Drakeford 'erioed wedi bod â diddordeb yn yr economi' - Morgan

Mark Drakeford ac Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford yw'r aelod o gabinet Eluned Morgan sy'n gyfrifol am y gyllideb a threthi

  • Cyhoeddwyd

Dydy diddordeb Ysgrifennydd Cyllid Cymru "erioed wedi bod yn yr economi", yn ôl y Prif Weinidog, Eluned Morgan.

Fel y gwleidydd sy'n delio gyda chyllideb £25bn Llywodraeth Cymru, mae Mark Drakeford yn gwneud penderfyniadau hollbwysig ar drethi, gan gynnwys y dreth incwm a chyfraddau busnes.

Ond ar yr economi, dywedodd Morgan fod "gwahaniaeth sylfaenol" rhyngddi hi a Drakeford, a oedd yn brif weinidog o 2018 i 2024.

Dywedodd bod Drakeford eisiau rhoi cymorth "uniongyrchol" i bobl dlawd, tra ei bod hi eisiau codi pobl allan o dlodi drwy greu swyddi.

Mewn cyfweliad gyda'r podlediad Senedd Sources, dywedodd ei bod yn rhannu'r un gwerthoedd â chyn-arweinwyr Llafur Cymru.

Ond ychwanegodd: "Edrychwch, dwi wastad wedi bod yn glir, yn ôl i'r pwynt yma, nid Mark Drakeford ydw i, iawn.

"Mae Mark Drakeford, yn fy marn i, yn anhygoel, yn eithaf anghredadwy, ond nid yw ei ddiddordeb erioed wedi bod yn yr economi.

"Mae e wastad wedi bod yn llawer mwy ar yr ochr gymdeithasol.

"Fy niddordeb i yw mynd i'r afael â thlodi… ond o safbwynt swyddi, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi'r sgiliau i bobl fel y gallant ddod allan o dlodi.

"I wneud hynny mae angen i chi roi'r sgiliau iddynt a chreu'r swyddi."

Dywedodd Morgan, a gynhaliodd uwchgynhadledd buddsoddi ryngwladol y llynedd, fod Cymru'n "colli gormod o bobl dda" sy'n methu dod o hyd i waith yn eu cymunedau.

'Ddim am werthu fy enaid'

Mae arolygon barn wedi awgrymu bod Llafur wedi syrthio y tu ôl i bleidiau eraill yn y ras ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai.

Dywedodd arolwg yr wythnos hon bod Llafur yn y pedwerydd safle, Plaid Cymru ar y blaen a Reform UK yn ail.

"Rwy'n glir iawn ein bod yn colli mwy o bobl i Plaid na Reform," meddai Morgan.

Mynnodd na fyddai'n cystadlu gyda phlaid Nigel Farage drwy ymosod ar fewnfudwyr.

"Dydw i ddim am werthu fy enaid er mwyn cael pleidleisiau," meddai hi.