Cymorth i farw: Senedd yn pleidleisio o blaid rhoi grym i weinidogion reoli gwasanaethau

Hawl i farwFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mesur yn cael ei drafod ar hyn o bryd yn Nhŷ'r Arglwyddi

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelodau o'r Senedd wedi pleidleisio o blaid rhoi'r grym i weinidogion reoli gwasanaethau cymorth i farw yng Nghymru petai deddf San Steffan yn cael sêl bendith.

Roedd 28 o blaid, 23 yn erbyn ac fe wnaeth dau Aelod o'r Senedd ymatal.

Ymhlith y rhai a bleidleisiodd yn erbyn roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles.

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bleidleisio o blaid a Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd bleidleisio yn erbyn.

Mae pleidlais nos Fawrth yn golygu y bydd gan weinidogion Cymru felly y grym i sefydlu gwasanaethau cymorth i farw ar y GIG.

Byddai pleidlais yn erbyn yn golygu y byddai gwasanaethau cymorth i farw ond ar gael yn breifat.

Fe wnaeth Aelodau o'r Senedd gefnogi hefyd welliant Plaid Cymru a oedd yn beirniadu "diffyg ystyriaeth drylwyr gobygliadau cyfansoddiadol y mesur hwn i Gymru".

Petai deddfwriaeth San Steffan yn cael ei chymeradwyo byddai'n galluogi rhai oedolion sy'n dioddef o salwch terfynol yng Nghymru a Lloegr ddod â'u bywydau i ben.

Mae'r pwnc yn parhau i hollti barn, ac mae pryderon gan bobl o fewn y sector iechyd a gofal ynghylch manylion y mesur.

Mae'r mesur yn cael ei drafod ar hyn o bryd yn Nhŷ'r Arglwyddi, lle mae cefnogwyr wedi codi pryderon y gallai'r nifer fawr o welliannau olygu na fydd y ddeddfwriaeth yn pasio.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.