Saith gorsaf newydd yn rhan o addewid £14bn i reilffyrdd Cymru

Syr Keir Starmer ac Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymwelodd Syr Keir Starmer â depo rheilffordd gyda Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ddydd Mercher i gyhoeddi'r cyllid

GanCemlyn Davies
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddan nhw yn ariannu'n llawn gweledigaeth £14bn i wella isadeiledd rheilffordd Cymru.

Mae'r cynlluniau gan Drafnidiaeth Cymru yn cynnwys adeiladu saith gorsaf newydd yn y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain.

Ond mewn cyfweliad â BBC Cymru tra ar ymweliad â Ffynnon Taf fore Mercher ni wnaeth Syr Keir Starmer nodi amserlen hirdymor ac ychwanegodd bod rhywfaint o'r gwaith yn dechrau eleni.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, y byddai'n cymryd tua 15 mlynedd i wireddu'r cynllun.

Dywedodd ffynhonnell o fewn Llywodraeth Cymru mai dyma'r "diwrnod mwyaf yn hanes datganoli".

Mae'r gwrthbleidiau wedi cyhuddo llywodraeth Lafur y DU o "ailgynhesu" hen gyhoeddiadau.

Dywedodd Syr Keir: "Rydym yn cymeradwyo hyn. Rydym yn cefnogi hyn. Rydym yn rhoi blaendal i lawr, ac mae'r gwaith yn dechrau.

"Mae rhywfaint o'r gwaith yn dechrau eleni ar yr orsaf newydd sydd o fewn y cynllun. Felly mae angen i ni yrru hyn ymlaen, ond mae'n sicr o fod yn drawsnewidiol.

"Rhoddom hanner biliwn i lawr fel datganiad o fwriad fel y gall y gwaith ddechrau, ac felly byddwn yn gyrru hyn ymlaen. Ac fel pob prosiect seilwaith, bydd dyraniadau o bob adolygiad gwariant mewn perthynas ag ef."

Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n digwydd waeth pwy sy'n ennill etholiad y Senedd ym mis Mai, dywedodd ei fod yn "ymrwymiad hirdymor" gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd Eluned Morgan y byddai'r buddsoddiad o £14bn dros "gyfnod estynedig" gyda "rhaglen a fydd yn trawsnewid rheilffyrdd yng Nghymru".

Dywedodd Morgan fod ei llywodraeth wedi bod yn gweithio ar y cynigion "ers y foment y des yn brif weinidog".

Dywedodd y byddai'r amserlen "tua" yr un fath â metro de Cymru - dros 15 mlynedd.

Trên Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn rhedeg gwasanaeth Cymru a'r Gororau ers Hydref 2018

Roedd Llywodraeth y DU eisoes wedi cyhoeddi £445m ar gyfer prosiectau rheilffordd yng Nghymru yn yr adolygiad gwariant ym mis Mehefin.

Mae'r llywodraeth nawr wedi egluro bydd yr arian yn mynd tuag at adeiladu gorsafoedd ym Magwyr a Gwndy, Llanwern, Dwyrain Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, Somerton, Parcffordd Caerdydd a pharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

Bydd gwaith ar bump o'r gorsafoedd yn y de-ddwyrain yn cychwyn yn hwyrach eleni, gyda'r gwaith adeiladu'n dechrau ar y ddwy arall erbyn 2029.

Y disgwyl yw mai Magwyr a Gwndy fydd yr orsaf gyntaf i gael ei chwblhau.

Mae Llywodraeth y DU yn honni bydd datblygiad Parcffordd Caerdydd yn gwasanaethu 800,000 o deithwyr bob blwyddyn.

Mae disgwyl i waith adnewyddu ar orsaf Caerdydd Canolog ddechrau yn y gwanwyn.

mapFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

Mae'r cynlluniau wedi eu cynnwys mewn dogfen sy'n amlinellu gweledigaeth Trafnidiaeth Cymru ac sy'n rhestru dwsinau o brosiectau eraill y byddai Trafnidiaeth Cymru'n hoffi eu gwireddu ar draws y wlad.

Yn ôl Llywodraeth y DU mae Trafnidiaeth Cymru'n amcangyfrif y byddai cyfanswm y gost ar gyfer cyflawni'r holl brosiectau hyd at £14bn.

Tensiynau rhwng Cymru a'r DU

Mae cyllid ar gyfer rheilffyrdd Cymru wedi bod yn bwnc llosg yng ngwleidyddiaeth Cymru yn absenoldeb arian ychwanegol yn sgil adeiladu HS2 yn Lloegr.

