Ysgol Glan Clwyd yn 70: Recriwtio athrawon yn 'greisis' i addysg Gymraeg

Sian Alwen ydy pennaeth Ysgol Glan Clwyd, sy'n dathlu 70 mlynedd ers agor yn 1956
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r Ysgol Uwchradd Gymraeg gyntaf ddathlu ei phen-blwydd yn 70 mae galwadau am fwy o fuddsoddiad a strategaeth newydd ar gyfer addysg drwy'r Gymraeg.
Y Rhyl oedd cartref cyntaf Ysgol Glan Clwyd, a agorodd ei drysau yn 1956 diolch i ddyfalbarhad pobl fel Cyfarwyddwr Addysg Sir y Fflint ar y pryd, Dr Haydn Williams.
Mae llwyddiant yr ysgol wedi sbarduno ysgolion tebyg - ysgolion sy'n cynnig addysg uwchradd drwy'r Gymraeg ymhob rhan o Gymru bron erbyn hyn.
Wrth nodi heriau recriwtio a'r gallu i gynnig darpariaeth lawn ôl-16, dywed y pennaeth presennol bod angen "gweledigaeth genedlaethol" os am gyrraedd targed y llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
'Ysgol arloesol'
Yn 80 oed erbyn hyn roedd Alun Heddwyn Jones ymysg disgyblion y flwyddyn gyntaf i fynychu'r ysgol yn 1956.
Ond er ei fod o aelwyd Gymraeg mae'n cofio nad oedd ei anfon i'r ysgol newydd yn benderfyniad hawdd i'w deulu.

Fe wnaeth Lilian ac Alun Jones gyfarfod gyntaf pan yn ddisgyblion yn Ysgol Glan Clwyd ac mae eu meibion a'u hwyrion hefyd wedi mynychu'r ysgol
"Oedd 'na ansicrwydd ymysg rhieni, dwi'n dod o Drelawnyd yn Sir y Fflint oedd yn bentre' eitha Cymreig ar y pryd ond oedd rhai rhieni yn bygwth fy rhieni i gan ddweud 'da chi'n mynd i andwyo dyfodol eich plant yn anfon nhw i ysgol Gymraeg fel hyn'," meddai.
"Ac mi oedd o'n arloesol wrth gwrs.
"Roedd ymwelwyr o bob rhan o Gymru'n dod yn aml i weld sut oedd yr ysgol yn dod yn ei blaen.
"Mi ddoth Rhydfelen ac ysgolion tebyg wedyn, ond Sir y Fflint oedd gyntaf."
Y flwyddyn ganlynol fe wnaeth Lilian Jones ddechrau yn yr ysgol, lle wnaeth hi ac Alun gyfarfod a bellach maen nhw wedi bod yn briod am 60 mlynedd.

Roedd Alun, ail o'r chwith yn yr ail res, ymysg disgyblion cyntaf Ysgol Glan Clwyd
Mae perthynas y teulu gyda'r ysgol yn parhau i fod yn un agos wrth i dri o'u meibion a thri o'u hwyrion fynychu'r ysgol.
"Maen nhw i gyd wedi bod yn hapus yma," meddai.
"A gobeithio wneith yr ysgol dal i fynd... mae'r cyfleusterau yma mor wahanol i beth oedd ganddon ni!"
'Trio pwysleisio'r Gymraeg yn yr ysgol'
Yn 1969 fe wnaeth yr ysgol symud o'r Rhyl i Lanelwy, lle mae'n dal i fod hyd heddiw.
Yn ôl rhai o'r myfyrwyr chweched dosbarth presennol mae'r ysgol yn parhau i gael effaith bositif ar Gymreictod yr ardal.

Mae Ysgol Glan Clwyd wedi ei lleoli yn ninas Llanelwy ers 1969
"Fel person sydd wedi dod o gartref sy'n siarad Saesneg adref, ac wedi dod i Ysgol Glan Clwyd a dechrau siarad yn fwy cyfforddus, mae wedi gwneud gwahaniaeth i'n hyder i," meddai Erin o Brestatyn.
"Mae'r un peth i ddisgyblion arall sy'n dod o lefydd fel Prestatyn a Rhyl."
Dywedodd Mabon o Lanelwy: "Dwi'n meddwl maen nhw'n trio pwysleisio'r Gymraeg yn yr ysgol, siarad Cymraeg hefo ffrindiau ac athrawon."
Ychwanegodd Awel o Lansannan bod croesdoriad mawr o ddisgyblion sy'n dod o gefndiroedd gwledig a threfol, ond "eu bod i gyd yn cael y cyfle i gymysgu gyda'i gilydd drwy'r Gymraeg."

