Berlin? Tokyo? Na, dyma fetro newydd de Cymru
Mae Cymru Fyw wedi cael y cyfle i fynd tu ôl i'r llen ar drenau-tram newydd Metro De Cymru.
Dyma ein gohebydd, Bethan Bushell, yn ein tywys o amgylch depo Ffynnon Taf i weld un o'r 36 o drenau sy'n rhan o fuddsoddiad gwerth £800m gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y trenau'n rhedeg ar leiniau Merthyr, Aberdâr a Threherbert i Gaerdydd.
Mae'r trenau bellach yn eu cyfnod profi olaf cyn dechrau gwasanaethu ar rai o linellau'r Cymoedd y gwanwyn hwn.