Cofio helynt Mordecai? 40 mlynedd ers Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig

Siwan Bowen Davies oedd yn actio Carys, ac Emyr Wyn yn actio Sam Crosby
- Cyhoeddwyd
Mae'n anodd credu, ond mae'n 40 mlynedd ers i'r ffilm eiconig Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig, gael ei rhyddhau.
Mae'r ffilm wedi ei lleoli yng Nghaerdydd lle mae dwy chwaer, Sera a Carys, yn dod i'r ddinas i chwilio am waith.
Hywel Gwynfryn oedd awdur y sgript a Caryl Parry Jones a gyfansoddodd y caneuon.
Er y pedwar degawd ers ei chyhoeddi, mae nifer o'r caneuon yr un mor fyw heddiw, gyda nifer sylweddol o bobl yn parhau i wylio'r ffilm yn flynyddol.
'Angen rhywbeth mawr'
"Roedd S4C wedi dangos diddordeb mewn cael rhywbeth ar gyfer plant i'r 'Dolig," meddai'r darlledwr Hywel Gwynfryn, yn trafod y broses o greu'r ffilm - o'r papur i'r sgrin.
Felly fe aeth ati ynghyd â Caryl Parry Jones i greu Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig.
"Mi 'steddon ni lawr ac mi ddaru hi awgrymu bod angen rhywbeth mawr, angen ffilm, angen story line lle mae rhywbeth anhygoel yn digwydd.
"Beth am gael y cymeriad drwg iawn iawn y bysa' pawb yn ei licio, yn penderfynu dwyn y 'Dolig a phenderfynu sianelu arian holl siopau'r byd i mewn i'w boced ei hun?
"Dyna oedd y syniad gwreiddiol," esboniodd.
Nid dyma oedd y tro cyntaf i'r ddau weithio â'i gilydd. Beth felly yw cyfrinach llwyddiant y cydweithio?
"Mewn unrhyw ddeuawd llwyddiannus, medda hi, mae angen dau berson, un i eistedd lawr a'r llall i gerdded o gwmpas," meddai Hywel Gwynfryn.
"Wedyn fi oedd yn eistedd i lawr a hi oedd yn cerdded o gwmpas!
"Oeddan ni'n mynd i wneud y gwaith yng nghegin Caryl, ac mi oedd o'n ffantastig ac oedd hi'n coginio bwyd neis, fel sosej a grefi - jyst y fath o fwyd oeddech chi eisiau i'ch cynnal chi.
"A chawson ni hwyl garw. Ma' hynna'n bwysig achos 'da chi'n dod â'r hwyl 'na mewn i'r darn."

Cafodd nifer o'r golygfeydd eu ffilmio ar draws Caerdydd
Dywed Hywel Gwynfryn fod cyfuniad o bethau wedi cyfrannu at lwyddiant y ffilm, fel "cymeriadau cryf, caneuon cofiadwy, hawdd i'w canu, ac amrywiaeth y caneuon".
Ychwanegodd fod un gân yn arbennig o bersonol iddo, sef Dydd ar ôl Dydd.
Cân sy'n trafod y "cariad sydd rhwng y ddwy chwaer, ond mewn gwirionedd y cariad sy' rhwng pobl sy' mewn cariad â'i gilydd".
Esboniodd ar ôl iddo golli ei wraig, iddo "roi llinell ola'r gân, 'byddaf i gyda thi' ar botyn ar ei bedd."
Pan wnes i holi iddo sut y byddai'n disgrifio'r ffilm mewn tri gair, atebodd: "Lot. O. Hwyl.
"Mae'r ffaith fod pobl yn dal i sôn amdani yn dweud rhywbeth dydi, fod o wedi para cyhyd.
"Y cwestiwn olaf i mi ydi, ydach chi'n credu mewn Siôn Corn? A'r ateb pob tro - mae 'na os wyt ti'n credu fod 'na." - sylw fydd yn gwneud synnwyr i'r rheiny sydd wedi gwylio'r ffilm.

