Hel atgofion am ganu pop y 60au gydag Y Diliau

Y Diliau yn hel atgofion gyda Caryl Parry Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y Diliau yn hel atgofion gyda Caryl Parry Jones

GanLois Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Roedden nhw'n boblogaidd iawn yn yr 1960au a'r 1970au - y grŵp pop gwerin o Sir Gâr, Y Diliau – a oedd gan ffans fel y chwaraewr rygbi chwedlonol Barry John, a ddywedodd amdanynt "un o bleserau mawr bywyd yw eistedd, ymlacio ac ymollwng i swyn a chyfaredd eu cynghanedd…"

Yn drist iawn, fe fu farw Meleri Mair Evans, un o aelodau gwreiddiol y grŵp, yn 2025. Fe ymunodd Lynwen, Gaynor a Mair o grŵp Y Diliau â Caryl Parry Jones ar ei rhaglen a thrwy eu hatgofion, digrifwch a thipyn o hiraeth, cawn ddarlun o'r cyfnod pan fu'r Diliau yn rhan greiddiol o fywyd pop Cymraeg ac o ddiwylliant Cymru.

Y Diliau

Dechrau annisgwyl ar goridor ysgol

Ar hap a damwain ar goridor Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri y dechreuodd bethau i Y Diliau.

Roedd Mair a Lynwen wedi bod yn canu deuawdau gyda'i gilydd ers blynyddoedd, ac yn canu mewn côr gyda'i gilydd. Ond un diwrnod, wrth "hongian ambyti" yng nghoridor yr ysgol fe ddechreuon nhw ganu Gypsy Rover.

"Ni'n dwy'n dechrau canu... A dyma Meleri'n dechrau canu alto. [Mair] yn canu'r alaw, fi'n canu rhyw dop. A meddwl, nawr te, mae 'na sail fan hyn i rhywbeth. A dyna sut digwyddodd e."

Fe glywodd un o'r athrawon y merched yn canu ac o hynny fe ddaeth gwahoddiad i berfformio:

"Oedd un o'r athrawon wedi'n clywed ni a wedi dweud, mae eisiau i chi ganu yn Llangadog! Roedd rhyw noson ymlaen gyda'r Blaid yn Llangadog, ac oedd rhaid ni fynd i ganu 'na!"

Ac o fan'no aeth pethau o nerth i nerth.

Ffasiwn: Ceisio consensws gwisgoedd

Disgrifiad,

Y Diliau yn perfformio ar Disc a Dawn yn y 1960au

"Roeddech chi wastad yn edrych yn cŵl ofnadwy, fel arfer mewn boots uchel," meddai Caryl wrth gofio gweld Y Diliau ar raglen Disc a Dawn. Ac mae'n debyg mai Gaynor oedd yn gyfrifol am ddewis y dillad.

Ond doedd dewis y dillad ddim yn dasg syml!

"Roedd rhaid cael poced i Mair," eglurodd Gaynor, gan mai ganddi hi oedd y rhestr o beth oedden nhw'n mynd i ganu nesaf, a dim gitâr!

"Oedd Meleri yn gwrthod gwisgo coch a pinc... a ddim yn hoffi botymau!"

Roedd y chwedegau yn gyfnod o ddiwylliant poblogaidd yn dylanwadu ar ei gilydd, yn enwedig ffilmiau ar ddelwedd grwpiau pop, a dywedodd Gaynor ei bod hi'n dwyn ysbrydoliaeth, yn enwedig ar gyfer y bŵts o ffilmiau fel Doctor Zhivago.

Meddai: "Wel, mi ddaeth Doctor Zhivago allan, a dyna lle ddechreuodd y bŵts. Ar ôl gweld Doctor Zhivago roedd rhaid cael bŵts."

Nosweithiau llawen a chyngherddau di-rif

Roedd Y Diliau'n perfformio mewn nosweithiau llawen di-rif yn ystod eu gyrfa fel grŵp ac fe fuon nhw'n teithio Cymru am flynyddoedd, ond roedd galw amdanyn nhw ar lwyfannau amrywiol ledled y wlad.

Roedden nhw'n westeion rheolaidd ar raglen Disc a Dawn, yn ogystal ag ymddangos yn canu ar lwyfannau gyda eiconau pop a roc eraill fel Meic Stevens, Ryan Davies a Dafydd Iwan.

Ond un o'r uchafbwyntiau maen nhw'n ei gofio ydy'r cyngerdd Pinaclau Pop ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 29 Mehefin 1968.

Cyngerdd i godi arian i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Aberystwyth 1969 oedd o, ac yn perfformio ar y noson roedd perfformwyr adnabyddus eraill fel Dafydd Iwan, Heather Jones, Hogia Llandegai ac Y Pelydrau i gynulleidfa o tua 3,000 o bobl gyda Ryan Davies yn arwain.

Mae Caryl yn disgrifio'r nosweithiau Pinaclau Pop fel "y Premiere League o ganu pop Cymraeg" a'u bod nhw "fel Glastonbury".

"Oedd hi'n gyfnod arbennig o fywiog," meddai Mair am yr adeg.

"Y peth i'w wneud, os oeddech chi'n canu ysgafn neu'n canu gwerin, oedd troi fyny ar ôl cael eich gofyn, cael eich gwahodd i gymryd rhan yn y nosweithiau yma."

Y Gog Lwydlas... in Inglish!

Un o'r caneuon mae'r Diliau wedi'i recordio yw Y Gog Lwydlas, ac mae'r tair yn hel atgofion am ganu'r gân mewn cyngerdd yn y Rhondda.

"O'n nhw wedi dweud wrthon ni, canwch yn Gymraeg ond mae'n rhaid i chi siarad yn Saesneg. Och, oedd rhaid siarad yn Gymraeg a Saesneg wedyn, ac o'n i byth yn licio gwneud 'ny..." eglurodd Mair.

"Beth bynnag, dyma fi'n dweud nawr: 'Well, we're now going to sing a folk song, a traditional folk song, in the traditional way, unaccompanied. In Welsh it's called, Y Gog Lwydlas, in English, it's the Grey Cookas'.

"A wedyn colapso chwerthin! Do'n ni ffaelu dechrau canu am sbel!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.