Diwedd y daith i focs signalau ar ôl 118 o flynyddoedd

- Cyhoeddwyd
Mae pryder y gall adeilad signalau rheilffordd o'r oes Fictorianaidd gael ei ddymchwel ar ôl newidiadau i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn y de orllewin.
Ond, yn ôl y perchnogion, Network Rail, nid oes penderfyniad terfynol ynglŷn â ffawd yr adeilad wedi ei wneud eto a maen nhw'n barod i drafod ei ddyfodol gyda'r gymuned leol.
Cafod bocs signalau Pen-bre ei agor yn 1907 ac roedd yn rhan o rwydwaith oedd yn hwyluso'r gwaith o gludo glo o lofeydd Cwm Gwendraeth i borthladd Porth Tywyn.
Aflwyddiannus hyd yma fu ymdrechion i roi statws rhestredig Gradd II fyddai'n gwarchod yr adeilad a'r offer ynddo.
Gobaith grŵp treftadaeth oedd y byddai peth o'r offer yn cael eu trosglwyddo i'r gymuned leol er mwyn cofnodi hanes diwydiannol yr ardal mewn safle penodedig yn y dref glan môr.

Ar ei brysuraf arferai'r gweithwyr signal ddefnyddio 83 o liferi i reoli'r traciau o amgylch porthladd Porth Tywyn
Fel rhan o broses o foderneiddio, mae Network Rail wedi cyflwyno newidiadau i bump o groesfannau yn y gorllewin rhwng ardal Cydweli a Phorth Tywyn.
Fe fydd y gwaith o reoli signalau nawr yn cael ei ganoli ym Mhort Talbot.
O ganlyniad, bydd safleoedd bocsys signalau yn cau yng Nghydweli, Porth Tywyn, Glan-y-fferi a Chyffordd Caerfyrddin.
Yr hynaf o'r rhain yw'r un ym Mhorth Tywyn, oedd yn cael ei adnabod fel 'Pembrey Signal Box' gan yr awdurdodau.
Mae Network Rail yn dweud fod moderneiddio'r system yn hollbwysig o ran diogelwch a pherfformiad y rheilffyrdd.
Meddai llefarydd: "Drwy ganoli system reoli ac uwchraddio yr isadeiledd signalau, rydym yn gwneud trenau yn fwy dibynadwy gan wella'r gwasanaeth a'i gwneud yn fwy diogel."
Dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, dywedodd fod signalau wedi methu 59 o weithau ar y lein rhwng Caerfryddin a Llanelli.

Rhan o'r peirianwaith ar lawr isaf yr adeilad oedd yn trosglwyddo negeseuon i'r signalau semaffor wrth i'r liferi gael eu tynnu
Dywed grŵp Treftadaeth Pen-bre a Phorth Tywyn ei bod yn bwysig i adfer olion o'r hanes diwydiannol gyda'r bocs signal wedi bod yn weithredol am 118 o flynyddoedd tan eleni.
Meddai Graham Davies, cadeirydd y grŵp: "Fe wnaethom ofyn i Network Rail am beth o'r offer, yn benodol un o'r signalau semaffor, lifer a'r hen arwydd yn nodi'r bocs signal, er mwyn eu harddangos yn ardal yr harbwr yn yr awyr agored er mwyn i drigolion lleol ac ymwelwyr eu gweld.
"O'n i dan yr argraff y byddai hyn yn digwydd, ond nawr rydym yn poeni am yr oedi a sôn y bydd Network Rail yn cadw'r offer.
"Un ymateb positif oedd bod nhw wedi cytuno i gymryd rhan â phrosiect celf leol i sôn am yr hanes. Bydd ysgolion ac artistiaid lleol yn rhan o'r prosiect i greu byrddau yn arddangos lluniau o amgylch yr orsaf."

Erbyn hyn mae'r signalau semaffor ym Mhorth Tywyn wedi cael eu disodli gan oleuadau sy'n cael eu rheoli gan system ddigidol
Dywed Network Rail eu bod erbyn hyn yn gallu cynnig signal semaffor o'r tu allan i'r bocs signal, a bod y gwaith o benderfynu pa offer arall allai gael ei gynnig yn mynd rhagddo.
Meddai datganiad: "Fel rhan o'r gwaith o gau bocsys signal fel y rhain mae'n rhaid sicrhau fod offer sy'n parhau o ddefnydd yn cael ei flaenoriaethu a'i ail ddosbarthu i fannau eraill lle bod dal eu hangen er mwy sicrhau fod y rheilffyrdd yn ddiogel.
"Unwaith fod y broses yna wedi ei chwblhau fe allwn edrych ar y gwaith o gynnig offer i grwpiau lleol ac rydym yn gwerthfawrogi amynedd pobl tra bod hyn yn mynd rhagddo."

Roedd y grŵp Treftadaeth wedi gobeithio y byddai'r dref yn etifeddu'r arwydd hwn unwaith fod y bocs signalau yn cau
Ar ei anterth roedd y bocs signal yn ganolbwynt wrth reoli cyfres o draciau rheilffyrdd oedd yn gwasanaethu prif ddiwydiannau'r ardal – y lein o lofeydd Cwm Gwendraeth, un arall o lofa leol Cwm Capel, rheilffordd y Great Western ac yn ddiweddarach lein i orsaf Nwy Bae Caerfyrddin.
Yn ystod y cyfnod prysuraf roedd yn rheoli symudiad 140,000 tunnell o lo bob blwyddyn.

Erbyn hyn mae oes y peirianwaith fel hyn wedi dod i ben a'i ddisodli gan systemau digidol
Dywed y corff cadwriaethol CADW eu bod wedi gwrthod dau gais yn y gorffennol am nad oedd yr adeilad dan sylw yn cyrraedd eu criteria.
Yn ôl eu datganiad:
"Nid yw yn un o'r enghreifftiau gorau o'i fath a byddwn angen tystiolaeth gref i ddangos bod ein penderfyniadau blaenorol yn anghywir."
Ychwanegai'r datganiad fod tri theip GWR7 wedi eu cofnodi gan CADW a hynny yn Llangollen, Pantffynnon a Llanelli.
Barnwyd fod yna ormod o newidiadau ac atgyweiriadau wedi eu gwneud i adeilad Porth Tywyn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill

- Cyhoeddwyd18 Chwefror

- Cyhoeddwyd6 Chwefror