Mae'r llywodraeth Geidwadol flaenorol, yn ogystal â'r llywodraeth Lafur bresennol, yn San Steffan wedi wynebu galwadau gan bob plaid yn Senedd Cymru i fuddsoddi mwy yn y rheilffyrdd.

Wrth gyhoeddi'r cyllid diweddaraf, dywedodd Syr Keir: "Ers yn rhy hir mae Cymru wedi ei siomi gan Lywodraeth y DU sy'n amharod i wneud y gwaith caled ac adeiladu'r dyfodol mae'n ei haeddu.

"Mae'r llywodraeth yma'n troi'r dudalen ar yr oedi hanesyddol gyda saith o orsafoedd newydd, miloedd o swyddi, ac ymrwymiad i adeiladu rhwydwaith rheilffordd sy'n barod ar gyfer dyfodol Cymru."

Trên yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwariant ar y rheilffyrdd wedi bod yn bwnc llosg o fewn gwleidyddiaeth Cymru

Daw'r cyhoeddiad gyda llai na thri mis i fynd tan etholiad y Senedd, gyda'r arolygon barn yn awgrymu'n gyson bod Llafur y tu ôl i Blaid Cymru a Reform UK.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae tensiynau wedi dod i'r amlwg rhwng rhai o wleidyddion Llafur ym Mae Caerdydd a'u cydweithwyr yn San Steffan, gyda rhai o'r rheiny yn y Senedd yn cyhuddo llywodraeth Syr Keir o beidio â gwneud digon dros Gymru.

Dywedodd Eluned Morgan yn ddiweddar y byddai ond croeso i Syr Keir yng Nghymru'n ystod yr ymgyrch pe bai'n dod â "phethau da" fel ymrwymiadau gwario.

'Ddim yn ddatrysiad' i bobl Casnewydd

Yn ôl Iestyn Davies, sy'n gynghorydd gwleidyddol ac yn byw yn ardal Casnewydd, mae angen sicrhau bod yna fuddsoddiad yn y trenau eu hunain os yw'r cynllun am gael effaith gwirioneddol yn lleol.

"Ar un lefel mae'n newyddion da - arian newydd yn dod i Gymru... cyfleusterau newydd yn cael eu darparu ar gyfer trigolion yr ardal," meddai ar raglen Post Prynhawn.

"Ond ar y llaw arall, fel trigolion, ni'n sylweddoli fod y llinell o Gaerdydd i Gasnewydd yn fregus iawn, a hynny gan bod y trenau sy'n rhedeg ar y llinell yn hen.

"Mae'r trenau'n torri lawr yn rheolaidd oherwydd oedran a natur y stoc, felly oni bai bod buddsoddiad tymor hir... bydd dim datrysiad i'r her sydd gan bobl o ardal Casnewydd wrth gysylltu gyda Chaerdydd."

Ychwanegodd ei fod yn awyddus i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ond bod dibynadwyedd y trenau'n gwneud hynny'n anodd.

"Fel teulu ni'n defnyddio trenau – dyw'r mab ddim yn gyrru am resymau iechyd er enghraifft - ond mae'n anodd os ydych chi rhwng dwy stôl o fod eisiau defnyddio neu cael eich gorfodi i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a'r ffaith fod y gwasanaeth mor fregus."

'Teimlo fel déjà vu'

Dywedodd y Ceidwadwyr bod Llafur wedi "haneru" gwariant ar y rheilffyrdd yng Nghymru o gymharu â gwariant llywodraethau Ceidwadol blaenorol y DU.

Dywedodd Plaid Cymru y byddai'r cyhoeddiad yn "teimlo fel déjà vu i lawer o bobl yng Nghymru".

"Roedd y gorsafoedd yma wedi eu cyhoeddi'n barod yn yr adolygiad gwariant y llynedd," meddai llefarydd.

Dywedodd Reform bod Llafur mewn grym yng Nghymru wedi "tangyllido ein rhwydwaith drafnidiaeth yn gywilyddus".

Yn ôl y Blaid Werdd, Llywodraeth Cymru ddylai fod yn penderfynu sut i wario'r arian, gyda phwerau dros isadeiledd y rheilffyrdd wedi eu datganoli.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bod Llywodraeth y DU yn ailadrodd cyhoeddiadau blaenorol i geisio ennill pleidleisiau cyn etholiad y Senedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.