Under Salt Marsh: trosedd ac argyfwng hinsawdd yng ngogledd Cymru

- Cyhoeddwyd
Ddiwedd y mis bydd drama newydd yn cyrraedd ein sgriniau o'r enw Under Salt Marsh.
Mae'r ddrama sydd wedi'i chreu gan Claire Oakley (Make-up, Culprits) wedi'i lleoli mewn pentref ffuglennol o'r enw Morfa Halen sy'n wynebu bygythiad newid hinsawdd ac mewn perygl o gael ei foddi.
Caiff prif gymeriad y gyfres ei chwarae gan Kelly Reilly (Yellowstone), Jackie Ellis, cyn-blismones sydd bellach yn athrawes yn ysgol gynradd Morfa Halen.
Mae ei bywyd hi'n cael ei droi ben i waered pan caiff corff bachgen ifanc ei ddarganfod ar y Morfa.
Mae'r gyfres yn dilyn ymateb trigolion y pentref i'r digwyddiad yma – ai damwain oedd hi neu a oes rhywbeth mwy sinistr yn gyfrifol?
Un sy'n actio yn y gyfres yw Julian Lewis Jones, a chafodd Cymru Fyw air efo fo am ei ran ef yn y gyfres.

Kelly Reilly yn Under Salt Marsh
Mae Julian yn chwarae rhan Osian sy'n byw gyda'i chwaer yn nhafarn y pentref, The Ship. Mae Osian "yn bach o loner" yn ôl yr actor ac yn cael ei bortreadu fel rhywun sydd ar y sbectrwm awtistiaeth.
Eglurodd Julian, er nad yw'r cyflwr yn cael ei enwi ar bapur roedd o'n gweld tebygrwydd rhwng ymddygiad ei gymeriad â chwpl o'i ffrindiau sy'n awtistig.
"Doedd yna ddim disgrifiad ohono fo'n awtistig fel hynny, ond oeddwn i'n meddwl mae'r ymddygiad a'r ffordd mae o'n obsessive am bethau, a mae o mor benset ar bethau a mae o'n fixated arnyn nhw - dwi wedi gweld pethau fel hyn yn fy ffrindiau.
"Mae o'n gymeriad sensitif iawn. Mae'n gymeriad cryf hefyd. Mae rhywbeth fel plentyn iddo fo, er bod o'n ddyn mawr, cryf, mae 'na elfen sensitif iawn iddo fo, a bod y pethau yma sydd yn ei feddwl o, y mae'n rhaid iddo fo'u dweud.
"Oeddwn i'n meddwl mai dyma sut mae'r cymeriad yma'n gwneud synnwyr."
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r gyfres wedi'i ffilmio yn Fairbourne yng Ngwynedd, pentref sydd wedi bod yn y penawdau oherwydd ei fod yn debygol o gael ei foddi gan lefelau môr yn codi.
Gallai fod gyda'r cyntaf i ddiflannu oherwydd newid hinsawdd.
Felly, mae elfennau o wirionedd sefyllfa'r ardal yn cael ei adelwyrchu yn y ddrama hefyd.
Mae'r thema yma'n taro tant gyda Julian sy'n bysgotwr brwd ac yn treulio oriau maith ar y dŵr.

"Pysgod i Bawb" - Julian gyda Ryland Teifi mewn cyfres arbennig i S4C
" Fel rhywun sy'n pysgota, a fel rhywun sy'n treulio cryn dipyn o amser ar y môr ac ar yr arfordir, mae pethau fel hyn yn bwysig i fi.
"Mae'r byd yn newid. Mae lefel y môr yn codi. Mae'r ice caps yn meddalu. Mae hyn i gyd yn effeithio arnon ni, ein plant ni.
"Mae'r byd yn fy mhoeni fi yn bersonol, a mae'r ffordd mae llywodraethau fel Trump a pethau yn dweud bod nhw ddim.
"Mae pethau fel hynna'n croesi fy meddwl yn eithaf aml," meddai.

Mae pentref Fairbourne yng Ngwynedd mewn perygl o foddi yn sgil cynydd yn lefelau'r môr
Roedd cael archwilio hyn yng nghymeriad Osian yn dod yn gymharol rhwydd iddo, meddai, gan ei fod o'n rhannu llawer o'r un pryderon.
Ond er hynny, mae'n dweud bod bywyd yn mynd yn ei flaen a nad yw'n gadael i'w bryderon effeithio ar ei fwynhad o fod yn yr awyr agored.
" Mae'n rhaid i ni fynd ymlaen mewn bywyd, felly dwi'm yn mynd i orboeni. Dwi dal i fyw fy mywyd, a dw i dal yn licio bod tu allan."
Bydd Under Salt Marsh yn dechrau ar Sky Atlantic a Now TV ar 30 Ionawr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2016

- Cyhoeddwyd8 Ionawr

- Cyhoeddwyd11 Ionawr
