Penderfynu a fydd ysgol ddwyieithog ym Mhowys yn troi'n ysgol Gymraeg

Mae disgwyl i Ysgol Pontsenni droi yn ysgol cyfrwng Cymraeg yn 2027
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i ysgol gynradd ddwyieithog ym Mhowys droi yn un cyfrwng Cymraeg y flwyddyn nesaf, gyda'r cyngor yn cwrdd ddydd Mawrth i gadarnhau eu penderfyniad.
Fe fyddan nhw'n trafod a ydyn nhw am fwrw ymlaen â'r newid i Ysgol Pontsenni gan ei newid o fod yn ysgol â dwy ffrwd, Saesneg a Chymraeg, i Gymraeg yn unig.
Gallai'r newid ddod i rym ym mis Medi 2027, gan ddechrau'n raddol gyda'r dosbarth derbyn, ond mae pryder ymhlith llywodraethwyr yr ysgol am amseru'r broses.
Yn ôl Cyngor Powys bydd y newid yn "helpu'r ysgol i weithredu'n fwy effeithiol a rhoi cyfle i'r plant yn y rhan yma o'r sir ddysgu a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg".

"Bydd yn hyfryd gwybod fod pob un plentyn sy'n dod trwy'r ysgol... yn gallu cyfathrebu trwy'r cyfrwng Saesneg, neu'r Gymraeg," meddai Bethan Price
Mae dros 100 o ddisgyblion yn Ysgol Pontsenni ar hyn o bryd - 63 yn y ffrwd Gymraeg a 51 yn y ffrwd Saesneg.
Dywedodd un o'r rhieni, Bethan Price, fod nifer y plant sy'n mynychu'r ffrwd Cymraeg wedi tyfu yn y blynyddoedd diwethaf.
"Ym mlwyddyn fy merch, mi aeth 14 i mewn a'r rhan helaeth o'r rheiny i'r ffrwd Gymraeg - felly mae'n gwneud y ffrwd Saesneg yn anodd i gynnal," meddai.
"Bydd yn hyfryd gwybod fod pob un plentyn sy'n dod trwy'r ysgol wedi cael y sgiliau iaith yna ac yn gallu cyfathrebu trwy'r cyfrwng Saesneg, neu'r Gymraeg."

Mae Ceri ac Alex yn rhieni yn yr ysgol, ac mae Alex o blaid y newid ond dydy Ceri ddim mor siŵr
Dywedodd Alex, sy'n rhiant o'r ardal: "Dwi'n meddwl fod o'n beth da i blant fi yn enwedig a gobeithio gwelwn ni rhywbeth fel hyn yn dod yn y dyfodol."
Ond dywedodd rhiant arall, Ceri: "Yn y gymuned yma ni'n siarad dwy iaith, ni'n siarad Cymraeg a Saesneg.
"Mae rhan fwyaf o rieni yn siarad Saesneg, felly os mae rhieni moyn i'w plant nhw fynd i'r ysgol yn y cyfrwng Saesneg, that's their right."

Mae Jane Jones yn dweud bod y newid am roi llawer o bwysau ar rieni a'i bod yn gallu bod yn her cadw pawb yn hapus
Ond gyda'r ysgol hefyd yn y broses o gael adeilad newydd, mae'r llywodraethwyr yn poeni am yr effaith y gallai'r newid ei gael ar ddisgyblion a staff.
Maen nhw'n galw am oedi i'r cynlluniau tan o leiaf 2028.
"Dyw'r ysgol newydd ddim wedi cael ei adeiladu. Mae'n rhaid i nhw ddod yn gyfarwydd 'da'r ysgol newydd," meddai Jane Jones.
"A falle mae isie bach mwy o amser arnyn nhw i newid yn fwy o'r Saesneg a'r Gymraeg just i'r Gymraeg.
"Mae'n lot o bwysau ar athrawon hefyd i gael popeth yn iawn - a cadw rhieni yn hapus hefyd, sy'n gallu bod eitha' caled."

Dywedodd y Cynghorydd Aled Davies fod y newid yn "newyddion da i Bowys".
"Ond mae'n bwysig hefyd clywed barn y rhieni ar yr un pryd," meddai.
"Mae'n rhaid i ni wrando ar be' mae'r staff a'r prifathro yn eu dweud ac ystyried hynny.
"Ond dwi'n siŵr gyda chymorth y cyngor, bydd yn bosib cymryd popeth ymlaen ar yr un pryd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.