Mam wedi newid ei barn ar gymorth i farw yn sgil salwch ei mab

Noah Herniman ar y chwith yn gwisgo het due a chrys llwyd. Shelley Herniman ar y dde yn gwisgo het gwyn a sbectol.Ffynhonnell y llun, Shelley Herniman
Disgrifiad o’r llun,

Mae Shelley Herniman wedi cael trafodaethau gyda Noah "na ddylai unrhyw riant ei gael gyda'i blentyn"

GanBen Price
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae mam dyn ifanc sydd â salwch terfynol yn dweud ei bod yn cefnogi cyfraith cymorth i farw am nad ydy hi eisiau gweld ei mab yn dioddef neu'n mynd dramor i ddod â'i fywyd i ben.

Roedd Shelley Herniman yn teimlo'n gryf yn erbyn rhoi'r hawl i gael cymorth i farw nes iddi weld poen a dioddefaint ei mab, Noah, wedi misoedd o gemotherapi ar gyfer tiwmor ar ei ymennydd.

"Des i â [Noah] i'r byd ac wrth gwrs dwi ddim eisiau bod yn gyfrifol am ddod a'i fywyd i ben, ond dydw i chwaith ddim eisiau ei weld yn dioddef," meddai.

Ddydd Mawrth bydd y Senedd yn pleidleisio i benderfynu a ydyn nhw'n cytuno i roi'r grym i sefydlu gwasanaethau cymorth i farw ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, petai San Steffan yn cymeradwyo'r ddeddf.

Cafodd cymorth i farw ei wrthod fel egwyddor gan y Senedd mewn pleidlais ym mis Hydref 2024, ond fe fyddai'n dod yn gyfraith yng Nghymru a Lloegr petai'n cael sêl bendith San Steffan, gan nad yw'n fater sydd wedi ei ddatganoli.

'Dyw hynny ddim yn urddasol'

Dechreuodd Noah Herniman, o Gas-gwent, ar 74 wythnos o gemotherapi pan oedd yn 15 oed, ar ôl derbyn diagnosis terfynol.

Roedd sgil-effeithiau y driniaeth yn anodd iawn, o fewn misoedd roedd ei bwysau wedi disgyn i tua 50kg.

Roedd disgwyl iddo gychwyn ail rownd o driniaeth am 80 o wythnosau ond doedd ei gorff ddim yn gallu ymdopi, meddai ei fam.

Dechreuodd Noah drafod y syniad o deithio dramor er mwyn derbyn cymorth i farw, rhywbeth nad oedd Shelley yn fodlon ystyried.

Ond wedi cyfnod o ymchwilio ac archwilio'r holl opsiynau eraill, yn ogystal â gweld dioddefaint ei mab, dywedodd Shelley bod ei barn wedi dechrau newid.

Llun o Shelley Herniman yn ei thy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Shelley Herniman wedi newid ei barn ar ôl gweld effaith salwch ar ei mab

Dywedodd Shelley: "Fe welais i pa mor wael aeth ei iechyd.

"Ar un cyfnod roedd hi'n anodd gweld Noah yn dychwelyd adref o'r ysbyty achos mi oedd e mewn cymaint o boen ac yn sgrechian gan ei fod mor wael.

"Fe effeithiodd y cemotherapi cymaint ar ei afu a'i arennau."

Ers peidio parhau gyda cemotherapi mae iechyd Noah wedi gwella, ond mae'r tiwmor yn parhau i dyfu'n araf.

Dyw hi ddim yn bosib dweud faint o amser sydd ganddo i fyw, ond ar hyn o bryd mae'n parhau'n bositif ac mae ganddo gynlluniau i fynd i'r brifysgol.

Er gwaethaf hynny, mae Noah a'i deulu yn sylweddoli y daw diwrnod ble fydd ei gorff yn dechrau cau lawr.

"Yn y pendraw, mi fydd e'n methu gwneud pethau'n annibynnol a bydd e'n colli'r gallu i siarad oherwydd natur ei diwmor ar ei ymennydd.

"Dyw hynny ddim yn urddasol," meddai.

Llun o Noah Herniman yn ei dy
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi eisiau marwolaeth gyflym ac heb boen," meddai Noah

Dywedodd Noah ei fod yn "ofni" y syniad o farw, ond ei fod yn ceisio parhau'n optimistaidd am ei ddyfodol.

Ond pan ddaw'r amser iddo wynebu marwolaeth o ganlyniad i'w salwch, mae'n benderfynol ei fod eisiau "marw gydag urddas".

