'Clwb pêl-droed Cymreiciaf y byd'?: Ail-frandio CPD Caernarfon

CPD Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae'r nod yn un aruchel - ail-lunio delwedd clwb pêl-droed i fod y clwb Cymreiciaf yn y byd - a dyna'r her y mae CPD Caernarfon yn ceisio'i gyrraedd.
Ar yr olwg gyntaf, maen nhw o leiaf hanner ffordd at y nod. Clwb sydd yng nghalon un o gadarnleoedd y Gymraeg ac yn chwarae ar y lefel uchaf yn Uwch-Gynghrair Cymru.
Ond mae mwy iddi na hynny, ac mae'r clwb wedi bod yn ymdrechu ers tro i ledaenu'r neges ar draws y byd.
Y cam diweddaraf yw creu brand newydd i'r clwb.

Mae Ryan James wedi bod yn gweithio ar ail-frandio sawl tîm pêl-droed
Un o'r rhai sydd wedi bod wrthi'n ddiwyd yn ceisio gwneud hynny yw Ryan James, ac mae ganddo gryn dipyn o brofiad yn y maes.
Bu'n gweithio gyda dau glwb yn Yr Alban i wneud yr un peth - Hibernian (o Gaeredin) a Raith Rovers yn ardal Fife.
Wedi ail-frandio llwyddiannus gyda'r ddau glwb, daeth Ryan yn ôl i Gaernarfon yn benderfynol o gadw at yr egwyddorion a fu'n llwyddiannus yn Yr Alban.
"Yn ddelfrydol," meddai wrth Cymru Fyw, "y syniad yw bod y Clwb Cymreiciaf yn y Byd - neu'r Welshest Club in the World - a chael y neges yna ar draws y byd ar y cyfryngau cymdeithasol."

Mae clwb Hibernian yng Nghaeredin yn un sydd wedi gweithio gyda Ryan ar gynllun brandio newydd
"Be fues i'n neud hefo Hibernian a Raith Rovers oedd dechra gyda rhyw fath o cultural audit, sef edrych ar hanes y clybiau, eu lleoliad, a chreu cynnwys ar-lein yn defnyddio hynna i gyd.
"Er enghraifft, fuon ni'n gweithio gyda Hibernian yn ystod pen-blwydd y clwb yn 150 oed.
"Ar ôl gwaith cynnar yn addasu logos a phethau felly, fe ddaeth cit newydd gyda'r logo newydd a defnyddio'r citiau wedyn ar gynnwys ar-lein.
"Ond y peth hollbwysig i'r ddau glwb, ac i Gaernarfon rwan, ydi bod y cefnogwyr yn teimlo eu bod nhw'n rhan o unrhyw benderfyniad."

Fe chwaraeodd Caernarfon mewn crysau arbennig 'Owain Glyndŵr' y llynedd, gan greu cryn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol
Fe ddechreuodd y syniad o ail-frandio Caernarfon y llynedd pan fu'r tîm yn chwarae am gyfnod mewn crysau newydd, sef cit Owain Glyndŵr.
"Fe wnaeth hynny greu cynnwrf mawr ar y cyfryngau cymdeithasol," ychwanegodd Ryan.
"Fe welson ni hefyd bod clybiau eraill - Copenhagen yn un esiampl - sydd wedi denfyddio hanes a hanes diwylliannol i greu brand newydd, ac mae kit Copenhagen wedi cael sylw ar draws y byd.
"Dyna'r nod i ni hefyd."
Mewn cyfarfod ar y 19eg o Chwefror fe gafodd criw dethol o gefnogwyr CPD Caernarfon gyfle i weld tri dyluniad posib o fathodyn neu arfbais newydd i'r clwb.
Fe gafodd y cefnogwyr y cyfle i leisio'u barn ar y cynlluniau, ac mae Cymru Fyw yn deall fod un ffefryn clir wedi ymddangos.
Mae disgwyl i glwb Caernarfon wneud cyhoeddiad maes o law.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr

- Cyhoeddwyd6 Ionawr
