ASau Llafur Cymru'n cyhuddo Llywodraeth Lafur y DU o 'warth cyfansoddiadol'

Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fydd yna ragor o bwerau yn cael eu trosglwyddo i Senedd Cymru gan Lywodraeth y DU?

  • Cyhoeddwyd

Mae grŵp o ASau Llafur ym Mae Caerdydd wedi anfon llythyr at y Prif Weinidog Syr Keir Starmer yn cyhuddo ei lywodraeth o fod "ar y gorau yn gwbl ansensitif ac ar y gwaethaf yn warth cyfansoddiadol".

Mae'r llythyr wedi'i anfon oherwydd ffrae ynghylch pwy sy'n talu am welliannau i ganol trefi fel trwsio arosfannau bysiau, ailagor toiledau cyhoeddus a darparu biniau.

Mae adfywio canol trefi yn fater sydd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, ond mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rhaglen Balchder Bro sy'n osgoi gweinidogion Caerdydd ac yn ariannu cynghorau'n uniongyrchol.

Deellir bod Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan a Syr Keir Starmer wedi trafod y mater yn Chequers yn ddiweddar.

'Anhapusrwydd sylweddol'

Mae'r llythyr, sydd wedi'i lofnodi gan ASau Llafur gan gynnwys cyn-weinidogion, yn dweud bod ganddyn nhw "bryder cynyddol" ynghylch methu â chyflawni datganoli pellach.

Mae'n dweud: "Fel gwrthblaid, fe wnaethon ni godi disgwyliadau o ddiwygio fformiwla Barnett, datganoli seilwaith rheilffyrdd, plismona a chyfiawnder, ac Ystâd y Goron."

Mae'n cyhuddo Llywodraeth y DU "nid yn unig o beidio â symud y rhain ymlaen ond ei bod yn rholio'r setliad datganoli presennol yn ôl".

Yr enghraifft ddiweddaraf, yn ôl y llythyr, yw'r rhaglen Balchder Bro sydd wedi achosi "anhapusrwydd sylweddol" ymhlith Aelodau o'r Senedd Llafur Cymru - "mae hon yn rhaglen Llywodraeth y DU sy'n gweithredu mewn maes cwbl ddatganoledig sy'n cael ei gynllunio a'i gyflwyno o Whitehall".

Yr ASau sydd wedi llofnodi'r llythyr yw:

  • Mick Antoniw

  • Hannah Blythyn

  • Alun Davies

  • John Griffiths

  • Lesley Griffiths

  • Julie Morgan

  • Jenny Rathbone

  • Rhianon Passmore

  • Carolyn Thomas

  • Mike Hedges

  • Lee Waters

Mae'r llythyr hefyd yn beirniadu'r defnydd o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 i "orfodi" y rhaglen Balchder Bro.

Mae'n dweud: "Fe gofiwch i Lywodraeth Cymru gyflwyno adolygiad barnwrol yn erbyn llywodraeth ddiwethaf y DU oherwydd, yn ei barn hi, roedd y Ddeddf Marchnad Fewnol yn cynrychioli ymosodiad diangen ar ddatganoli."

"I'n llywodraeth ein hunain ddod i mewn a defnyddio'r un pwerau i weithredu mewn meysydd datganoledig, mae ar y gorau yn hynod o ansensitif, ar y gwaethaf yn warth cyfansoddiadol.

"Pe bai hyn yn cael ei wneud gan lywodraeth Dorïaidd, byddem yn galw am adolygiad barnwrol.

"Ni ddylai hyn ddigwydd eto byth.

"Mae angen i Gymru gael ei thrin fel rhan gyfartal o'r DU ac mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i weithredu i gyflawni'r cydraddoldeb hwn."

Dywedodd Mims Davies AS, llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru: "Gyda dadleuon a rhaniadau chwerw yn amlwg yn amgylchynu'r Blaid Lafur, mae'r ddwy lywodraeth Lafur ar y naill ben a'r llall i'r M4 yn dangos pa mor drychinebus ydynt mewn gwirionedd.

"Maent wedi rhedeg allan o syniadau ar gyfer pobl Cymru."

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, AS Plaid Cymru: "Mae hyn yn rhyfeddol. Llafur yng Nghymru yn chwalu ychydig fisoedd cyn etholiad hollbwysig.

"Mae'n dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am blaid mewn anhrefn llwyr, heb unrhyw ddylanwad o gwbl dros eu cydweithwyr yn Llundain.

"Dro ar ôl tro, pan fydd Starmer yn gorfodi polisïau niweidiol ar Gymru, mae Eluned Morgan wedi dewis ei amddiffyn yn hytrach na sefyll dros Gymru."

Dywedodd Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae llofnodwyr y llythyr hwn yn gywir - ni allwch honni eich bod yn parchu Cymru wrth ddylunio rhaglenni Cymru o Whitehall.

"Mae'n dangos diffyg dealltwriaeth dwfn a phryderus tuag at y Senedd.

"Os yw cynrychiolwyr Llafur yng Nghymru wedi colli ffydd yn ASau Llafur yn Llundain, mae'n dweud popeth wrthych chi am gyn lleied o afael sydd gan y blaid ar ddatganoli."

Dywedodd cadeirydd YesCymru, Phyl Griffiths: "Pan all San Steffan anwybyddu'r Senedd, osgoi gweinidogion Cymru, a gwneud penderfyniadau am Gymru o Lundain - hyd yn oed mewn meysydd sydd wedi'u datganoli'n llawn, a hyd yn oed pan fo'r un blaid mewn llywodraeth yn San Steffan ac yn y Senedd - mae hynny'n dangos yn glir na all datganoli amddiffyn democratiaeth Cymru."