'Gweithredu argymhelliad canolog y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ofalus'

Cafodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei sefydlu yn 2022 i edrych ar feysydd fel tai, twristiaeth, yr economi, amaeth ac addysg
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid gweithredu argymhelliad canolog y Comisiwn Cymunedau Cymraeg "yn ofalus" meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg.
Roedd Mark Drakeford yn cyfeirio at yr argymhelliad bod cymunedau ble mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio fwyaf fel iaith bob dydd yn cael eu dynodi fel ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.
Ychwanegodd ei fod yn "gosod llwybr graddol i weithredu" sydd "yn caniatáu amser a chyfle i barhau i sgwrsio a chreu consensws" a bod "angen i rôl Llywodraeth Cymru fod yn ymwneud cymaint â gwrando ag y mae am wneud penderfyniadau".
Dywedodd Tom Giffard ar ran y Ceidwadwyr bod angen mwy o bwyslais ar "dyfu'r economi" mewn cymunedau o'r fath.
Dywedodd Heledd Fychan ar ran Plaid Cymru bod "angen gweithredu ar frys".
Ymatebodd Cymdeithas yr Iaith trwy ddweud fod yr "oedi cyn gweithredu prif argymhelliad yr adroddiad yn anfaddeuol".
'Safbwyntiau sy'n gwrthdaro'
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mark Drakeford bod trafodaethau am ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch wedi amlygu "cymhlethdod troi'r egwyddorion yn gamau gweithredu ymarferol, a hefyd natur ddadleuol y maes gwaith".
Meddai: "Mae cytuno ar yr argymhelliad sylfaenol yn gymharol hawdd i'r mwyafrif. Ond, o grafu'r wyneb, mae yna safbwyntiau sy'n gwrthdaro yn dod i'r amlwg.
"Er enghraifft: Ble ddylai cyfrifoldeb am ddynodi gael ei osod? Pa feini prawf ddylai fod mewn lle i wneud y penderfyniad hwnnw? Pa brosesau y dylid eu dilyn i gyrraedd y penderfyniad hwnnw? Pa leisiau y dylid eu cynnwys yn y broses honno ac yn bwysicaf oll, pa wahaniaeth ddylai hyn i gyd ei wneud i fywydau pobl sy'n byw o fewn - neu'n gyfagos - i ardaloedd a ddynodir?"
Simon Brooks yn camu nôl o gadeiryddiaeth Comisiwn Cymunedau Cymraeg
- Cyhoeddwyd8 Mai 2025
Galw am roi argymhellion adroddiad am y Gymraeg 'ar waith ar frys'
- Cyhoeddwyd21 Mai 2025
'Rhaid trin cadarnleoedd y Gymraeg fel ardaloedd cadwraeth'
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2025
Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn cynnig llwybr sydd â thri cham tuag at ddynodi ardaloedd dwysedd uwch.
Meddai: "Gellid bwrw ymlaen â'r gwaith ar gam 1 a cham 2 gyda'n gilydd, tra gellid paratoi'r tir ar gyfer cam 3 fel bod modd cychwyn yn fuan.
"Byddai'r cam cyntaf yn rhoi cydnabyddiaeth o ardaloedd dwysedd uwch o fewn strategaeth ddiwygiedig 'Cymraeg 2050'.
"Byddai'r ail gam yn gweithredu ymrwymiad yn y strategaeth ar draws holl fframweithiau polisi a llywodraeth...
"Wrth edrych ymlaen, dwi'n credu, fel trydydd cam, bod gwerth archwilio y posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth gynradd i sefydlu system ddynodi statudol, a gallai deddfwriaeth osod meini prawf cenedlaethol, diffinio cyfrifoldebau ar gyfer gweinidogion ac awdurdodau lleol, ac egluro sut y gallai dynodi ddylanwadu ar bolisïau."
Cyflwynodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei adroddiad cyntaf, 'Grymuso cymunedau, cryfhau'r Gymraeg', ym mis Awst 2024.
Roedd 57 o argymhellion, gyda 40 ar gyfer Llywodraeth Cymru, er mwyn cryfhau'r Gymraeg mewn ardaloedd â chyfran uchel o siaradwyr.
Dywedodd Mark Drakeford eu bod wedi cyflawni 11 ohonyn nhw erbyn hyn.
Er enghraifft, dywedodd eu bod "yn symud i gylch ariannu tair blynedd ar gyfer ein derbynwyr grant Cymraeg 2050.
"Rydyn ni wedi darparu cyllid ychwanegol i sefydliadau sy'n gweithio yn y maes cynllunio ieithyddol cymunedol. Er enghraifft, £500k yn ychwanegol i'r mentrau iaith ar draws Cymru eleni.
"Trwy'r gronfa benthyciadau asedau cymunedol, mae benthycwyr sydd wedi derbyn achrediad y Cynnig Cymraeg yn gallu derbyn gostyngiad o 0.5% i'w cyfradd benthyciad."

Mae'r comisiwn wedi argymell dynodi cymunedau sydd â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg - fel Pen Llŷn - yn rhai o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch
Rhybuddiodd Heledd Fychan ar ran Plaid Cymru, "mae'r Gymraeg yn colli tir, er gwaethaf 'Cymraeg 2050'. Rydyn ni wedi gweld y cyfrifiad, onid do, yn dangos bod yna ostyngiad wedi bod; arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn dangos gostyngiad.
"Felly, mae angen gweithredu ar frys, a dyna pam roeddwn i'n credu bod y llywodraeth hon wedi comisiynu'r comisiwn cymunedau, i ddod i fyny efo pethau oedd yn mynd i fod yn heriol, ein bod ni'n gwybod eu bod nhw'n mynd i fod yn heriol, ond ein bod ni angen hefyd sicrhau gweithredu".
Dywedodd Tom Giffard ar ran y Ceidwadwyr, "sai'n credu ein bod ni wedi clywed digon yn eich datganiad chi heddiw am bwysigrwydd tyfu'r economi mewn cymunedau fel hyn, oherwydd dŷn ni'n gwybod, os yw pobl yn gallu cael gwaith yn eu cymunedau lleol, yn aros ble gwnaethon nhw dyfu lan, maen nhw'n moyn aros yn y gymuned hynny.
"Dŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, mae'r prif weinidog wedi dweud amdanoch chi nad eich blaenoriaeth chi yw tyfu'r economi yng Nghymru."
Nododd Jane Dodds ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, "mae gennym ni ym Mhowys mwy o bobl sy'n siarad Cymraeg nag yng Ngheredigion, ond er hynny, dyw Powys ddim yn y cynlluniau yma".
Atebodd Drakeford, "mae nifer fawr o gymunedau ym Mhowys lle gallaf i weld achos eu dynodi nhw fel ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol".
Mewn datganiad, ymatebodd Owain Meirion, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae hi bellach yn flwyddyn a hanner ers i'r Comisiwn gyhoeddi ei adroddiad cyntaf, 'Grymuso cymunedau, cryfhau'r Gymraeg'.
"Mae hwn yn ddarn o waith ymchwil a dadansoddi hynod fanwl sydd yn cynnig ffyrdd pendant o gynnal y Gymraeg fel iaith fyw yn ei chymunedau traddodiadol.
"Mae'r ffaith ei fod wedi eistedd ar y silff yn casglu llwch gyda'i phrif argymhelliad heb ei weithredu ers Awst 2024 a chyda thymor y Senedd hon bron ar ben yn anfaddeuol.
"Mae cymunedau Cymraeg yn wynebu argyfwng heddiw, ond yn anffodus nid yw gweithredoedd y llywodraeth yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa - ni all llywodraeth nesaf Cymru oedi ragor cyn gweithredu."