Carcharu dyn laddodd babi gan achosi anafiadau 'catastroffig'

Mae Thomas Morgan wedi cael ei garcharu am o leiaf 19 o flynyddoedd
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai
Mae dyn wnaeth lofruddio babi pum mis oed drwy achosi anafiadau "catastroffig" i'w ymennydd tra'n ei warchod wedi cael ei garcharu am o leiaf 19 o flynyddoedd.
Bu farw Jensen-Lee Dougal yn yr ysbyty ar 31 Mawrth 2024, ddiwrnod ar ôl iddo gael ei ysgwyd gan Thomas Morgan, partner ei fam.
Cafwyd Morgan, 29 o Orseinon ger Abertawe, yn euog o lofruddio Jensen-Lee yn gynharach yn y mis ar ôl honni iddo geisio achub y babi rhag tagu.
Roedd Morgan wedi mynnu ei fod yn ddieuog ar ôl marwolaeth y babi ac fe wnaeth o hyd yn oed fynychu ei angladd ym Mai 2024.
Cafodd Morgan ei arestio ar amheuaeth o achosi'r anafiadau i Jensen-Lee ym mis Gorffennaf 2025.
Wrth ddedfrydu Morgan, dywedodd Mrs Ustus Stacey ei fod wedi "ysgwyd Jensen-Lee mor dreisgar nes [iddo] achosi anafiadau difrifol".
Wedi'r ddedfryd mi ddywedodd mam Jensen-Lee, Jordan Dougal ei bod yn byw gyda "galar, trawma a phoen llethol".
"Mae mynd trwy'r dydd weithiau'n teimlo'n amhosibl. Nid yw'r boen yn lleihau gydag amser," meddai.

Cafodd Jensen-Lee Dougal ei ddisgrifio fel "babi hapus" gan ei fam
Yn ystod yr achos clywodd y rheithgor bod Morgan yn cael ei ystyried fel llystad i Jensen-Lee ar ôl cychwyn perthynas gyda Ms Dougal, ac iddo symud i fyw i'w chartref yng Nghlydach ym mis Ionawr 2024.
Dywedodd Ms Dougal fod ei mab yn "fabi hapus" ac nad oedd ganddi unrhyw bryderon am adael i Morgan warchod ei phlentyn.
Ychwanegodd iddi gredu fod ei phartner newydd yn "cwblhau ei theulu".
Cafodd Jensen-Lee ei adael gyda Morgan ar fore 30 Mawrth 2024 pan aeth Ms Dougal i'w gwaith.
Clywodd yr achos ei fod wedi ffraeo gyda'i gyn-gariad yn gynharach y diwrnod hwnnw
Wedi hynny fe aeth i "gwrdd â rhywun" i brynu canabis, cyn mynd i'r siop i brynu bwyd a chwrw, tra bod Jensen-Lee yn cysgu yn y car.

Yn ôl Morgan yn y cyfnod cyn i Jensen-Lee gael ei anafau bu'n glanhau baw ci oddi ar lawr y gegin cyn mynd i'r llofft i chwilio am ddillad glan i'r babi. Pan ddaeth i lawr y grisiau roedd y babi, meddai Morgan, "yn tagu".
Eglurodd sut iddo geisio atal y babi rhag mygu drwy wthio ei fys lawr ei wddw.
Fe geisiodd hefyd i ail-gychwyn calon Jensen-Lee. Dywedodd ei fod "mewn panig" ac "mi wnes i ddefnyddio dwy law".
Wrth ei groesholi mi ofynnodd Caroline Rees KC iddo a oedd wedi bwriadu brifo'r babi.
"Na", meddai Morgan.
"Fe wnaethoch chi wneud stori am Jensen-Lee yn mygu i guddio'r ffaith i chi ei ysgwyd yn ffyrnig," meddai Caroline Rees.
"Na, ro'n i mewn panig a do'n i erioed wedi bod yn y sefyllfa yma o'r blaen."

Fe geisiodd cymdogion yng Nghlydach helpu ar ôl i Morgan ddod allan o'r tŷ gyda'r babi yn ei freichiau
Cafodd Jensen-Lee ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Bu farw ym mreichiau ei fam y diwrnod canlynol, ar ôl iddi gytuno y dylid diffodd peiriant cynnal bywyd ei mab.
Dywedodd wrth y llys: "Byddai wedi bod yn sownd i beiriant am weddill ei fywyd. Roeddwn am ei gofio fel babi hapus."
Cafodd anafiadau Jensen-Lee eu disgrifio gan feddygon arbenigol yn yr achos fel rhai "catastroffig", a dywedon nhw fod difrod sylweddol i ymennydd, asgwrn cefn a llygaid Jensen-Lee.
Dywedodd un arbenigwr meddygol bod yr anafiadau ymysg y gwaethaf yr oedd wedi eu gweld erioed.
Morgan wedi 'dweud celwydd wrth bawb'
Wrth ddedfrydu Morgan, dywedodd Mrs Ustus Stacey: "Roedd Ms Dougal yn teimlo'n ffodus eich bod chi wedi dod i mewn i'w bywyd ac wedi ymddiried ynddoch chi gyda Jensen-Lee.
"Does gennym ni ddim ffordd o wybod yn union beth ddigwyddodd gan eich bod chi wedi dweud celwydd wrth yr heddlu ac wrth bawb rydych chi wedi siarad â nhw ers hynny.
"Yr hyn rydyn ni'n ei wybod yw... Fe wnaethoch chi ysgwyd Jensen-Lee mor dreisgar nes i chi achosi anafiadau difrifol.
"Er i'r digwyddiad ddigwydd o bosib mewn cyfnod byr iawn, roedd y cryndod, gyda phen Jensen-Lee yn symud yn ôl ac ymlaen yn gyflym, yn ddigon caled i achosi anafiadau mewnol i'w ben a achosodd ei farwolaeth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror

- Cyhoeddwyd6 Chwefror

- Cyhoeddwyd20 Ionawr
