."
Wrth sicrhau olyniaeth, mae'r Angor yn rhoi hyfforddiant i olygyddion newydd ac "mae hynny wedi gweithio".
Mae'r byd digidol yn helpu, a'r cyfryngau cymdeithasol, meddai.
"Bore 'ma nes i atgoffa pobl fod Yr Angor ar fin dod allan mewn neges ar Facebook, a chyn pen dim roedd mwy o stor茂au yn ein cyrraedd ni."
Wrth edrych i'r dyfodol mae Megan Jones Roberts yn pwysleisio fod angen i'r papurau bro gydweithio a rhannu syniadau.
"Mae'n dda bod pethe yn mynd yn ddigidol nawr, ond ar hyn o bryd dyw'r Angor ddim yn ddigidol.
"Ry' ni dal i fynd mas i'r tai a'r siopau a'r papur, a dwi ddim yn meddwl bod rhaid bod yn ddigidol i fod yn llewyrchus."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.