Ffurfio cadwyn ddynol mewn ymgais i achub meddygfa rhag cau

Sarn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn mynnu "nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynghylch dyfodol" Meddygfa'r Sarn

  • Cyhoeddwyd

Mae cleifion ac ymgyrchwyr sy'n galw am achub meddygfa yn Sir Gâr sydd mewn perygl o gau wedi ffurfio cadwyn ddynol o amgylch y safle mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth.

Ym mis Ionawr fe gyhoeddodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod posibilrwydd y byddai Meddygfa'r Sarn ym Mhont-iets yn gorfod cau, oherwydd heriau gan gynnwys lefelau staffio.

Mae Meddygfa'r Sarn wedi cael ei rhedeg gan y bwrdd iechyd ers 2017, ar ôl i'r partneriaid ildio'r cytundeb i redeg y gwasanaeth, ac mae hi wedi dibynnu ar feddygon locwm.

Ond wythnos wedi'r cyhoeddiad, fe wnaeth y bwrdd benderfynu gohirio'r penderfyniad, yn dilyn beirniadaeth lem am ddiffyg ymgynghori.

Mae'r bwrdd yn y broses o gynnal wyth wythnos o "ymgysylltiad gyda'r gymuned", cyn penderfynu a ydyn nhw am fwrw ymlaen â chau'r feddygfa ym Mhont-iets a rhannu'r 4,300 o gleifion rhwng meddygfeydd eraill yn yr ardal.

Mae bwrdd iechyd Hywel Dda yn mynnu "nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynghylch dyfodol y feddygfa".

Meddygfa'r Sarn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meddygfa'r Sarn yn cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ers 2017

Mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn cynnal sesiwn yn Neuadd Les Pont-iets ddydd Mawrth i drafod dyfodol y feddygfa, a bydd sesiwn hefyd yr wythnos nesaf yn Neuadd Pontyberem.

I gyd-fynd gyda'r sesiwn, mae rhai o'r cleifion yn creu cadwyn ddynol o amgylch y feddygfa fel rhan o'r ymgyrch i Achub Sarn.

Dywedodd un o'r rheiny sy'n ymgyrchu, Jane Nicholas, fod "teimladau cryf iawn" yn lleol.

"Y cyntaf i ni glywed am y penderfyniad oedd y bwrdd wedi 'neud, i gau'r feddygfa, oedd ar y cyfryngau, oedd yn sarhad i'r trigolion," meddai ar Dros Frecwast.

"Ers hynny mae'r bwrdd wedi cytuno i gynnal sesiynau trafod, ond 'da ni dal yn bryderus iawn ynglŷn â'r sefyllfa, a'r ffaith bod e'n ymddangos bod penderfyniad wedi ei argymell yn barod, cyn trafod gyda'r trigolion.

"Felly oedden ni'n awyddus iawn i drefnu digwyddiad i ddangos cefnogaeth i'r feddygfa, a [dangos] faint mae'r feddygfa yn golygu i'r ardal a pha mor bwysig ydy hi.

"Fyddwn ni'n ffurfio cylch o gwmpas y feddygfa i ddangos ein cefnogaeth, a'n pryder ni am beth fydd dyfodol gwasanaethau iechyd lleol i bobl yr ardal."

Fis Hydref 2025, daeth Panel Practis Gwag ynghyd i ystyried yr opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau meddyg teulu hirdymor yn yr ardal, gan ystyried mynediad i gleifion, cynaliadwyedd y gweithlu, adeiladau, ansawdd gofal, ac ystyriaethau ariannol.

O'r opsiynau, daeth y panel i'r casgliad mai gwasgariad cleifion wedi'i reoli oedd yr ateb hirdymor mwyaf cynaliadwy, fyddai'n golygu gweld pob claf yn cael ei drosglwyddo i bractis arall sy'n lleol i'w cyfeiriad cartref.

Mae'r meddygfeydd cyfagos yn cynnwys Meddygfa Nant y Glo ym Mhontyberem sydd dair milltir o Feddygfa'r Sarn, Meddygfa Minafon yng Nghydweli sydd dros bum milltir i ffwrdd, ac i rai cleifion, meddygfeydd yn Llanelli.

'Heriau go iawn'

"Un o'r heriau yw'r ffaith bod dalgylch y feddygfa mewn ardal ddifreintiedig iawn, a mae pobl yn wynebu heriau go iawn ynglŷn â mynediad i wasanaethau," meddai Ms Nicholas.

"Un her 'da ni'n teimlo sy'n bwysig iawn ydy sut mae pobl i fod i gyrraedd y meddygfeydd eraill y byddwn ni'n gorfod symud iddyn nhw.

"Dim y pellter yw hi, ond y gwasanaethau o ran trafnidiaeth gyhoeddus.

"Mae'n 20 munud o daith o Bont-iets i Gydweli mewn car, ond byddai taith yno ar fws yn golygu dau fws a rhyw dair awr i gyd, o ran cyrraedd a chael yr apwyntiad ac yn y blaen.

"Yr un peth i fynd i Lanelli - 30 munud ar y bws, a gwaith cerdded o ryw 10 munud wedyn i gyrraedd y feddygfa dan sylw.

"Pontyberem - 10 munud yn y car, ond 38 munud ar ddau fws i rai cleifion, yn dibynnu ble 'dych chi'n byw yn y pentref.

"Felly mae heriau go iawn ynglŷn â hynny, a 'da ni'n poeni bod pobl sydd yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus - yr enwedig yr henoed, efallai, a hefyd pobl dan anfantais - yn gorfod teithio mor bell a dal dau fws i weld meddyg."

Ychwanegodd eu bod "hefyd yn poeni am yr effaith ar y meddygfeydd cyfagos, achos bydden nhw'n gorfod derbyn miloedd o gleifion dros nos, a 'dyn ni ddim yn teimlo bod ganddyn nhw'r adnoddau i ymdopi â hynny".

Andrew Carruthers
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew Carruthers "nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynghylch dyfodol y feddygfa"

Mae prif swyddog gweithredu Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Andrew Carruthers, yn dweud bod y bwrdd yn deall cryfder y teimlad am y posibilrwydd o gau'r feddygfa.

"Rydym yn cydnabod y rôl hollbwysig y mae meddygon teulu yn ei chwarae wrth gefnogi iechyd a lles unigolion, teuluoedd a chymunedau, ac rydym yn deall pa mor gryf yw'r teimlad yn lleol ynghylch Meddygfa'r Sarn," meddai.

"Rwyf eisiau rhoi sicrwydd i drigolion, cleifion a chynrychiolwyr etholedig nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynghylch dyfodol y feddygfa.

"Yn ein cyfarfod ym mis Ionawr, cytunodd y bwrdd ar gyfnod ymgysylltu o wyth wythnos.

"Bwriad hyn yw i'n helpu i ddeall yn well yr effaith posib argymhelliad y Panel Practis Gwag, a chlywed yn uniongyrchol gan y cymunedau yr effeithir arnynt.

"Cafodd yr argymhelliad ei wneud gan y Panel Practis Gwag oherwydd yr heriau parhaus o ran cynnal y feddygfa, gan gynnwys anawsterau wrth sicrhau cefnogaeth glinigol tymor hir, a'r angen i sicrhau gofal diogel, cyson ac o ansawdd uchel i gleifion.

"Croesawyd y cyfle i gwrdd â chynghorwyr lleol yn ddiweddar ac rydym yn gwerthfawrogi eu cyfraniad a'u her fel rhan o'r broses hon.

"Rydym yn gwybod bod hyder mewn ymgysylltu yn cael ei adeiladu drwy wrando a bod yn agored."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.