Dywedodd: "Un dydd fe fydd y tiwmor yn cyrraedd pwynt lle bydd rhaid dweud dyma ddechrau'r diwedd ac os felly, dydw i ddim eisiau marwolaeth hir a phoenus lle dwi ddim yn gallu gwneud unrhyw beth i fy hun.

"Dwi eisiau marwolaeth gyflym a dydw i ddim eisiau byw am fisoedd yn teimlo'n ofnus wrth ddioddef."

Mae Noah a'i deulu hefyd yn dweud eu bod eisiau i fwy o wleidyddion ddeall ei safbwynt.

'Nifer o ddoctoriaid yn nerfus iawn'

Mae'r pwnc yn parhau i hollti barn, ac mae pryderon gan bobl o fewn y sector iechyd a gofal ynghylch manylion y mesur.

Mae llawer o faterion i'w penderfynu yn San Steffan o hyd.

Mae'r mesur ar hyn o bryd yn Nhŷ'r Arglwyddi, lle mae cefnogwyr wedi codi pryderon y gallai'r nifer fawr o welliannau olygu na fydd y ddeddfwriaeth yn pasio.

Dywedodd Mark Taubert, ymgynghorydd gofal diwedd oes: "Mae nifer o ddoctoriaid yn nerfus iawn am hyn.

"Does yna ddim digon o fesurau ar hyn o bryd i ddiogelu cleifion ac mae yna ddiffyg dealltwriaeth o gyflwr ein gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, sydd o dan straen enfawr."

Ychwanegodd bod angen i wleidyddion y Senedd ystyried yn ofalus pwy ddylai fod yn gyfrifol am unrhyw deddfwriaethau cymorth i farw yn y dyfodol, wrth iddyn nhw fwrw pleidlais.

Androw BennettFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Androw Bennett yn credu y dylai unrhyw un sydd yn ei iawn bwyll ac sydd am farw o fewn chwe mis gael yr hawl i beidio â "mynd trwy uffern" yn gorfforol

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru fe ddywedodd y dyneiddiwr Androw Bennett ei fod o blaid y bil ar ôl gweld perthynas iddo'n dioddef yn wael.

Esboniodd bod ei lystad mewn "poen difrifol iawn" yn ystod ei wythnosau olaf yn ôl yn 2006 a'i fod yn "ymbil bod e isie mynd nawr".

Dywedodd nad oedd ei gorff yn gweithredu'n iawn a bod ei lystad yn teimlo'n "embaras".

"Yn gorfforol o'dd e'n mynd trwy uffern," meddai.

"Dwi'n heneiddio a mae gen i broblemau iechyd.... dwi ddim isie mynd trwy'r un cyfnod fel perthynas i mi 20 mlynedd yn ôl."

Ar y llaw arall fe rannodd ymgynghorydd gofal lliniarol, Dr Siwan Seaman ar Dros Frecwast ei bod hi'n poeni am sgileffeithiau'r bil.

"Fy ngofid mwya' i yw bydd y bil 'ma'n tynnu cyllid oddi wrth y sector yma [gofal diwedd oes] sydd ei angen e'n fawr iawn.

"Dwi'n trin cleifion sy'n teimlo fel baich," meddai - yn faich ar eu teuluoedd ac ar staff yr ysbyty.

"A dwi just yn meddwl os ydy claf fel 'na yn clywed claf arall yn gofyn am gymorth i farw – be' ma' hwna'n dweud i'r claf arall am werth ei fywyd e?."

Nid yw canlyniad y bleidlais ddydd Mawrth yn sicr.

Er nad yw Plaid Cymru wedi cadarnhau eto a fydd eu gwleidyddion yn cael cyfarwyddyd i bleidleisio mewn ffordd benodol, mae disgwyl i'r rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd, gan gynnwys o Lafur a'r Ceidwadwyr, gael pleidlais rydd.

Gallai San Steffan anwybyddu pleidlais y Senedd, ond mae cefnogwyr y ddeddfwriaeth wedi dweud y bydden nhw'n newid y mesur i gael gwared â rhannau sy'n ymwneud â Chymru pe bai aelodau'n pleidleisio yn erbyn.

Os yw'r Senedd yn gwrthod caniatáu'r mesur sy'n cael ei drafod yn San Steffan, fe allai hynny golygu bod gwasanaethau cymorth i farw ar gael yng Nghymru, ond nid ar y gwasanaeth iechyd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.