A welwn ni'r Haaland neu Mbappé nesaf yng Nghaernarfon eleni?

Yr Oval yng Nghaernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith sylweddol ar yr Oval yng Nghaernarfon wrth i'r maes baratoi i gynnal pencampwriaeth UEFA yr haf yma

  • Cyhoeddwyd

Mae Erling Haaland, Kylian Mbappé a Harry Kane ymysg enwau mwyaf pêl-droed sydd wedi serennu ym mhencampwriaethau dan-19 UEFA mewn blynyddoedd a fu.

Ond wrth i Gymru baratoi i gynnal y twrnament am y tro cyntaf eleni, mae gobaith bydd rhai o glybiau pêl-droed y gogledd yn elwa am flynyddoedd i ddod.

Wrth ddilyn patrwm pencampwriaethau blaenorol, y disgwyl yw bydd y gystadleuaeth yn galluogi cefnogwyr ar draws y rhanbarth i gael cip ar rai o sêr y dyfodol.

Yr Oval yng Nghaernarfon fydd un o'r meysydd sy'n cynnal y gemau, ac sydd wedi bod yn destun gwaith uwchraddio sylweddol ers misoedd diolch i fuddsoddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Ond gyda'r Cofis ymysg y clybiau sy'n denu'r torfeydd uchaf yn y gogledd, mae wedi golygu newid byd a gorfod chwarae eu holl gemau cartref y tymor hwn 30 milltir i ffwrdd yn Llandudno.

Barn cadeirydd y clwb, serch hynny, yw bydd y cyfan yn talu ar ei ganfed.

'Cost oddi ar y cae'

"Y peth mwya' wrth gwrs ydy lefelu'r cae," meddai Paul Evans, Cadeirydd CPD Tref Caernarfon.

"Fel mae pawb yn gwybod mae 'na ddipyn o slope yma, naw troedfedd o un ochr y cae i'r llall, felly hwnna oedd y peth mwya'.

"Oedd rhaid cael estyniad ar yr ystafell newid i'r tîm oddi cartref, wedyn mae hwnnw wedi dwblu, oedd hefyd angen ystafell i'r ffisio a'r heddlu ac yn y blaen a dug outs newydd."

Paul Evans
Disgrifiad o’r llun,

Paul Evans: "Mae hwn y peth mwyaf sydd wedi digwydd i'r clwb mewn 50 mlynedd"

Mae'r cynllun yn ei gyfanrwydd wedi costio dros £1m.

Ac er bod y rhan fwyaf wedi ei gyllido gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, mae'r clwb hefyd wedi cyfrannu tua £250,000.

Ond yn ogystal â'r gost, mae hefyd wedi golygu bod y clwb yn gorfod chwarae eu holl gemau cartref yn Llandudno.

I glwb oedd yn denu cyfartaledd o tua 600 o gefnogwyr y tymor diwethaf, ac ar fwy nag un achlysur wedi denu dros 1,000 i gemau, mae'r symud dros dro wedi cael effaith amlwg.

Ond yn ôl Paul Evans, mae'n bwysig bod y gwaith yn cael ei wneud gan fod dyhead hirdymor i'r Oval fod mewn sefyllfa i gynnal gemau Ewropeaidd.

Y gobaith, ychwanegodd, oedd i godi eisteddle newydd fyddai'n darparu 400 o seddi ychwanegol yn y pendraw.

Kylian Mbappé yn dathlu wedi sgori yn erbyn PortiwgalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ymosodwr PSG a Ffrainc, Kylian Mbappé (dde), serennu yn nhwrnament dan-19 UEFA yn 2016

"Pan oeddan ni'n cutuno i'r prosiect yma oedd 'na dipyn o gost i ni fel clwb," ychwanegodd.

"Mae'r cost oddi ar y cae yn golygu colli arian ar y giât... mae'n giatia ni lawr yn sylweddol y tymor yma, miloedd o bunoedd.

"Ar y cae mae ganddon ni dîm da, ond wrth gwrs mae pob gêm i ffwrdd... mi fasa ni'n gwneud yn well os fasan ni'n chwarae yn yr Oval.

"Ond da ni'n edrych mwy at y dyfodol a beth sydd i ddod, mae hwn y peth mwyaf sydd wedi digwydd i'r clwb mewn 50 mlynedd.

"A phwy â ŵyr pwy fydd yn chwarae yma yn yr haf 'de? Meddyliwch, bydd pobl ardal Caernarfon yn cael gweld sêr y dyfodol yn chwarae yma.

"Pwy â ŵyr, ella fydd y Zidane nesa yn chwarae yma, neu'r Cofi Messi nesa!"

'Man geni pêl-droed Cymru'

Mae Pencampwriaeth dan-19 UEFA yn cael ei chynnal rhwng Mehefin a Gorffennaf bob blwyddyn gydag wyth tîm yn cystadlu, sef saith tîm sydd wedi cymhwyso drwy'r rowndiau rhagbrofol â'r genedl sy'n ei chynnal, sef Cymru eleni.

