Trafod cau meddygfa yn Sir Gâr sydd â dros 4,000 o gleifion

Nid oes unrhyw feddygon yn cael eu cyflogi'n barhaol ym Meddygfa'r Sarn ac mae'n ddibynnol ar feddygon locwm
- Cyhoeddwyd
Mae meddygfa yn Sir Gaerfyrddin sydd â dros 4,000 o gleifion yn wynebu'r posibilrwydd o orfod cau.
Daw hyn wrth i Feddygfa'r Sarn ym Mhont-iets wynebu heriau, gan gynnwys lefelau staffio.
Yn cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae adolygiad diweddar o'r feddygfa yn argymell y dylai cleifion gael eu gwasgaru i feddygfeydd cyfagos o 30 Mehefin ymlaen.
Bydd y bwrdd iechyd yn ystyried yr argymhelliad mewn cyfarfod ddydd Iau cyn penderfynu ar y camau nesaf.
Meddygon teulu Cymru yn wynebu 'sefyllfa enbyd'
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2024
Hosbis i fod yn feddygfa gangen wrth i 3,000 o gleifion orfod symud
- Cyhoeddwyd26 Medi 2024
Ers Hydref 2017, mae Meddygfa'r Sarn ym Mhont-iets wedi cael ei rheoli gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda a hynny ar ôl i gytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol y cyn-bartneriaid ddod i ben.
Ers bron i ddegawd felly mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn gyfrifol am wasanaethu poblogaeth gofrestredig o tua 4,350 o gleifion.
Yn ôl papurau fydd yn cael eu cyflwyno i'r bwrdd ddydd Iau, mae'r feddygfa wedi wynebu heriau staffio yn ystod y blynyddoedd diwethaf - does yr un meddyg yno yn cael ei gyflogi'n barhaol.
Mae hynny'n golygu bod y feddygfa yn gwbl ddibynnol ar feddygon locwm.
Mae'r adeilad hefyd yn fach, yn ôl y papurau, yn cynnig cyfleusterau cyfyngedig ac wedi'i leoli mewn ardal sy'n agored i lifogydd.

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i ymgysylltu â'r gymuned cyn gweithredu unrhyw newidiadau, meddai Andrew Carruthers
Fis Hydref 2025, daeth Panel Practis Gwag ynghyd i ystyried yr opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau meddyg teulu hirdymor yn yr ardal, gan ystyried mynediad i gleifion, cynaliadwyedd y gweithlu, adeiladau, ansawdd gofal, ac ystyriaethau ariannol.
O'r opsiynau, daeth y panel i'r casgliad mai gwasgariad cleifion wedi'i reoli oedd yr ateb hirdymor mwyaf cynaliadwy, fyddai'n golygu gweld pob claf yn cael ei drosglwyddo i bractis arall sy'n lleol i'w cyfeiriad cartref.
Mae'r meddygfeydd cyfagos yn cynnwys Meddygfa Nant y Glo ym Mhontyberem sydd dair milltir o Feddygfa Sarn, Meddygfa Minafon yng Nghydweli sydd dros bum milltir o Feddygfa Sarn ac i rai cleifion, meddygfeydd yn Llanelli.
Mae'r papurau fydd yn cael eu hystyried gan y bwrdd yn derbyn na fydd hynny'n hawdd i bawb, wrth gydnabod fod trafnidiaeth gyhoeddus "yn gyfyngedig".
'Nad oes penderfyniad wedi'i wneud'
Yn ôl Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Hywel Dda, mae gan y bwrdd iechyd ddyletswydd "i sicrhau darpariaeth ddiogel, gynaliadwy ac o ansawdd uchel" o wasanaethau meddygol cyffredinol.
"Bydd ein cyfarfod bwrdd ddydd Iau yn gyfle i aelodau ystyried argymhelliad y Panel Practis Gwag i symud cleifion Meddygfa'r Sarn i bractisau cyfagos o 30 Mehefin eleni," meddai.
"Mae'n bwysig pwysleisio nad oes penderfyniad wedi'i wneud, ac rydym yn annog cleifion i barhau i fod yn gofrestredig yn y practis ar hyn o bryd.
"Os caiff argymhelliad y Panel Practis Gwag ei gymeradwyo, mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i ymgysylltu â chleifion, staff, cymunedau lleol a rhanddeiliaid cyn gweithredu unrhyw newidiadau er mwyn deall sut y gallai'r newid effeithio arnynt ac ystyried unrhyw fesurau lliniaru sydd eu hangen."
Bydd y camau nesaf ar ddyfodol Meddygfa'r Sarn yn cael eu gwneud yng nghyfarfod y bwrdd ar ddydd Iau 29 Ionawr.
Yr argymhelliad gan y panel yw i'r bwrdd i gymeradwyo gwasgaru cleifion Meddygfa'r Sarn i feddygfeydd cyfagos, yn amodol ar ymgysylltu â'r cyhoedd ar yr opsiwn hwn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.