Mae Erin, Emyr, Awel a Mabon yn fyfyrwyr chweched dosbarth yn Ysgol Glan Clwyd
Yn ôl Llywodraeth Cymru, rhwng 2011 a 2025 wnaeth canran y disgyblion rhwng 5 a 15 oed sydd ddim yn siarad Cymraeg adref ond sy'n derbyn addysg Gymraeg ar draws Cymru gynyddu o 11.5% i 14%.
Tra fod canran y disgyblion o bob oed sy'n derbyn addysg Gymraeg iaith gyntaf, hefyd wedi codi o 19.8% i 21.8% dros yr un cyfnod.
'Angen gweledigaeth genedlaethol'
Nos Wener bydd dathliad yn yr ysgol i nodi 70 mlynedd o addysg Gymraeg a bydd mwy o ddigwyddiadau gydol y flwyddyn.
Ymysg y perfformwyr fe fydd rhai cyn-ddisgyblion - Steffan Rhys Hughes, Celyn Cartwright, Mared Williams a Meinir Llwyd.
Dathlu 70 mlynedd ers agor Ysgol Glan Clwyd
Mae Sian Alwen wedi bod yn gweithio yn Ysgol Glan Clwyd ers bron 25 mlynedd. Cyn dod yn bennaeth ddwy flynedd yn ôl roedd hi'n athrawes Cymraeg a Drama.
"Fyswn i'm yn licio meddwl be fasa sefyllfa ieithyddol yr ardal yma heb yr ysgol yma i fod yn onest," meddai.
"Gweledigaeth pobl mor arbennig flynyddoedd yn ôl.. y pennaeth cyntaf Dr Haydn Thomas, a hynny'n erbyn gwrthwynebiad chwyrn iawn ar y pryd."
Dywedodd bod y dathliad hefyd yn gyfle i ddathlu cymuned yr ysgol ac yn gyfle i dynnu sylw at yr angen am "weledigaeth genedlaethol".
"Mae dylanwad Eingl-Americanaidd ar bopeth... mae'r byd mor fawr i ddisgyblion rwan ac mae dylanwad y Saesneg yn amlwg iawn yn gymdeithasol arnyn nhw," meddai Sian Alwen.
"A thra 'da ni'n trio cynnig y profiadau gorau, gigs Cymraeg, cystadlaethau cenedlaethol, mae'r dylanwad yna'n anodd.
"Wrth iddyn nhw aeddfedu a ffendio'u criw o ffrindiau a mynd i gartrefi'i gilydd lle nad ydy'r Gymraeg yn iaith naturiol, mae sgyrsiau yn troi [i'r Saesneg].
"Mae rhywun yn gorfod bod ar y blaen o hyd, dod i fyny hefo strategaethau newydd o hyd fel eu bod nhw yn defnyddio'u Cymraeg ar lawr y dosbarth."

Disgyblion cyntaf Ysgol Glan Clwyd yn 1956, gyda'r pennaeth cyntaf, Mr Haydn Thomas
Ychwanegodd bod recriwtio a chyllid ar gyfer ysgolion hefyd yn bryder.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae angen tua 225 o athrawon uwchradd ychwanegol bob blwyddyn, yn ogystal â 153 o rai cynradd, sy'n gyfanswm o 378.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, ar gyfer 2022-23, cafodd 396 o athrawon newydd eu hyfforddi ond fe adawodd 395 y maes.
Fe wnaeth adroddiad blynyddol Estyn ar gyfer 2023-24 nodi bod dirywiad mewn recriwtio "yn peri pryder sylweddol".
"Mae addysg ôl-16 yn bryder yn sicr. Pa gyrsiau sy'n hyfyw i'w rhedeg? Lle mae'r arbenigwyr i gynnig y pynciau yma?," ychwanegodd Sian Alwen, sy'n galw am "fwy o gydnabyddiaeth i'r proffesiwn" ac am ddenu mwy o bobl ifanc i faes addysg.
"Dwi'n meddwl bod angen gweledigaeth genedlaethol ar sut 'da ni'n recriwtio athrawon, sut 'da ni'n cynnal diddordeb yn y proffesiwn arbennig yma... achos yn naturiol mae'r proffesiwn yma mewn creisis yn gyffredinol.
"Ond o fewn addysg Gymraeg mae'r heriau gymaint mwy... mae'n rhaid i'r llywodraeth gydnabod os [am gyrraedd] y miliwn o siaradwyr erbyn 2050 bod angen y buddsoddiad yma mewn addysg Gymraeg rwan."
'Bydd rhaid tynnu canran mwy i addysg Gymraeg'
Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid a'r Iaith Gymraeg, Mark Drakeford, yn bresennol ar gyfer dathliad yr ysgol nos Wener.
Wrth ymateb i'r pryderon fe wnaeth o gydnabod yr heriau sy'n wynebu addysg Gymraeg.
"Ni'n neud lot o bethe i dreial perswadio pobl ifanc i ddod i mewn i'r gweithlu... i helpu nhw yn ariannol, i fod yn glir bod cyrsiau ar gael," meddai wrth BBC Cymru.
"Dwi'n awyddus, ac mae'r gweinidog dros addysg Lynne Neagle yn awyddus hefyd, i wneud mwy i berswadio pobl sy'n gweithio ar hyn o bryd fel teaching assistants i helpu nhw i gael mwy o hyfforddiant ac i ddod yn athrawon llawn.
"Mae nifer o lwybrau."

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid a'r Iaith Gymraeg, Mark Drakeford, yn cydnabod yr heriau recriwtio sy'n wynebu ysgolion
Ond ychwanegodd mai'r "her fwyaf" sy'n wynebu addysg Gymraeg i'r dyfodol yw cyfraddau geni, a'r ffaith bod "llai o blant o oedran ysgol yn gyffredinol".
"Bydd rhaid i ni feddwl nawr sut mae'r system yn ymdopi... os bydd llai o blant bydd rhaid i ni dynnu canran mwy i mewn i addysg drwy'r Gymraeg os ni'n mynd i lwyddo i gario mlaen i dyfu.
"Ni eisiau dod â miliwn o siaradwyr erbyn 2050, ond hefyd ni eisiau dyblu defnydd o'r iaith. Does dim pwynt i bobl ddysgu'r iaith os dydyn nhw ddim yn defnyddio'r iaith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022

- Cyhoeddwyd12 Medi 2025
