Diflaniad amheus eryr prin yn 'dorcalonnus' - Iolo Williams

Mae'r math yma o adar yn cael eu galw yn Eryrod Cynffonwen, neu Eryrod y Môr
- Cyhoeddwyd
Mae'r adarwr Iolo Williams wedi dweud bod amgylchiadau diflaniad aderyn ysglyfaethus mawr yn y canolbarth yn "dorcalonnus".
Diflannodd yr Eryr Cynffonwen prin yn ardal y Drenewydd ym Mhowys, ar ôl i'w dag electronig gael ei dorri i ffwrdd a'i guddio mewn ardal anghysbell.
Mae'r aderyn yn un o dri sydd ar goll ar draws y DU, a dywedodd yr heddlu fod ymdrechion i ddod o hyd i'r aderyn wedi bod yn aflwyddiannus hyd yn hyn.
Dyma'r math mwyaf o'r adar ysglyfaethus yn y DU ac mae hi'n anghyfreithlon i'w lladd, eu hanafu neu eu cymryd.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ac Uned Troseddau Bywyd Gwyllt Cenedlaethol y DU bod yr amgylchiadau yn rhai amheus, ac maen nhw'n apelio ar y cyhoedd i'w cynorthwyo.

"Ma' hwn yn dorcalonnus, nid yn unig i gadwraeth, ond i ni fel Cymry hefyd," medd Iolo Williams
Yn siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Iolo Williams eu bod wedi medru dilyn llwybr yr eryr trwy'r tag, nes iddo gael ei dorri i ffwrdd.
Cafodd y gwryw ifanc ei ryddhau yn ne Lloegr ym mis Gorffennaf cyn dod i Gymru ar 9 Medi, meddai Mr Williams, cyn i'r tag gael ei dynnu oddi arno ar 13 Medi.
Yn ôl Mr Williams roedd yr eryr, cyn hynny, ar 11 Medi "wedi setlo yn ymyl Llyn Gwgia, ddim yn bell o bentre' Tregynon".
Honnodd fod y tag wedi cael ei yrru i fyny bryn cyfagos ar feic cwad, ar ôl cael ei dynnu oddi ar yr aderyn, "a'i gladdu o dan ryw d'warchan bach".
"Heb os nac oni bai, wedi cael ei saethu ma'r aderyn yma yng Nghymru," dywedodd, gan ychwanegu fod y tag wedi cael ei ddarganfod ger pennau ffesantod yn yr ardal.
'Enw drwg i ni fel gwlad'
Dywedodd Iolo Williams fod "hwn yn bryder mawr iawn" iddo fel adarwr a chadwraethwr.
Ychwanegodd mai eleni y cafodd yr aderyn penodol yma ei gyflwyno i'r gwyllt, ac roedd yn un ifanc.
"Ma' hwn yn dorcalonnus, nid yn unig i gadwraeth, ond i ni fel Cymry hefyd," meddai.
"Mae o'n dod ag enw drwg i ni fel gwlad.
"Ma'r adar yma yn dod â phleser i gymaint o bobl a ma' hyn yn gam anferth am yn ôl."

Mae gan Eryrod y Môr led adenydd o hyd at 2.5m [8.2 troedfedd]
"Gafodd Eryr y Môr ei saethu a'i wenwyno a'i drapio i ebargofiant yn 1919," meddai Iolo Williams.
"Wedyn, o'r 1970au ymlaen gafodd yr adar eu hailgyflwyno i orllewin yr Alban, ac aeth hwnna'n llwyddiant ysgubol.
"Maen nhw wedi cael eu cyflwyno hefyd i ddwyrain yr Alban, ac erbyn heddiw mae tua 160-170 o barau yn nythu.
"Ers dwy flynedd bellach maen nhw wedi bod yn bridio i lawr yn ne Lloegr hefyd - y pâr cyntaf i nythu yno ers dwy ganrif.
"Maen nhw wedi diflannu o Gymru, 'da ni'n meddwl ers rhyw dair canrif, ac o'n i'n gobeithio ella y byswn i'n byw yn ddigon hir i weld un o'r adar 'ma yn setlo yng Nghymru a gweld pâr yn nythu.
"Ond efo'r trychineb sydd wedi digwydd rŵan, dwi ddim yn siŵr os ydy hynny yn mynd i ddigwydd neu beidio."
Apêl heddlu
Mae'r heddlu wedi annog unrhyw un oedd yn yr ardaloedd canlynol i gysylltu â swyddogion:
Rhwng 11:00 a 13:00 ar 13 Medi yn ardal Cronfa Ddŵr Gwgia, Tregynon;
Rhwng 12:00 a 15:00 ar 13 Medi ar dir mynediad ger Bryn y Fawnog.
Dywedodd yr heddlu bod y tag wedi cael ei ganfod mewn coetir anghysbell gerllaw a'u bod yn credu ei fod wedi cael ei dorri i ffwrdd gyda chyllell.
Nid yw Eryrod Cynffonwen yn cael eu hystyried yn beryglus i fodau dynol ac yn gyffredinol maen nhw ond yn ymosod i amddiffyn eu hunain.
Ond roedd rhai yn arfer eu hela am eu bod yn cael eu hystyried yn fygythiad i adar fel ffesantod, yn ogystal â da byw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2024

- Cyhoeddwyd13 Mai 2024
