Dyn wedi lladd ei lysfab pum mis oed ar ôl colli ei dymer - erlynydd

Jensen-Lee DougalFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jensen-Lee Dougal ar 31 Mawrth 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 29 oed wedi gwadu llofruddio ei lysfab pum mis oed ar ôl colli ei dymer yn ei gartref yn Abertawe.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Thomas Morgan wedi ysgwyd y babi yn dreisgar ar ôl ffraeo gyda'i gyn-gariad yn gynharach y diwrnod hwnnw.

Clywodd y rheithgor bod Jensen-Lee Dougal wedi cael anafiadau difrifol iawn, gan gynnwys niwed i'w ymennydd, sawl asgwrn wedi eu torri a gwaedu y tu ôl i'w lygad.

Mae Mr Morgan, o ardal Gorseinon, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth a thri chyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.

'Dig ac ymosodol'

Clywodd y llys fod Mr Morgan mewn perthynas gyda Jordan Dougal, mam Jensen-Lee, ac yn cael ei drin fel llystad i'r babi.

Dywedodd yr erlynydd Caroline Rees KC, bod Mr Morgan wedi "camddefnyddio'n ddifrifol yr ymddiriedaeth a roddwyd iddo" drwy anafu'r babi ar 30 Mawrth 2024.

Wrth agor yr achos, dywedodd Ms Rees bod Mr Morgan wedi ffraeo â Georgia Griffiths, ei gyn-bartner, yn gynharach y diwrnod hwnnw.

Mewn cyfres o negeseuon ar ôl y ffraeo, mi alwodd Mr Morgan hi'n enwau fel "llygoden ddrewllyd" a "chi bach drewllyd", yn ôl y rheithgor.

Cafodd Mr Morgan ei adael ar ei ben ei hun gyda Jensen-Lee wrth i Ms Dougal fynd i'w gwaith.

Honnodd Ms Rees bod "cyfnewid negeseuon cas wedi troi rhyw fath o switsh yn Thomas Morgan".

"Erbyn iddo fod ar ei ben ei hun gyda Jensen-Lee, roedd yn ddig ac yn ymosodol a ddim yn y cyflwr meddyliol iawn i ofalu am fabi ifanc ar ei ben ei hun."

Llys y Goron Abertawe Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Thomas Morgan ymddangos yn Llys y Goron Abertawe

Yn y gwaith, derbyniodd Ms Dougal alwad gan Mr Morgan yn dweud bod y babi yn tagu ac wedi stopio anadlu, clywodd y llys.

Rhedodd y diffynnydd allan o'r tŷ gyda'r babi i geisio cael cymorth gan gymydog, a wnaeth CPR ar Jensen‑Lee ac a alwodd am ambiwlans.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty a daeth i'r amlwg bod gan Jensen-Lee anaf "ddinistriol" i'w ymennydd.

Roedd lluniau pelydr-x hefyd wedi amlygu hen anafiadau i gorff y babi.

Bu farw Jensen-Lee ym mreichiau ei fam ar 31 Mawrth 2024 ar ôl i beiriant cynnal bywyd gael ei ddiffodd.

Dywedodd Ms Rees wrth y rheithgor bod y trais "wedi cyrraedd ei anterth" ar y diwrnod hwnnw, ond bod achosion eraill yn y gorffennol pan oedd Mr Morgan wedi anafu Jensen-Lee.

Dywedodd: "Dyma achos yr erlyniad: bod y diffynnydd, ar ôl colli ei dymer ar ôl ffraeo â Georgia Griffiths, wedi colli ei hunanreolaeth ac ysgwyd Jensen‑Lee gyda chymaint o drais nes iddo achosi anafiadau dinistriol a arweiniodd at farwolaeth Jensen‑Lee ym mreichiau ei fam, ag yntau ond yn bum mis oed."

Gwadu cyhuddiadau

Clywodd y llys fod Mr Morgan yn gwadu achosi'r anafiadau i Jensen‑Lee ac yn dweud iddo geisio achub y babi ar ôl iddo fynd yn sâl yn ei ofal.

Dywedodd ei fod wedi dod o hyd i Jensen‑Lee yn anymwybodol a gyda chŵyd yn ei geg ar ôl ei adael ar ei ben ei hun am gyfnod byr i nôl dillad glân iddo.

Mae Mr Morgan yn gwadu llofruddio Jensen‑Lee Dougal ac yn gwadu hefyd tri chyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, honiadau sy'n ymwneud â digwyddiadau rhwng 4 Ionawr a 30 Mawrth 2024.

Mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.