Iolo Williams: 'Sioc' o gael trawiad a strôc o fewn wythnosau i'w gilydd
'Mae pawb yn byw a marw, mae marw yn rhan o fyw' - Gwrandewch ar Iolo Williams yn trafod ei iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae'r naturiaethwr Iolo Williams wedi siarad am ei sioc o gael trawiad ar y galon a strôc o fewn wythnosau i'w gilydd er ei fod wedi cadw'n heini ar hyd ei oes.
Fe gafodd y cyflwynydd ei ruthro i'r ysbyty yng ngwanwyn 2023 ar ôl cael poen yn ei frest wrth redeg cyn iddo orfod fynd i'r ysbyty eto tua chwe wythnos yn ddiweddarach wedi iddo gael emboledd.
Dywedodd ei fod yn teimlo'n "flin" gyda'i galon am gyfnod gan ei bod wedi ei "adael i lawr".
Wrth iddo nawr baratoi i redeg hanner marathon ychwanegodd y naturiaethwr 63 oed nad yw'r profiad wedi newid ei agwedd at fywyd na marwolaeth.
'Dwi'n cael trawiad ar y galon rŵan'
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd bod y trawiad wedi dod fel sioc wrth iddo fynd i redeg chwe milltir ar hyd camlas ger Y Trallwng.
Meddai: "O'n i bedair milltir a hanner i mewn iddo fo, a ges i boen aruthrol reit yng nghanol y fron ac o'n i'n gwybod mai dim cyhyr oedd o, o'n i'n gwybod bod o'n rhywbeth gwaeth, ac o'n i'n meddwl trawiad ar y galon ydy hyn.
"O'n i bron â chwympo ar fy mhengliniau, o'n i'n meddwl na, mae'n rhaid i fi gerdded rŵan milltir a hanner, achos mae'r ffôn yn y car."
Fe lwyddodd i gyrraedd ei gar a doedd y boen ddim yn cilio. Pan ffoniodd am ambiwlans cafodd wybod y byddai'n rhaid disgwyl am awr a hanner am help.
"Dyma fi'n dweud, 'gwrandwch dim jôc, dwi yn cael trawiad ar y galon rŵan'," meddai.
"Ac maen nhw'n dweud 'wel, os neith o waethygu, ffoniwch ni'n ôl'. Os neith o waethygu fydda i wedi marw, o'n i'n meddwl ar y pryd."
Cadw'n ffit ac erioed wedi smocio
Fe ffoniodd ei wraig Ceri i fynd ag o i'r ysbyty yn Y Trallwng cyn iddo gael ei ruthro mewn ambiwlans i ysbyty mwy yn Birmingham am driniaeth frys a stent.
"Roedd y pwysau gwaed yn iawn, roedd safon fy ngwaed i yn iawn - doedd 'na ddim byd yn mater arna i," meddai.
"Sna ddim hanes yn y teulu, dwi erioed wedi smocio, dwi ddim yn yfed llawer, dwi'm yn bwyta llawer o sbwriel, ac roedden nhw'n dweud wrtha i, 'wel, allwn ni ddim deud wrtha ti pam wnaeth o ddigwydd i ti, mae o'n un o'r pethau yna'. Faulty plumbing medde ryw cardiologist wrtho i.
"Ar y dechrau mae'n rhaid i fi gyfadde', o'n i yn chwerw.
"O'n i'n gas at fy nghalon fy hun achos o'n i'n meddwl... dwi 'di edrych ar dy ôl di, dwi 'di chwarae rygbi, dwi 'di cadw'n ffit, dwi 'di redeg a ti'n yn fy ngadael i lawr."

Mae Iolo Williams yn cerdded yn aml yn rhinwedd ei swydd, gan gynnwys fel tywysydd byd natur a chyflwyno - yma mae'n teithio ar hyd Sarn Helen gyda Rhys Mwyn a Cathryn Charnell-White ar gyfer cyfres BBC Radio Cymru
Chwech neu saith wythnos wedi iddo gael stent, ac yntau wedi dychwelyd i'w waith, fe gafodd ei ruthro yn ôl i'r ysbyty am yr eilwaith pan oedd ar fin mynd allan i ffilmio gyda'r nos yn ne Cymru.
Mae meddygon yn meddwl bod y driniaeth ar ei galon wedi achosi i glot bychan fynd o gwmpas ei gorff ac i'w ymennydd gan arwain at strôc - oedd hyd yn oed yn "fwy o sioc" iddo.
Meddai: "Yn sydyn iawn dyma fi'n cwympo mewn i'r car ac o'n i'n trio rhoi'r seatbelt ymlaen. O'n i'n gallu defnyddio y fraich chwith ond dim yr un dde. O'n i methu defnyddio fy nghoes dde, o'n i methu llefaru.
"Ac roedd o'n od, achos o'n i'n gallu clywed be' oedd pawb yn ddweud, o'n i'n gweld beth oedd yn mynd ymlaen ond o'n i'n methu ymateb."

Roedd yn rhaid i Iolo Williams (ail o'r dde) beidio cyflwyno cyfres Springwatch 2023 gyda Chris Packham, Michaela Strachan a Gillian Burke oherwydd ei waeledd
Fe gafodd driniaeth yn yr ysbyty a chyfnod i ffwrdd o'i waith cyn dychwelyd i ffilmio Winterwatch i'r BBC chwe mis yn ddiweddarach.
Yn ei gyfweliad mae'n sôn nad ydi ei agwedd at fywyd wedi newid a'i fod nawr yn paratoi i redeg hanner marathon Llyn Efyrnwy fis Medi eleni.
Mae o hefyd yn trafod ei agwedd at farwolaeth a sut mae o eisiau cael ei gladdu.
Gallwch wrando ar sgwrs Iolo Williams ar Beti a'i Phobol am 18:00 ar 11 Ionawr ar BBC Radio Cymru ac ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd2 Mai 2025
