Cais CPD Caernarfon i ddyblu nifer y seddi yn yr Oval

Mae'n fwriad i ddyblu nifer y seddi ym maes yr Oval yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Fe all un o brif feysydd pêl-droed y gogledd weld gwaith uwchraddio pellach dros y misoedd i ddod.
Yn un o'r pedwar maes a fydd yn cynnal pencampwriaeth dan-19 UEFA yr haf hwn, mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i lefelu'r maes a chodi ystafelloedd newid newydd ar yr Oval yng Nghaernarfon.
Ond mae cais cynllunio o'r newydd wedi ei gyflwyno gan y clwb i godi eisteddle newydd.
O ganlyniad byddai nifer y seddi yn y stadiwm yn dyblu o'r 600 presennol i 1,200.

Tractor ar gae'r Oval o flaen y teras ble mae'n fwriad i godi eisteddle newydd
Byddai'r eisteddle, medd y clwb, yn cael ei godi i'r gogledd o'r maes chwarae, ar lecyn sydd ar hyn o bryd yn deras agored.
Dywed y clwb y byddai'r seddi ychwanegol yn eu helpu i gyrraedd gofynion UEFA er mwyn chwarae gemau Cyngres Europa ar yr Oval.
Ddwy flynedd yn ôl bu'n rhaid i'r Cofis chwarae gemau yn erbyn timau Crusaders a Legia Warsaw yn Stadiwm Dinas Bangor gan nad oedd yr Oval yn cyrraedd safonau UEFA.
Mae disgwyl i adran gynllunio Cyngor Gwynedd ystyried y cais yn ystod y misoedd nesaf.
A welwn ni'r Haaland neu Mbappé nesaf yng Nghaernarfon eleni?
- Cyhoeddwyd6 Ionawr
£3m i wella cyfleusterau pêl-droed y gogledd
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.