Croeso i Starmer ymgyrchu 'os daw ag anrhegion' - Morgan

Doedd Eluned Morgan ddim yn barod i ddweud a oedd hi'n hapus gydag arweinyddiaeth Keir Starmer
- Cyhoeddwyd
Mae prif weinidog Cymru wedi rhybuddio Keir Starmer y bydd yn rhaid iddo gyhoeddi cynlluniau mawr ar gyfer Cymru os yw am gael croeso yma yn ystod ymgyrch etholiad y Senedd.
Mynegodd Eluned Morgan bryder y byddai pleidleiswyr Cymru yn defnyddio etholiad mis Mai i "anfon neges" at Starmer a pheidio pleidleisio dros Lafur.
Wrth siarad ar BBC 5 Live, dywedodd Morgan: "Daeth i ogledd Cymru yn ddiweddar i gyhoeddi un o'r prosiectau buddsoddi mwyaf a welodd y wlad erioed, sef datblygu adweithyddion modiwlaidd bach.
"Os daw gydag anrhegion fel 'na, yna iawn, croeso iddo."
Yr etholiad am Gymru, nid Starmer
Ychwanegodd fod etholiad y Senedd ym mis Mai yn ymwneud â Chymru ac nid Starmer.
"Mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â'r pwerau sydd gennym fel Llywodraeth Cymru, ac felly'n amlwg, os yw pobl yn siomedig nad ydyn nhw'n ei hoffi, bydd yn rhaid iddyn nhw aros tan yr etholiad cyffredinol nesaf.
"Rwy'n gobeithio na fyddan nhw'n defnyddio ein hetholiad i'r Senedd i anfon neges."
Pan awgrymwyd wrthi y gallai ddweud ei bod hi'n hapus gydag arweinyddiaeth Keir Starmer, atebodd: "Dydw i ddim am fynd i mewn i hynny."
"Yr hyn rydw i eisiau yw parhau fel prif weinidog Cymru. Dyna lle mae fy ffocws a dydw i ddim am adael i hynny dynnu fy sylw."
Mae angen deddf newydd i amddiffyn datganoli - Eluned Morgan
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Starmer wedi cael 'llond bol' o gwestiynau am arian HS2 - Morgan
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2024
Cymru wedi gofyn am bwerau dros Ystâd y Goron - gweinidog y DU
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2025
Cyn hynny, wrth siarad â'r Institute of Government, dywedodd Eluned Morgan fod angen i lywodraeth Lafur y DU weithredu i atal mwyafrif o blaid annibyniaeth yn etholiad y Senedd.
Dywedodd Morgan y gall San Steffan chwarae "rôl flaenllaw" drwy roi mwy o reolaeth i sefydliadau Cymru dros ei materion ei hun.
Dywedodd fod arolwg barn diweddar, a awgrymodd y gallai Plaid Cymru a'r Gwyrddion ennill 50% o'r bleidlais gyda'i gilydd, yn dangos bod "gwahanu (separatism) ar yr agenda".
Mae'r ddwy blaid yn credu y dylai Cymru fod yn wladwriaeth annibynnol.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi "cyflwyno'r setliad cyllidebol mwyaf erioed o fwy na £22bn y flwyddyn" i Lywodraeth Cymru.
Mae Plaid Cymru yn cystadlu i fod y brif blaid wedi etholiad nesaf y Senedd.
Er ei bod yn dal i gefnogi annibyniaeth, mae eu harweinydd Rhun ap Iorwerth yn dweud na fyddai'n ceisio cynnal refferendwm ar y pwnc mewn tymor cyntaf wrth y llyw.
Ar ôl arolwg barn diweddar, amcangyfrifodd Prifysgol Caerdydd - gyda Phlaid Cymru yn yr arolygon barn ar 37% a'r Gwyrddion ar 13% - y gallai'r ddwy blaid gyda'i gilydd ennill cyfanswm o 56 sedd, ymhell dros y mwyafrif sydd ei angen i reoli Senedd Cymru.
Daeth Reform yn ail ar 23%, a Llafur a'r Torïaid yn bedwerydd ar 10% yr un, yn yr arolwg barn a drefnwyd gan YouGov ar gyfer ITV.
'Cymru gref o fewn undeb cryf'
Dywedodd Eluned Morgan: "Llafur yw plaid datganoli - yr unig blaid sydd wedi ymrwymo i Gymru gref o fewn undeb cryf.
"Ond heddiw mae arolygon barn yn awgrymu bod rhai yng Nghymru eisiau mynd ymhellach, llawer ymhellach."
Gyda'r arolygon barn yn dangos "cynnydd mewn cenedlaetholdeb yng Nghymru", dywedodd Morgan: "Mae gwahanu bellach ar yr agenda yn ein cenedl."
Dywedodd nad oedd arwyddocâd hynny "yn atseinio fel y dylai".
"Mae cefnogaeth i annibyniaeth yn tueddu i gynyddu pan fydd gwleidyddiaeth yn teimlo'n sownd neu'n ansicr, ac mae'n gostwng pan fydd pobl yn gweld datganoli yn cyflawni."
Datganoli yw'r "ffordd orau i ostwng y tymheredd a chodi ymddiriedaeth", meddai.
"Gall Llywodraeth y DU chwarae rhan flaenllaw wrth ein helpu i wrthsefyll gwahanu a chwalu'r undeb.
"Gallan nhw ein cefnogi trwy roi'r offer i ni helpu gwella bywyd i bobl yng Nghymru."
'Llafur Cymru wedi ennill dim tir'
Wrth ymateb i sylwadau Ms Morgan, dywedodd yr Aelod Plaid Cymru o'r Senedd, Heledd Fychan fod Llafur wedi "rhwystro" datganoli cyfiawnder, pwerau dros adnoddau naturiol a chyllid teg i Gymru "dro ar ôl tro".
"Mae'n anonest ganddynt honni eu bod bellach yn hyrwyddo datganoli neu fuddiannau Cymru," meddai.
"Roedd hon yn araith gan blaid sy'n ceisio aros yn berthnasol pan fydd pobl Cymru yn eu herio ar eu methiant i gyflawni mewn llywodraeth."
Ychwanegodd Tessa Marshall o'r Blaid Werdd bod "Llafur Cymru wedi ennill dim tir ar y materion hyn [datganoli] gan eu penaethiaid yn Llundain".
"Maen nhw nawr yn chwilio am bennawd tra'n colli pŵer."
Yn ôl llefarydd ar ran plaid Reform UK yng Nghymru, mae'r Blaid Lafur "wedi colli stêm yma yng Nghymru, ac mae hi ar ei ffordd allan o'r diwedd".
Ychwanegodd: "Mae'n meddygon, cleifion, athrawon, disgyblion, ffermwyr, perchnogion busnes, gyrwyr, rhieni a threthdalwyr wedi cael eu taro gan Lafur a'u partneriaid, Plaid ers dechrau datganoli."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar fod Eluned Morgan yn canolbwyntio gormod ar y cyfansoddiad.
Ychwanegodd fod Llafur a Reform, gan alw am fwy o bwerau datganoledig, yn chwarae i ddwylo Plaid Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.