Beirniadu oedi i adolygiad llofruddiaeth bachgen dwy oed

Cafodd Ethan Ives-Griffiths ei lofruddio gan Michael a Kerry Ives
- Cyhoeddwyd
Mae teulu plentyn bach a gafodd ei lofruddio gan ei nain a'i daid wedi beirniadu oedi i adolygiad sy'n ystyried y cyswllt a gafodd y bachgen gyda gwasanaethau cymdeithasol yn yr wythnosau cyn iddo farw.
Cafodd Ethan Ives-Griffiths ei ladd gan Michael a Kerry Ives yn eu cartref yn Garden City, Sir y Fflint, ym mis Awst 2021 pan oedd Ethan yn ddwy oed.
Cafwyd mam Ethan, Shannon Ives, hefyd yn euog o greulondeb tuag at blentyn ac o achosi neu ganiatáu ei farwolaeth.
Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn arwain adolygiad aml-asiantaeth o'r achos mewn ymgais i ddysgu gwersi o'r hyn ddigwyddodd.
Erbyn dechrau 2026 roedd y bwrdd wedi disgwyl derbyn adroddiad yn ystyried y cyswllt y cafodd asiantaethau fel gwasanaethau cymdeithasol gyda'r bachgen bach.
Ond mae bellach wedi ei gadarnhau bod yr adroddiad angen mwy o waith, ac erbyn hyn dyw hi ddim yn amlwg pryd y bydd yn cael ei gyhoeddi.

"Mae'n rhaid cael atebolrwydd pan fydd y system sydd i fod i amddiffyn plant yn methu," meddai Kellie Shone
Ond dywedodd nain Ethan ar ochr ei dad, Kellie Shone, bod unrhyw oedi yn "fethiant arall".
Ychwanegodd bod y bwrdd diogelu wedi dweud wrthi fod angen cynnal mwy o gyfweliadau.
'Mae'n rhaid cael atebolrwydd'
Dywedodd Ms Shone, sy'n byw yn Y Fflint: "Cafodd Ethan ei fethu gan y gwasanaethau cymdeithasol pan roedd o fwya' angen help.
"Rŵan, ar ôl popeth mae ein teulu ni wedi mynd drwyddo, mae'r oedi cyn rhyddhau'r adolygiad yn teimlo fel methiant arall.
"Nid yn unig i ni, ond i'r cyhoedd sydd hefyd yn haeddu atebion, a hefyd pob plentyn sy'n dibynnu ar y system i'w cadw'n saff.
"Pan fydd plentyn yn marw yn dilyn methiannau yn y system, mae oedi adolygiad annibynnol ond yn gwneud y pryder yn waeth ac yn tanseilio'r hyder yn y rhai sy'n gyfrifol am amddiffyn plant.
"Mae'n rhaid cael atebolrwydd pan fydd y system sydd i fod i amddiffyn plant yn methu.
"Mae'r cyhoedd yn haeddu atebion clir am beth aeth o'i le, a beth fydd yn newid wrth symud 'mlaen."

Cafwyd Kerry Ives (chwith), Shannon Ives (canol) a Michael Ives (dde) yn euog yn dilyn achos pum wythnos o hyd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug
Clywodd yr achos llys fod y saith wythnos y bu Ethan yn byw yn nhŷ ei nain a'i daid yn rai erchyll, wrth i'r bachgen bach ddioddef camdriniaeth gorfforol a meddyliol.
Pan lewygodd ar 14 Awst 2021 ar ôl cael anaf difrifol i'w ben yn ystafell fyw ei nain a'i daid, cafodd Ethan ei gludo i'r ysbyty, ond bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.
Roedd wedi cael ei ysgwyd, roedd ganddo 40 o anafiadau gwahanol ar ei gorff, wedi dadhydradu i lefel beryglus, ac yn dioddef o ddiffyg maeth.
Roedd ei gyflwr mor wael ei fod wedi achosi i nyrsys yn yr ysbyty grio.
Esgusodion i weithwyr cymdeithasol
Ers Mehefin 2021 roedd Ethan ar y gofrestr amddiffyn plant ar ôl i'w fam Shannon, a'i dad Will Griffiths, wahanu.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug yn ystod yr achos y dylai Ethan fod wedi cael ei weld bob 10 diwrnod oherwydd ei fod ar y gofrestr.
Ond y tro diwethaf iddo gael ei weld gan weithiwr cymdeithasol oedd 22 Gorffennaf 2021 - dros dair wythnos cyn iddo farw ar 16 Awst.
Roedd gweithwyr cymdeithasol ac ymwelwyr iechyd wedi gwneud sawl ymgais i weld Ethan, ond rhoddwyd sawl esgus pam nad oedd hynny'n bosib.
Cafodd Michael Ives ei weld ar gamera cylch cyfyng yn annog plentyn arall i daro Ethan, ac yn ei gario wrth ei fraich
Yn ystod un ymweliad, ar 5 Awst, arhosodd gweithiwr cymdeithasol ar garreg y drws am tua 45 munud oherwydd cyfyngiadau Covid, ond ni welodd Ethan oherwydd bod ei fam wedi dweud ei fod yn cysgu.
Ni chafwyd ateb pan geisiodd gweithiwr cymdeithasol ac ymwelydd iechyd ymweld â Shannon Ives ar 12 Awst.
Doedd dim ateb i alwad y diwrnod canlynol chwaith.
Ar ddiwedd yr achos llys dywedodd Cyngor Sir y Fflint, "yn unol â'n penderfyniad i amddiffyn y rhai sydd ein hangen fwyaf", eu bod yn "cydweithredu gyda Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, sy'n arwain adolygiad aml-asiantaeth o'r achos trasig yma".
'Angen cynnal cyfweliadau pellach'
Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn goruchwylio'r adolygiad ymarfer plant.
Yn wreiddiol, y disgwyl oedd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r bwrdd yn gynnar yn 2026.
Ond yn dilyn "digwyddiad dysgu" a gafodd ei gynnal yn gynharach y mis hwn, mae angen gwaith pellach.
Mewn datganiad dywedodd y bwrdd diogelu wrth BBC Cymru: "Ar hyn o bryd nid yw'r bwrdd yn gallu darparu dyddiad cyhoeddi.
"Yn dilyn y digwyddiad dysgu cychwynnol ym mis Chwefror, nodwyd bod angen i'r panel adolygu gynnal cyfweliadau pellach.
"O ganlyniad, mae'n debygol y bydd yn cael ei gyhoeddiad yn ddiweddarach yn 2026."
Ym mis Hydref 2025 cafwyd Michael Ives, 48, a Kerry Ives, 46, yn euog o lofruddiaeth ac o greulondeb tuag at blentyn.
Bydd Michael Ives yn treulio o leiaf 23 mlynedd dan glo, a Kerry Ives o leiaf o 17 mlynedd.
Cafwyd mam Ethan, Shannon Ives, 28, yn euog o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn, a'i dedfrydu i 12 mlynedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd3 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd3 Medi 2025
