Ateb y Galw: Cadi Beaufort

Cadi BeaufortFfynhonnell y llun, Cadi Beaufort
  • Cyhoeddwyd

Mae hi i'w gweld pob wythnos ar y teledu fel un o gyflwynwyr y rhaglen boblogaidd Stwnsh Sadwrn. Yn ogystal â hyn mae hi'n rhedeg dosbarthiadau ffitrwydd cynhwysol yng Nghaerdydd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn wreiddiol o Ffair Rhos yng Ngheredigion ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, Cadi Beaufort sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Cwympo oddi ar y beic wrth ddangos fy hun.

Fi'n cofio mynd mewn llinellau igam-ogam yn eitha' sydyn a wedyn cwympo, rhedeg mewn i'r tŷ gyda gwyneb llawn gwaed! Meddwl falle mai dyna pam fi'n ofn unrhyw fath o adrenaline nawr!

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae hwn am neud fi swnio mor ddiog... ond fy ngwely. Fi'n caru gwely a cysgu! 'Sdim ots ble ydw i yng Nghymru!

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

Www mae hwn yn anodd! Fi 'di cael sawl noson gofiadwy. Fi'n lwcus i gael ffrindiau sy' ddim eisiau mynd adre yn gynnar! Ond oedd yr ail noson yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd llynedd yn CLASS. Ges i fwynhau llwyth o fandiau newydd ac mi oedd awyrgylch y lle yn lysh. Er bo' fi ddim yn gampwraig ar gampio!

Cadi a pherson arall yng Ngŵyl y Dyn GwyrddFfynhonnell y llun, Cadi Beaufort
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cadi fwynhau Gŵyl y Dyn Gwyrdd y llynedd

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Triw, bywiog a laff.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Ffeindio allan fy mod wedi cael swydd fel cyflwynydd Stwnsh! Mi'r oedd hwnna yn drobwynt yn fy ngyrfa a rhywbeth doeddwn i byth yn meddwl se ni'n 'neud. Ond fi wrth fy modd a, dim i swno'n cheesy, ond dyw e ddim yn teimlo fel job rili.

Fi mor lwcus o bawb sy'n gweithio gyda fi ar y rhaglen. Dwi bellach yn mynd mewn i fy nhrydedd flwyddyn fel cyflwynydd!

Cyflwynwyr Stwnsh ar draethFfynhonnell y llun, S4C / BoomPlant
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynwyr Stwnsh

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnot ti erioed?

No comment...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Priodas Gruff a Lois 'nôl ym mis Ionawr.

Cadi BeaufortFfynhonnell y llun, Cadi Beaufort

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Torri ar draws pobl mewn sgwrs. Sori, fi jyst ishe bod yn involved!

Cadi ar lwyfan gyda'i chyd-gyflwynwyrFfynhonnell y llun, Cadi Beaufort
Disgrifiad o’r llun,

Cadi ar lwyfan gyda'i chyd-gyflwynwyr

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Rhaid fi gyfaddef, 'sdim gyda fi'r attention span gore, so ma rhywbeth fel podlediad mwy at fy nant i. Rhywbeth fel Dish neu Siarad Siop gyda Mari a Meilir... fi'n lyfo nhw!

Cadi wrth ei gwaithFfynhonnell y llun, Cadi Beaufort
Disgrifiad o’r llun,

Cadi wrth ei gwaith

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Cysgu mewn, bwyta be' fi moyn a gweld pobol fi'n hoffi!

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Www, mae hwn yn anodd. 'Sneb penodol gyda fi ond falle rhywun sy'n hollol wahanol i fi. Er enghraifft, rhywun sy'n gwneud extreme sport neu mynd i'r gofod? Achos mae rheina yn bethe bydden i BYTH ishe 'neud!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: