Cymorth i farw: 'Gallai sefydliadau preifat ddarparu gwasanaeth'

Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, bleidleisio yn erbyn cefnogi mesur cymorth i farw yn y Senedd ym mis Hydref 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae'n bosib y bydd sefydliadau sydd ddim yn rhan o'r GIG yn gallu darparu gwasanaethau cymorth i farw yng Nghymru hyd yn oed os yw'r Senedd yn gwrthod y ddeddfwriaeth, medd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Jeremy Miles.

Ddydd Mawrth bydd Aelodau o'r Senedd yn penderfynu a ddylid cymeradwyo mesur San Steffan sy'n caniatáu i rai oedolion sydd â salwch terfynol ddod â'u bywydau i ben.

Does dim hawl gan aelodau i wrthod y bil neu ei wneud yn anghyfreithlon yng Nghymru. Yr unig hawl sydd ganddyn nhw yw penderfynu a ddylai gweinidogion llywodraeth Cymru allu gosod rheolau ar gyfer gwasanaethau cymorth i farw yma.

Os bydd y Senedd yn gwrthod y ddeddfwriaeth gallai olygu bod gwasanaethau cymorth i farw ond ar gael i gleifion yng Nghymru yn breifat, ac nid ar y GIG.

Cafodd cymorth i farw ei wrthod fel egwyddor gan y Senedd mewn pleidlais ym mis Hydref 2024 - gyda naw gwleidydd yn ymatal.

Mesur Senedd y DU yw'r ddeddfwriaeth ond gan y byddai'r mesur yn newid cyfraith sydd fel arfer yn cael ei rheoli ym Mae Caerdydd, gofynnwyd i'r Senedd ei drafod a'i gymeradwyo.

Mae'r mesur yn cael ei drafod yn Nhŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd - maen nhw'n ystyried sawl newid ac mae nifer o gefnogwyr y mesur yn pryderu na fydd yn cael sêl bendith.

Daeth sylwadau Miles ar ôl i bwyllgor deddfwriaeth y Senedd ofyn i Lywodraeth Cymru esbonio goblygiadau ymarferol y bleidlais, ar ôl rhybuddion nad oedd nifer o Aelodau o'r Senedd yn llwyr ymwybodol o beth allai fod yn y fantol.

Dywedodd Jeremy Miles wrth y pwyllgor pe bai'r Senedd yn gwrthod y ddeddfwriaeth, y gallai San Steffan fwrw ymlaen beth bynnag, gan ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru "weithredu o fewn fframwaith nad yw wedi'i gymeradwyo gan y Senedd".

Ond gallai'r Senedd ddewis dileu rhannau o'r gyfraith sy'n berthnasol i sefydliadau sydd wedi'u datganoli i Gymru.

Dau berson yn dal dwyloFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr wythnos hon bydd gwleidyddion y Senedd yn penderfynu a ddylid cymeradwyo mesur San Steffan ar gymorth i farw

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod cefnogwyr y mesur wedi addo dileu'r adrannau hynny yn Nhŷ'r Arglwyddi pe bai'r Senedd ddim yn cymeradwyo.

Dywedodd Jeremy Miles wrth y pwyllgor: "Gallai hyn arwain at beidio â rhoi pwerau i weinidogion Cymru reoleiddio cymorth i farw yng Nghymru o dan y ddeddf hon."

"Gallai darparwyr annibynnol gwasanaethau na sy'n rhan o'r GIG gael eu sefydlu yng Nghymru o hyd oherwydd y newid yn y gyfraith droseddol yn dilyn cychwyn darpariaethau eraill yn y ddeddf," ychwanegodd.

Dywedodd Miles y byddai'r canlyniad terfynol yn dibynnu "ar benderfyniadau a gymerir gan Senedd y DU ac felly nad oes unrhyw sicrwydd ar hyn o bryd".

Esboniodd mai llywodraeth nesaf Cymru fyddai'n penderfynu be'n union fyddai "y gwasanaethau cymorth i farw yng Nghymru".

Yn hytrach na'r mesur cyfan, gofynnwyd i'r Senedd gymeradwyo adrannau y mae Llywodraeth Cymru yn dweud sy'n ymwneud â phethau y mae Senedd Cymru fel arfer yn eu rheoli - fel y rheoliadau mae gweinidogion Cymru yn gallu gosod.

Ansicrwydd

Roedd Jeremy Miles a Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ymhlith y rhai a wrthwynebodd y mesur tro diwethaf.

Dywedodd un cefnogwr o'r ddeddfwriaeth, AS Llafur Gogledd Caerdydd Julie Morgan, ei bod yn poeni na fydd modd i bobl sydd â salwch terfynol ond sydd â llai o arian gael mynediad at wasanaethau cymorth i farw.

Dywedodd Julie Morgan y gallai fod yn "sefyllfa anghyfartal iawn pe bai mynediad gan bobl yn Lloegr at wasanaeth ond, yng Nghymru, yr unig bobl a allai gael mynediad at rywbeth fel hyn fyddai pobl sy'n ddigon cyfoethog i dalu amdano".

Llun James Evans yn areithio. Mae ganddo wallt brown ac mae'n gwisgo siwt du gyda chrys gwyn a thei glas.
Disgrifiad o’r llun,

Mae James Evans AS yn meddwl bod angen peidio cael y bleidlais yn y Senedd tan mae Tŷ'r Arglwyddi wedi gorffen trafod y mesur

Dywedodd James Evans o Blaid Reform ei fod yn credu bod y bleidlais yn digwydd yn rhy gynnar gan nad yw Aelodau o'r Senedd yn gwybod yn union beth sydd yn y mesur ac felly y gallai rhai ASau bleidleisio yn ei erbyn.

Dywedodd ei fod yn credu y gallai "llawer" o bobl gael eu dylanwadu gan yr ansicrwydd, gan ychwanegu ei fod yn '"ansicr" pa ffordd i bleidleisio ei hun.

Dywedodd yr AS Reform: "Mae risg o hyd na fydd y mesur hwn yn union fel ry'n ni'n ei ddisgwyl.

"Mae'n llanast y ffordd y mae'r llywodraeth wedi'i drin.

"Rwy'n gwybod bod y llywodraeth eisiau cael arweiniad gan y Senedd arno, ond yn anffodus dyma un o'r unig adegau ni wedi cael ein gofyn i bleidleisio ar rywbeth lle nad ydym yn gwybod y canlyniad o San Steffan mewn gwirionedd."

Dywedodd Mr Evans ei fod hefyd yn poeni am "anghydraddoldeb" y sefyllfa lle gallai cymorth i farw fod yn gyfreithlon ac ar gael am ddim yn Lloegr ond nid yng Nghymru.

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae 24 Chwefror yn adeg briodol i gynnal dadl sylweddol ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ac i nodi safbwynt y Senedd.

"Mae'n cyd-fynd â'r craffu sydd yn digwydd yn Nhŷ'r Arglwyddi ac yn sicrhau y gall Aelodau ystyried yr hyn sydd wedi'u nodi yn y cynnig."

Llun o'r SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pleidlais ar gymeradwyo cymorth i farw yn y Senedd ddydd Mawrth

Yn ôl aelod o Lywodraeth Cymru bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno ar 24 Chwefror oherwydd mai dyma'r amser gorau i sicrhau bod barn y Senedd ar gofnod wrth i Dŷ'r Arglwyddi barhau i'w ystyried.

Pe bai caniatâd yn cael ei roi, byddai angen pleidlais arall yn y Senedd ar ôl etholiad mis Mai er mwyn cytuno sut y byddai gwasanaeth cymorth i farw yn gweithredu.

Nid yw'n glir ar hyn o bryd sut y byddai'r gwasanaeth ar gael yng Nghymru, a phwy fyddai'n ei weithredu.

Pe bai'n cael ei basio, byddai deddfwriaeth San Steffan yn gwneud cymorth i farw yn gyfreithlon yn y ddwy wlad, beth bynnag yw'r penderfyniad yn y Senedd, oherwydd nid yw newidiadau i gyfraith hunanladdiad wedi'u datganoli.

Mae cyfansoddiad Cymru yn golygu, er bod gan y Senedd gyfrifoldeb dros greu deddfau gofal iechyd, bod dal modd i wleidyddion yn Llundain basio deddfwriaeth ar y pwnc.

Os yw hynny'n digwydd, mae'n rhaid i'r Senedd gytuno ar gynnig cydsynio.

Nid yw'n gyfraith ond nid yw San Steffan fod i ddeddfu ar faterion sy'n gysylltiedig â'r Senedd heb dderbyn sêl bendith.