Etholiad 2026 'yw'r her fwyaf i Lafur yng Nghymru ers 1983'

Disgrifiad,

Dywedodd Alun Davies fod angen i Lafur ailgysylltu'n emosiynol â phobl Cymru cyn Etholiad y Senedd ym mis Mai

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Blaid Lafur yn wynebu'r her etholiadol fwyaf iddi yng Nghymru ers dros bedwar degawd, yn ôl aelod o'r Senedd y blaid.

Wrth siarad ar bodlediad Gwleidydda, dywedodd Alun Davies, yr aelod dros Flaenau Gwent, nad oes modd gwadu'r darlun sy'n cael ei awgrymu yn yr arolygon barn cyn etholiad y Senedd ym mis Mai.

Mae arolygon yn awgrymu fod Plaid Cymru a Reform UK mewn lle da i ddisodli Llafur fel y brif blaid fis Mai nesaf.

Dywedodd Mr Davies fod blynyddoedd hir mewn grym o bosib wedi arwain at "ddiogi" o fewn y blaid, gyda diffyg eglurder, yn ei farn ef, ynghylch uchelgais Llafur ar gyfer y dyfodol.

Yn ôl Mr Davies, mae'r sefyllfa'n her sylweddol, ond hefyd yn gyfle i Lafur ailfeddwl eu meddylfryd a bod yn fwy "radical".

'Dim ffordd i Lafur fod yn ddiog'

Daw'r sylwadau ar adeg o ansicrwydd i'r blaid, gyda 14 o'i 29 aelod yn y Senedd eisoes wedi cadarnhau y byddan nhw'n camu lawr cyn yr etholiad fis Mai.

"'Da ni gyd yn gweld y polls a 'sai am wadu be ma'r polls yn gweud," meddai Mr Davies.

"Mi fysa hynny'n nonsens. Mae gyda Llafur yr her fwyaf 'da ni wedi'i wynebu yng Nghymru, siŵr o fod ers falle '83."

Yn etholiad cyffredinol 1983 fe wnaeth Llafur golli tair sedd yng Nghymru, gyda'u cyfran o'r bleidlais yn gostwng bron i 10% wrth i Margaret Thatcher a'r Ceidwadwyr gadw eu lle mewn grym.

Gwrandewch ar y cyfweliad llawn ar Gwleidydda

Alun Davies fu'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones

Ychwanegodd Mr Davies: "Yn aml iawn, pan 'da chi'n gweld y blaid ar 40% neu 45% ar y polls, 'da chi'n meddwl am faint o seddi 'da chi am ennill a be' 'da chi'n mynd i wneud ar ôl hynny.

"'Da chi wedyn yn gallu bod yn ddiog. Does dim ffordd i Lafur fod yn ddiog pan ni'n edrych ar polls sy'n dweud bod ni'n drydydd."

Dywedodd hefyd fod angen i'r blaid ailgysylltu'n emosiynol â phobl Cymru.

"Ma'n rhaid i ni ennill nôl calonnau Cymru, dim jyst pennau Cymru," meddai.

Yn ôl Mr Davies, nid ceisio efelychu neu gymodi â phleidiau eraill fydd yn adfer cefnogaeth y cyhoedd.

"Ma'n rhaid i ni feddwl nawr am sut ydyn ni'n gallu bod tipyn bach fwy radical na falle ni wedi bod," meddai.

"Achos pan 'da ni'n edrych lle ydyn ni, dyw trio cymodi efo Reform na Phlaid Cymru ddim yn mynd i ennill nôl calonnau pobl.

"Dyw pobl ddim yn dwp. Ma' nhw'n gallu gweld pan mae plaid jyst yn 'neud rhywbeth er mwyn ennill pleidleisiau.

"Dwi dal yn meddwl bod pobl Cymru eisiau gweld y Blaid Lafur yn bod yn Blaid Lafur, a gyda'r gwerthoedd oedd gyda ni yn y gorffennol."

Gan adlewyrchu ar gyfnod hir y blaid mewn grym, dywedodd Mr Davies: "Falle bo' ni wedi bod yn ddiog, yn meddwl bod pobl yn deall ble ydyn ni, a be' 'da ni yn trio gwneud, a dy'n ni ddim wedi siarad yn ddigon clir am uchelgais ni ar gyfer y dyfodol.

