Syr Keir Starmer yn mynnu ei fod yn 'credu'n gryf mewn datganoli'

Roedd Syr Keir Starmer yng Nghaerdydd ddydd Gwener i lansio strategaeth tlodi plant newydd Llywodraeth y DU
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog y DU yn dweud ei fod yn "credu'n gryf mewn datganoli" ond ei fod yn canolbwyntio ar "y bobl yr ydym ni angen gweithredu ar eu rhan".
Yn ystod ymweliad ag ardal Trelái, Caerdydd fe wnaeth Syr Keir Starmer wrthod honiadau ei fod yn "rholio'r setliad datganoli presennol yn ôl".
Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth grŵp o ASau Llafur ym Mae Caerdydd anfon llythyr at y Prif Weinidog yn cyhuddo ei lywodraeth o fod "ar y gorau yn gwbl ansensitif ac ar y gwaethaf yn warth cyfansoddiadol".
Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "ymwybodol" o'r llythyr ond gwrthododd ddweud pryd y clywodd hi amdano.
Ni fyddai hi chwaith yn dweud a oedd wedi'i ysgrifennu gyda'i chaniatâd neu a oedd wedi'i anfon y tu ôl i'w chefn.
Gwrthododd ddweud hefyd os oedd y llythyr wedi'i ysgrifennu gyda'i chaniatâd hi, neu a gafodd ei anfon y tu ôl i'w chefn.
Mae gweinidog blaenllaw o fewn Llywodraeth y DU wedi amddiffyn eu gwaith yng Nghymru a dweud bod eu llwyddiant wrth "ddelifro dros Gymru" yn gwbl glir dros y 18 mis diwethaf.
ASau Llafur Cymru'n cyhuddo Llywodraeth Lafur y DU o 'warth cyfansoddiadol'
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2025
'Gwarthus' a 'digalon' nad yw Ysgrifennydd Cymru yn cyfathrebu'n Gymraeg fel AS
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2025
Y prif weinidog yn addo hybu economi Cymru mewn uwch-gynhadledd
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2025
Roedd yn ymweld â Chaerdydd er mwyn lansio strategaeth tlodi plant Llywodraeth y DU.
Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd: "I mi, yr hyn sy'n bwysig yw pwy sydd yn eich meddwl pan rydych chi'n gwneud penderfyniadau.
"Dwi'n canolbwyntio ar y bobl hynny yr ydym ni angen gweithredu ar eu rhan.
"Rydw i wastad yn canolbwyntio ar y bobl hynny a pham yr ydym ni'n gwneud y penderfyniadau hyn. I mi, mae hynny'n bwysicach na dim."

Mae Darren Jones wedi amddiffyn record Llywodraeth Lafur y DU yng Nghymru
Cafodd y llythyr gan y grŵp o ASau Llafur ei anfon oherwydd ffrae ynghylch pwy sy'n talu am welliannau i ganol trefi fel trwsio arosfannau bysiau, ailagor toiledau cyhoeddus a darparu biniau.
Mae'n dweud bod ganddyn nhw "bryder cynyddol" ynghylch methu â chyflawni datganoli pellach ac yn cyhuddo Llywodraeth y DU "nid yn unig o beidio â symud y rhain ymlaen ond ei bod yn rholio'r setliad datganoli presennol yn ôl".
Yr enghraifft ddiweddaraf, yn ôl y llythyr, yw'r rhaglen Balchder Bro sydd wedi achosi "anhapusrwydd sylweddol" ymhlith aelodau Llafur yn Senedd Cymru.
"Mae hon yn rhaglen Llywodraeth y DU sy'n gweithredu mewn maes cwbl ddatganoledig sy'n cael ei gynllunio a'i gyflwyno o Whitehall."
'Adfywio cymunedau ar hyd y wlad'
Wrth ymateb i'r feirniadaeth ddiweddar dywedodd Darren Jones - prif ysgrifennydd y Prif Weinidog - fod y 18 mis diwethaf "yn dangos pŵer cael dwy lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd er lles pobl Cymru".
Cyfeiriodd at gynlluniau i ddatblygu parthau twf AI newydd, adeiladu adweithyddion niwclear modiwlar ar safle Wylfa ar Ynys Môn a rhagor o fuddsoddiad yn y rheilffyrdd fel enghraifft o'r hyn gallen nhw ei gyflawni.
Dywedodd fod y llywodraeth yn falch iawn o'r gefnogaeth maen nhw'n ei roi i gymunedau lleol.
"Dwi'n gwybod y bydd cyllid ar y cyd â'r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gan Eluned a'r tîm yng Nghymru yn sicrhau ein bod, nid yn unig yn adfywio'r economi ond yn adfywio cymunedau ar hyd y wlad yn unol â'n haddewid am newid."
Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan fod barn ei llywodraeth ar y pwnc "wastad wedi bod yn glir".
Dywedodd ei bod wedi trafod y llythyr gyda Syr Keir Starmer wythnos diwethaf, a'i bod am "barhau i drafod y peth hefo fo".
"Rydym yn credu y dylid parchu meysydd sydd wedi'u datganoli ac yn amlwg bydd y sgwrs honno'n parhau".
Ychwanegodd y prif weinidog: "Mae gen i'r cyfan", wrth iddi ateb cwestiwn os oedd ganddi reolaeth dros ei haelodau meinciau cefn.

Dywedodd Eluned Morgan ei bod wedi trafod pryderon yr ASau Llafur gyda Syr Keir yn ddiweddar
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar fod "un llywodraeth Lafur yn niweidio Cymru yn ddigon drwg, ond nawr mae gyda ni ddwy sydd yn gwneud pethau hyd yn oed yn waeth".
"Ar ôl dwy gyllideb niweidiol mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ffraeo mewnol am bwerau'r Senedd yn hytrach na mynd i'r afael â phroblemau pobl Cymru.
"Dyw'r Senedd ddim angen mwy o bwerau.
"Beth ry'n ni ei angen yw llywodraeth sy'n derbyn cyfrifoldeb, sy'n stopio gwneud esgusodion ac sy'n defnyddio'r grymoedd sydd eisoes ganddyn nhw i ddatrys y problemau o fewn y gwasanaeth iechyd, safonau addysg a diweithdra."
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth mae Llafur Cymru "ar chwâl, gydag aelodau meinciau cefn Eluned Morgan yn beirniadu'r hyn gafodd ei ddisgrifio fel 'partneriaeth mewn pŵer' am fethu a gweithredu dros bobl Cymru".
"Mae pobl Cymru wedi cael digon o gael eu cymryd yn ganiataol gan y ddwy lywodraeth Lafur yma, sydd wastad yn rhoi'r blaid cyn y wlad."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.