'Sbeicio yn digwydd yng nghefn gwlad Cymru, nid dim ond dinasoedd'

- Cyhoeddwyd
Nid mewn dinasoedd yn unig mae sbeicio diodydd yn broblem, ac mae angen "atgoffa pobl bod sbeicio yn digwydd mewn ardaloedd gwledig" hefyd, yn ôl menyw o Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Tirion Richards, 31 oed o Frechfa, iddi gael ei sbeicio tra ar noson allan gyda'i ffrindiau yn Aberteifi.
Mae sbeicio - pan mae alcohol neu gyffuriau'n cael eu rhoi i berson heb yn wybod iddyn nhw - yn drosedd sy'n gallu arwain at hyd at 10 mlynedd yn y carchar.
Awgrymodd adroddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd bod 91% o'r rhai sy'n cael eu sbeicio yn fenywod.
Yn ôl elusen Cymorth i Ferched Cymru mae angen "bod yn glust" i'r rhai sy'n meddwl eu bod wedi ei sbeicio am ei fod yn aml yn cael ei "wthio dan y radar".
'Cofio methu gweld dim byd'
Tirion Richards sy'n rhannu ei stori o sbeicio
Roedd hi'n nos Sadwrn arferol i Tirion, a hithau wedi mynd allan gyda'i ffrindiau yn nhref Aberteifi.
Ond wrth i'r noson fynd yn ei blaen, fe ddechreuodd deimlo'n sâl: "Roedd popeth yn iawn nes 'mod i'n cychwyn cerdded draw i dŷ fy chwaer.
"Dywedodd fy ffrindiau i mi ddisgyn i'r llawr a dwi'n cofio nad oedd fy nghoesau'n gweithio.
"Ro'n i'n ymwybodol ond dwi'n cofio methu gweld dim byd, a bod yn sâl iawn a theimlo fel 'mod i am chwydu.
"Mae wir yn fy mhoeni i feddwl be' allai fod wedi digwydd pe na fyddai fy ffrindiau neu fy chwaer wedi bod yno i edrych ar ôl fi."

Fe wnaeth adroddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd awgrymu mai traean o'r rheiny sy'n cael eu sbeicio sy'n adrodd y mater
Awgrymodd adroddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd mai menywod yw 91% o'r rhai sy'n cael eu sbeicio, a 55% o'r rheiny yn fenywod rhwng 18 a 25 oed.
Traean sy'n adrodd wrth yr awdurdodau eu bod nhw wedi cael eu sbeicio, yn ôl yr ymchwil.
Fe gysylltodd Tirion â'r heddlu y diwrnod canlynol: "Fe ddaeth yr heddlu draw i'r tŷ, gwneud prawf dŵr ac fe wnes i roi datganiad iddyn nhw," ond mae'n parhau i aros i dderbyn y canlyniadau.
Dywedodd Tirion fod y digwyddiad wedi ei hysgwyd.
"Naeth e wneud fi'n sâl am sawl diwrnod a ro'n i methu gweithio neu edrych ar ôl fy nhad, neu wneud pethau arferol.
"Mae sicr angen mwy o weithredu i godi ymwybyddiaeth i ferched a bod mesurau mewn lle i'w atal, fel defnyddio caps ar ben diodydd.
"Ro'n i wedi synnu ei fod wedi digwydd mewn ardal wledig, yn enwedig rhywle fel Ceredigion lle dwi'n nabod llawer o'r bobl."
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod sbeicio yn gallu "digwydd unrhyw le, dim ots beth yw oed, rhyw, rhywioldeb neu ethnigrwydd rhywun".
'Gallu bod yn ofnadwy'
Ond er bod y broblem yn un sy'n effeithio nifer o fenywod, dywedodd Ann Williams o Cymorth i Ferched Cymru fod angen bod yn "glust" i'r rheiny sy'n credu eu bod wedi eu heffeithio.
"Mae'n bwysig bod pobl yn cael eu gwrando arnyn nhw", meddai.
"'Da ni'n gwybod bod sbeicio yn rhywbeth sy'n mynd o dan y radar os liciwch chi, achos tydi pobl ddim yn meddwl bod nhw am gael eu coelio, sut maen nhw'n profi beth sydd wedi digwydd iddyn nhw?
"Felly mae'n bwysig pan ma' rhywun yn dweud bo' nhw'n meddwl bod rhywbeth wedi digwydd, bo' nhw'n cael y prifon i ddechrau.
"Ond yn bwysicach na hynny yw cael y glust.
"Mae beth sydd wedi digwydd iddyn nhw yn gallu bod yn ofnadwy o enbyd a'r peth diwethaf maen nhw eisiau ydi peidio cael eu credu."

Mae Nanw Maelor yn dweud ei bod yn gwybod am fyfyrwyr yn Aberystwyth sydd wedi profi sbeicio
Mae gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ymgyrch i fynd i'r afael â sbeicio
Pwysleisia Nanw Maelor, Llywydd y Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr, "bod o ddim just yn digwydd mewn dinasoedd, mae o hefyd yn digwydd yma yng nghefn gwlad Cymru".
"Mae rhai o'n myfyrwyr wedi profi hyn ac fel undeb 'da ni'n meddwl bod o'n bwysig codi ymwybyddiaeth o fewn yr ardal efo lleoliadau, tafarndai lleol yn ymwybodol fod hyn yn digwydd, a bod 'na gyfrifoldeb arnyn nhw i weithredu hefyd."
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Ni ddylai unrhyw un orfod poeni am eu diogelwch ar noson allan pan ddylent fod yn mwynhau.
"Rydyn ni'n gweithio gyda bariau, tafarndai a lleoliadau dros y wlad i gynnig hyfforddiant am ddim i staff, cefnogi'r heddlu gan beilota ymgyrchoedd newydd, ac wedi cyflwyno trosedd sbeicio newydd i helpu dioddefwyr i godi eu llais a sicrhau bod mwy o droseddwyr yn wynebu cyfiawnder."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.