"A dwi'n credu bod hynny falle yn flinder gan bo' ni wedi bod yn llywodraethu am dros 20 mlynedd."

Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwleidyddion Llafur ym Mae Caerdydd wedi cyhuddo Keir Starmer o droi'r cloc yn ôl ar ddatganoli

Daw hyn ar adeg o densiwn rhwng rhai aelodau Llafur ym Mae Caerdydd a'u cydweithwyr yn San Steffan.

Fe wnaeth 11 o wleidyddion Llafur ym Mae Caerdydd ysgrifennu at Syr Keir Starmer yn ddiweddar yn ei gyhuddo o droi'r cloc yn ôl ar ddatganoli.

Mae aelod blaenllaw o'r grŵp Llafur yn Senedd Cymru, Lee Waters, hefyd wedi cyhuddo Jo Stevens o fod y mwyaf "gwrth-ddatganoli" o holl ysgrifenyddion Cymru Llafur ers 1970.

Wrth gael ei holi am rwygiadau o fewn y blaid am ddatganoli, dywedodd Alun Davies, os na fydd Starmer yn newid agwedd, "bydd pobl ddim yn credu ni pan da ni'n dweud ein bod yn sefyll lan dros Gymru".

"Dyna y pris, ac oherwydd hynny bydd pobl ddim yn pleidleisio drosto ni.

"Mae pobl Cymru eisiau gweld Cymru yn cael ei thrin yn deg gan Lywodraeth San Steffan."

Cyfle i'r blaid ailfeddwl

Mae Llafur wedi ennill pob un o'r chwe etholiad i Fae Caerdydd ers dechrau datganoli ym 1999, gan sicrhau'r nifer fwyaf o seddi bob tro.

Mae'r blaid hefyd wedi ennill yng Nghymru ym mhob etholiad cyffredinol ers 1922.

Er gwaethaf yr arolygon barn, mae Mr Davies yn dweud ei fod yn gweld y flwyddyn newydd fel cyfle i'r blaid ailfeddwl ei chyfeiriad a dangos uchelgais newydd.

"Dwi'n un sy'n edrych 'mlaen i'r flwyddyn newydd," meddai.

"Dwi'n edrych 'mlaen i'r cyfle sydd gyda ni i gymryd cam nôl falle, edrych be' ddigwyddodd dros y flwyddyn diwetha', a wedyn edrych ymlaen."

'Dominyddiaeth Llafur yn dod i ben'

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru fod "cyfnod o ddominyddiaeth Llafur dros Gymru yn dod i ben, ac ym mis Mai bydd Cymru'n penderfynu beth sy'n dod nesaf.

"Ar y naill law gallai fod yn Plaid [Cymru], sydd wedi cynnal Llafur ym Mae Caerdydd ac sydd wedi cefnogi polisïau eithafol sydd wedi niweidio Cymru.

"Ar y llaw arall, gall fod yn Reform, sydd eisiau adfer synnwyr cyffredin i wleidyddiaeth Cymru a dod â ffyniant yn ôl i'n cymunedau sydd wedi'u hanghofio."

Dywedodd llefarydd o Blaid Cymru fod Llafur "ond nawr yn sylweddoli bod y degawdau o waethygu yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a'r ffaith eu bod wedi gwrthod ymladd cornel Cymru, yn mynd i gostio nhw yn y blwch pleidleisio".

"Mae pobl Cymru wedi sylweddoli haerllugrwydd Llafur tuag at ein cenedl ers amser, a dyna pam maen nhw'n dod draw at Blaid Cymru, plaid sydd â chynlluniau gwirioneddol i wella ein gwasanaethau cyhoeddus, plaid fydd wastad yn ymladd dros fuddiannau Cymru," meddai.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig mai'r "her wirioneddol i Lafur yw na fydd pobl yn anghofio, gyda chefnogaeth Plaid Cymru yma yng Nghymru, eu bod wedi cyflawni'r rhestrau aros hiraf, y safonau addysg isaf a'r cyflogau isaf yn y Deyrnas Unedig.

"Mae angen i ni dorri gwastraff, torri trethi, dileu'r terfyn cyflymder 20mya a chael Cymru i symud," meddai llefarydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.