Dywed Emyr Wyn: "Ro'n ni'n gang oedd yn cydweithio lot gyda'n gilydd o ran cyflwyno a pherfformio"
Emyr Wyn oedd yn chwarae rhan Sam Crosby, sef y cymeriad wnaeth achub y Nadolig.
Wrth edrych 'nôl ar y cyfnod, dywedodd iddo gael "lot o sbort", yn enwedig wrth gyd-actio gyda'r diweddar Meic Povey a oedd yn chwarae rhan Mordecai - y dyn oedd yn ceisio dwyn y 'Dolig.
"Oedd e'n gyfnod cyffrous. Roedd S4C newydd ddechrau ac mi oedden nhw'n chwilio am ffilm Nadolig," meddai.
"Ro'n ni'n 'nabod ein gilydd yn dda iawn. 'Ro'n ni'n gang oedd yn cydweithio lot gyda'n gilydd o ran cyflwyno a pherfformio."
Dywedodd ei fod wedi chware sawl cymeriad tipyn yn hŷn na'i oed pan oedd yn iau, a "deugain mlynedd yn ddiweddarach 'dwi'n teimlo 'mod i wedi cyrraedd oedran Sam Crosby".
Atgof arall sydd ganddo o'r cyfnod oedd yr eira artiffisial yn toddi am i'r ffilmio ddigwydd yn ystod yr haf.
"Oedd e'n gyfnod gwahanol. Yn fyd mwy diniwed 'falle."
'Ddim yn dda iawn am ddysgu geiriau'
Gydag Emyr Wyn wedi ymddangos mewn sawl drama a ffilm Gymraeg, dywedodd mai dysgu geiriau i'r ffilm hon oedd yr her fwyaf iddo.
"Dwi ddim yn dda iawn am ddysgu geiriau, dwi'n dueddol o wneud lot o bethau lan, ond mi oedd rhaid yn y ffilm yma, yn enwedig am bo' ni'n meimio'r caneuon.
"Roedd hwnna yn un o'r pethau anoddaf 'dwi wedi gwneud erioed yn fy ngyrfa, yn enwedig y rap.
"Fi'n cofio'r geiriau nawr. Fe dreuliais i wythnosau yn eu dysgu achos roedd yn rhaid i mi gael y meimio'n berffaith.
"Gan fod Endaf [Emlyn] yn berffeithydd, ac ro'dd ganddon ni i gyd barch mawr iawn ato fel cerddor a chyfarwyddwr, ro'n ni'n edrych lan ato fe.
"Mae'n rhywbeth a oedd yn cael ei arddangos bron pob Nadolig ac wedi mynd o genhedlaeth i genhedlaeth."

10 oed oedd Siwan Bowen Davies tra'n actio yn y ffilm
Yn wahanol i weddill y cast, 10 oed yn unig oedd Siwan Bowen Davies pan gafodd y cyfle i actio cymeriad Carys yn y ffilm.
Er ei bod bellach yn 50, mae'n cofio ei chlyweliad i'r ffilm yn iawn.
"Dwi'n cofio 'nôl i pan o'n i'n ymgeisio am y rhan. Daeth cwmni cynhyrchu i'r ysgol a ro'n nhw'n mynd rownd ysgolion Cymru i gyd.
"Dwi'n cofio'r amser 'na'th mam a dad roi gwybod i mi 'mod i wedi cael y rhan a ro'n i methu credu'r peth.
"Doedd dim syniad da fi beth oedd o'm mlaen i achos do'n i erioed wedi gwneud rhywbeth fel 'na o'r blaen.
"Fi'n cofio'n glir y diwrnod gatho' ni y read through cyntaf. 'Roedd e lawr yng Nghanolfan yr Urdd, a jyst yn cofio Endaf Emlyn yn mynd trwy'r golygfeydd."
'Atgofion melys'
Dywedodd mai "atgofion melys" iawn sydd ganddi o'r cyfnod, gan gynnwys "recordio'r caneuon efo Caryl, oedd hwnna yn sbesial".
Ychwanegodd mai'r peth gorau oedd yr "hwyl gathon ni".
"'Roedd e'n waith caled wrth gwrs, ond yr hwyl a'r teimlad 'na bo ni'n creu rhywbeth eithaf sbesial ar y pryd.
"'Naethon nhw 'neud i fi deimlo'n gartrefol ac yn gyfforddus a 'naethon nhw gael y gorau allan o rywun oedd yn 10 oed."
Deugain mlynedd yn ddiweddarach, faint ohonoch chi fydd yn gwylio'r ffilm eleni?
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2016

- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2015