Yn ogystal â Chaernarfon, bydd gemau hefyd yn cael eu cynnal ym Mangor a Dinbych, gyda'r gêm derfynol i'w chynnal ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Mae meysydd ym Mae Colwyn, Gresffordd, Bwcle, Rhuthun, Y Rhyl, Caergybi a Phenmaenmawr wedi eu dynodi fel mannau i'r timau ymarfer.

Mark Evans
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mark Evans gyfeirio at "effaith clwb pêl-droed Wrecsam" ar y rhanbarth

Mae 2026 hefyd yn nodi 150 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru yng ngwesty'r Wynnstay yn Wrecsam.

Yn ôl un o ffigyrau amlycaf y gymdeithas, mae rhesymau amlwg pam fod y penderfyniad wedi ei wneud i gynnal y twrnament yn y gogledd, ac y bydd hefyd yn gymorth wrth i Gymru baratoi i gynnal rhai gemau Euro 2028.

"Wrecsam a'r gogledd oedd man geni pêl-droed yng Nghymru", meddai Mark Evans, Pennaeth Rhyngwladol y gymdeithas.

"Ewch yn ôl i 1876 a'r Wynnstay Arms... roedd hi'n bwysig i'w chynnal yn y gogledd."

Y Cae RasFfynhonnell y llun, CPD Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Mae CPD Wrecsam yn gweithio ar godi eisteddle newydd, ond does dim disgwyl iddo fod yn barod erbyn cystadleuaeth dan-19 UEFA yr haf yma

Gan gyfeirio at "effaith Clwb Pêl-droed Wrecsam ar y rhanbarth", dywedodd bod llwyddiant y clwb a'r gwaith i wella'r Cae Ras hefyd yn bwysig, a bod dyhead i chwarae mwy o gemau rhyngwladol yno dros y blynyddoedd i ddod.

Ond er y gwaith presennol i godi eisteddle newydd i gymryd lle y Kop, dydy o ddim yn disgwyl y bydd yn barod erbyn y gystadleuaeth.

Serch hynny, cadarnhaodd Mark Evans y bydd y Cae Ras yn cyrraedd holl ofynion UEFA a bod gwaith eisoes wedi ei wneud i wella'r cae a chyfleusterau eraill.

"Mae 'na hyder yn y dref," ychwanegodd.

"Ond 'da ni wedi bod yn helpu i wella rhai o'r meysydd eraill hefyd... gadael gwaddol ar gyfer y dyfodol.

"Mae'n hawdd i sôn am adael gwaddol, ond mae'n rhaid delifro hefyd.

"Gobeithio bydd pobl yn dod i weld y gemau yr haf yma ond wedyn yn dychwelyd i wylio gemau y clybiau yma hefyd."

'Cyfnod cyffrous'

Ym Mangor fe gafodd cae 4G newydd ei agor yn ddiweddar, ac eisoes mae cynlluniau wedi eu cyhoeddi i godi sawl eisteddle newydd fyddai'n cynyddu nifer y seddi yn Stadiwm Dinas Bangor o 1,045 i 2,226 dros y blynyddoedd i ddod.

Ond mae gwaith uwchraddio sylweddol hefyd wedi bod yn Ninbych, ar gost o tua £2m.

Gareth Luke Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Luke Jones yn sefyll o flaen y cyfleuster newydd yn CPD Tref Dinbych

Mae'n cynnwys adeilad deulawr gydag ystafelloedd newid sy'n cyrraedd gofynion UEFA, ystafelloedd pwrpasol i ddyfarnwyr, cegin a gofod swyddfa.

Gyda gwelliannau hefyd i'r cae chwarae a chyfleusterau eraill dywedodd Gareth Luke Jones, sy'n aelod o bwyllgor CPD Dinbych, ei fod yn gyfnod "cyffrous" i'r clwb a'r dref.

"Mae na fuddsoddiant aruthrol wedi bod, cyfleusterau cystal â'r Principality, Caerdydd, Abertawe", meddai.

"Mae na lot o edrych ymlaen rŵan at yr haf ond ddeng mlynedd yn ôl tasa rhywun wedi dweud wrtha' i y byddai timau rhyngwladol yn chwarae yma mi fyddwn wedi chwerthin nhw allan o'r lle."

Jac Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jac Thomas, sy'n chwarae i dîm dan-19 Cymru, yn edrych ymlaen at chwarae o flaen torf gartref

I dîm dan-19 Cymru bydd y cyfle i wynebu rhai o fawrion Ewrop ar domen eu hunain yn gyfle unigryw, ac yn helpu iddyn nhw ddatblygu gyda'r gobaith o gynrychioli tîm dynion Cymru rhyw ddydd.

Dywedodd amddiffynwr Caerdydd a Chymru, Jac Thomas: "Fydd y cefnogwyr yn, gobeithio, helpu ni ymlaen ac mae'n amser cyffrous i bêl-droed yng Nghymru.

"Fel carfan ni eisiau dod yn erbyn y timau a'r chwaraewyr gorau a chael bod ar y world stage."

Gyda rhyw chwe mis i fynd mae'r gwaith paratoi yn parhau, a gobaith sawl cefnogwr pêl-droed yn y gogledd yw cael cip ar y Messi neu'r Ronaldo nesaf.