Eluned Morgan am arwain 'cenhedlaeth newydd' Llafur Cymru

Mae Eluned Morgan yn dweud bod gan Lafur "genhedlaeth newydd" o ymgeiswyr
- Cyhoeddwyd
Mae Eluned Morgan wedi dweud bod Llafur Cymru yn "troi tudalen" cyn i'r blaid wynebu etholiad allai fod y mwyaf heriol iddi ers dechrau datganoli.
Gyda bron i hanner aelodau Llafur y Senedd yn ymddiswyddo y flwyddyn nesaf, mae Ms Morgan yn dweud y bydd hi'n arweinydd ar "genhedlaeth newydd".
Daeth sylwadau'r prif weinidog ar ddiwedd blwyddyn pan ddaeth Llafur yn drydydd yn isetholiad Caerffili, ac mae arolygon barn yn awgrymu mai Plaid Cymru a Reform UK sy'n cystadlu i fod y blaid fwyaf ym Mae Caerdydd yn yr etholiad fis Mai nesaf.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n troi tudalen nawr ac ein bod ni'n edrych i'r dyfodol," meddai Ms Morgan mewn cyfweliad gyda BBC Cymru.
"Mae cenhedlaeth newydd yn dod i fewn sy'n mynd i edrych i'r dyfodol – dyfodol fydd yn cael ei adeiladu ar economi cryf, economi digidol sy'n cael ei redeg gan egni adnewyddadwy a glan."
Drakeford yn galw am ddileu deddf yn dilyn dadl am wariant ar ganol trefi
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2025
ASau Llafur Cymru'n cyhuddo Llywodraeth Lafur y DU o 'warth cyfansoddiadol'
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2025
Mae 14 o'r 29 aelod Llafur yn camu lawr cyn yr etholiad fis Mai.
Er iddi fod yn aelod o'r Senedd ers 2016 – a bod yn aelod o Senedd Ewrop a Thŷ'r Arglwyddi cyn hynny – dywedodd Ms Morgan ei bod hi eisiau dangos "sifft yn y cyfeiriad, gyda fi yn arweinydd".
Ms Morgan oedd aelod ifancaf Senedd Ewrop pan gafodd ei hethol yn 1994.
Yn ymateb i ganlyniad Caerffili a'r arolygon barn, dywedodd bod angen i Lafur gyhoeddi "agenda i'r dyfodol".
"Dyna be' fi 'di bod yn treial 'neud, gyda chynnal yr uwchgynhadledd ar fuddsoddiad yma yng Nghymru," meddai.
"Dyna beth fydda i'n 'neud yw dangos mai dim ond Llafur fydd yn gallu cael yr arian yna i fewn i Gymru."

"Mae'n bwysig ein bod ni'n troi tudalen nawr ac ein bod ni'n edrych i'r dyfodol," meddai Eluned Morgan
Cymerodd Ms Morgan yr awenau yn 2024 ar ôl i Vaughan Gething ymddiswyddo yn dilyn beirniadaeth o'r rhoddion dadleuol i'w ymgyrch i arwain Llafur Cymru.
Fe welodd arweinyddiaeth fer Mr Gething anghytuno chwerw o fewn y blaid.
Dywedodd Ms Morgan bod Llafur Cymru wedi llwyddo mewn etholiadau oherwydd bod pleidleiswyr yn ei gweld fel "plaid sy'n sefydlog".
Ond yn yr wythnosau diwethaf mae anghytuno wedi bod o fewn y blaid, gydag aelodau'r Senedd yn cyhuddo llywodraeth Syr Keir Starmer o droi'r cloc yn ôl ar ddatganoli yn y ffordd maen nhw'n gwario arian yng Nghymru.
Fe wnaethon nhw feirniadu cyfraith sy'n galluogi San Steffan i ymyrryd mewn meysydd sydd fel arfer wedi eu datganoli.
'Obsesiwn gyda'r cyfansoddiad'
Yn ogystal â'r feirniadaeth o'r meinciau cefn, fe ddywedodd yr ysgrifennydd cyllid Mark Drakeford hefyd y dylai'r gyfraith – Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig – gael ei dileu.
Yn ei chyfweliad, dywedodd Ms Morgan mai Llywodraeth Cymru fyddai'n gyfrifol am 90% o'r cyllid oedd yn arfer dod i Gymru o'r Undeb Ewropeaidd, ac mai dim ond canran fechan sy'n cael ei wario gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd ei bod yn bwysicach i'r llywodraeth ganolbwyntio ar bethau fel llenwi tyllau yn y ffyrdd "yn hytrach na chael yr obsesiwn yma gyda'r constitution".
"Dwi yn meddwl bod e'n bwysig bod ni'n ffocysu ar beth sy'n bwysig i bobl," meddai'r prif weinidog.
"Dyna pam y' chi ddim wedi clywed fi'n cyfeirio at hwn mewn ffordd gyhoeddus. Roedd pobl eraill yn y blaid eisiau 'neud hynny.
"Dwi'n trefnu'r pethau yma tu ôl i'r llenni, yn trafod yn gyson gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig."
Drakeford yn galw am ddileu deddf yn dilyn dadl am wariant ar ganol trefi
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2025
Syr Keir Starmer yn mynnu ei fod yn 'credu'n gryf mewn datganoli'
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2025
ASau Llafur Cymru'n cyhuddo Llywodraeth Lafur y DU o 'warth cyfansoddiadol'
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2025
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig ei bod yn "chwerthynllyd" i Ms Morgan, 58, hawlio ei bod hi'n rhan o genhedlaeth newydd.
"Ar ôl bron i 27 mlynedd o Lafur, gyda chefnogaeth Plaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol, mae Cymru wedi torri," meddai eu harweinydd Darren Millar.
Yn ôl llefarydd Plaid Cymru, dim ond y nhw all "gynnig arweinyddiaeth newydd a dechrau ffres i genhedlaeth newydd, a fydd yn sefyll dros Gymru".
Dywedodd llefarydd ar ran Reform bod angen "torri'n llwyr oddi wrth pleidiau y sefydliad sydd wedi profi, dro ar ôl tro, mai dim ond gwaethygu ein gwasanaethau cyhoeddus fyddan nhw".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.