Oedi penderfyniad ar ddyfodol meddygfa yn Sir Gâr

Mae Meddygfa Sarn yn cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ers 2017
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi oedi cyn gwneud penderfyniad terfynol ar ddyfodol meddygfa yng Nghwm Gwendraeth.
Fe benderfynodd aelodau'r bwrdd i gynnal wyth wythnos o "ymgysylltiad gyda'r gymuned", cyn penderfynu a ydyn nhw am fwrw ymlaen i gau'r feddygfa ym Mhont-iets a rhannu'r 4,300 o gleifion rhwng meddygfeydd eraill yn yr ardal.
Mae Meddygfa Sarn wedi cael ei rhedeg gan y bwrdd iechyd ers 2017, ar ôl i'r partneriaid ildio'r cytundeb i redeg y gwasanaeth, ac mae hi wedi dibynnu ar feddygon locwm.
Roedd disgwyl ddydd Iau i'r bwrdd gefnogi argymhelliad y Panel Practis Gwag a bwrw ymlaen gyda chynllun i ddosbarthu'r cleifion ymhlith meddygfeydd ym Mhontyberem, Cydweli a Llanelli ar ddiwedd mis Mehefin.
Ond cafodd y penderfyniad ei ohirio yn dilyn beirniadaeth lem gan y gymuned leol, cynghorwyr sir yr ardal a Llais - y corff sy'n cynrychioli buddiannau cleifion.
Trafod cau meddygfa yn Sir Gâr sydd â dros 4,000 o gleifion
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
Fe ymddiheurodd prif weithredwr y bwrdd iechyd, Phil Kloer, i'r gymuned, gan ddweud y byddai'r bwrdd yn "dysgu gwersi" o'r broses.
Roedd ymddiheuriad hefyd i'r gymuned leol gan Alwena Hughes-Moakes, cyfarwyddwr cyfathrebu'r bwrdd.
Fe wnaeth Ms Hughes-Moakes hefyd gyfaddef y dylid bod wedi "cyfathrebu" gyda chynghorwyr sir lleol cyn iddyn nhw gael gwybod am y cynllun trwy ddatganiad i'r wasg yr wythnos diwethaf.
Bydd y cyfnod ymgysylltu yn cael ei gynnal rhwng 9 Chwefror a dydd Llun y Pasg am gyfnod o wyth wythnos, yn hytrach na'r saith arferol.
Mae'r meddygfeydd cyfagos y gellid gweld cleifion yn cael eu trosglwyddo iddyn nhw yn cynnwys Meddygfa Nant y Glo ym Mhontyberem sydd dair milltir o Feddygfa Sarn, Meddygfa Minafon yng Nghydweli sydd bum milltir a hanner i ffwrdd, ac i rai cleifion, meddygfeydd yn Llanelli.
Angen 'ailadeiladu ffydd'
Mae'r cynghorwyr lleol Alex Evans, Tyssul Evans a Meinir James wedi croesawu'r penderfyniad i oedi, gan ddweud fod diffyg cyfathrebu gan y bwrdd iechyd ar y mater wedi bod yn ofid mawr iddyn nhw.
Ychwanegon nhw mewn datganiad ar y cyd bod angen gwneud "defnydd iawn" o'r cyfnod ymgysylltu.
"Mae'r ffordd y cafodd y cynnig yma ei drin wedi niweidio ffydd, a chyfrifoldeb Hywel Dda yw hi i ailadeiladu'r ffydd hynny trwy ymgysylltu'n agored, tryloyw ac ar y cyd."
Wedi'r cyfarfod ddydd Iau dywedodd Dr Sion James, meddyg teulu a dirprwy gyfarwyddwr meddygol gofal sylfaenol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, fod "hwn yn sefyllfa eitha' cymhleth yn y feddygfa yma, felly mae'n bwysig bo' ni'n gwrando ar y cyhoedd ynglŷn â beth sy'n eu poeni nhw".
"Ein bwriad ni yw creu gwasanaethau meddygol mwy cynaliadwy yn y dyfodol, a gwasanaethau saff hefyd," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.